Comisiynwyd y strategaeth adfer ac adnewyddu Gwyrddach, Tecach, Cryfach gan Gyngor Caerdydd yn gynharach eleni ac mae wedi bod yn destun ymgynghoriad ers mis Mehefin. Cynhaliwyd cyfres o ddigwyddiadau ymgysylltu rhwng mis Mehefin a mis Hydref, gan gynnwys nifer o ddigwyddiadau sy'n ystyriol o blant i gasglu barn pobl ifanc ochr yn ochr â thrigolion, busnesau, y sector diwylliannol a rhanddeiliaid eraill. Cynhyrchodd arolwg dros fil o ymatebion hefyd.
Chwaraeodd yr arbenigwr byd-eang ar ddinasoedd, Dr Tim Williams, ran allweddol wrth helpu i lunio'r adroddiad i baratoi ar gyfer yr ymgynghoriad. Mae Dr Williams, sydd ag 20 mlynedd o brofiad yn gweithio'n genedlaethol ac yn rhyngwladol yn datblygu polisïau rheoli trefi a dinasoedd ar gyfer dinasoedd mawr fel Llundain a Sydney, yn dweud bod Caerdydd mewn sefyllfa dda i fanteisio ar y cyfleoedd niferus a fydd yn codi yn y byd ôl-Covid.
Wrth ysgrifennu yn ôl mis Mehefin, yn yr adroddiad ‘Symud Caerdydd Ymlaen ar ôl COVID-19', dywedodd Dr Williams: "Ar ddechrau'r argyfwng byd-eang hwn, roedd Caerdydd mewn sefyllfa dda a, chyda'r ysbryd, y strategaeth, y cydweithrediadau a'r arloesedd cywir, gall ddod yn ôl yn gryfach fyth. Wrth wneud hynny, gall ddarparu hyd yn oed mwy o fuddion i'w chymuned ei hun a'r Ddinas-ranbarth. Gall Caerdydd ffynnu ar ôl Covid, gan gynnig gwell safon bywyd i'w thrigolion ynghyd â rhaglen economaidd ar gyfer adferiad 'gwyrdd' sy'n seiliedig ar dechnoleg.
"Mae cyfle i Gaerdydd, wedi'i symbylu gan Covid-19, ddangos esiampl i ddinasoedd eraill o'r un maint. Gan adeiladu ar ei chryfderau sefydledig a pharhaus, yr uchelgais sydd ganddi i lwyddo, sgiliau a dychymyg ei phobl a'r arweinyddiaeth y mae eisoes wedi'i dangos, bydd Caerdydd nid yn unig yn ‘bownsio'n ôl' - does dim amheuaeth am hynny - bydd yn ‘bownsio ymlaen'."
Comisiynwyd yr adroddiad gan Gyngor Caerdydd yn benodol i herio'r awdurdod ac i fireinio ei strategaethau a'i ymyriadau ei hun ar gyfer adferiad llwyddiannus ar ôl y pandemig. Nawr, ar ôl ymgynghori â'r cyhoedd, argymhellir bod Cabinet Cyngor Caerdydd yn derbyn yr adroddiad yn ei gyfarfod nesaf ddydd Iau, 16 Rhagfyr.
Mae'r strategaeth Gwyrddach, Tecach a Chryfach yn cwmpasu ystod eang o fesurau y mae'n argymell bod y cyngor yn gweithio tuag atynt, gan gynnwys:
Dywedodd y Cynghorydd Huw Thomas, arweinydd Cyngor Caerdydd: "Rydym wedi defnyddio adroddiad Dr Williams i helpu i lywio a llunio ein syniadau a'n strategaethau i arwain Caerdydd i mewn i'r byd ar ôl y pandemig. Mae'r Cyngor hwn yn benderfynol o sicrhau'r canlyniadau gorau posibl i'w holl drigolion. Ymgynghorwyd ar y cynlluniau hyn ac mae'r rhan fwyaf o'r ymatebwyr wedi dangos cefnogaeth i'r strategaeth. Mae ein trigolion yn credu, fel ni, y bydd Caerdydd yn adfer o'r pandemig, ac y gall y cynlluniau hyn fod o fudd i bawb sy'n byw a gweithio yma. Wrth gwrs, byddwn yn parhau â'n sgyrsiau gyda thrigolion a rhanddeiliaid y ddinas ar sut y gallwn lunio ac arwain y gwaith o adfer ac adnewyddu prifddinas Cymru. Rydyn ni am adeiladu Caerdydd newydd, dinas sy'n gweithio i bawb sy'n byw ynddi, ac sy'n gweithio i Gymru. Dinas a fydd yn parhau i dyfu a ffynnu fel y mae wedi ‘neud dros yr 20 mlynedd diwethaf. Dinas wych i fyw ynddi ac un sy'n gallu parhau i bweru llwyddiant economaidd Cymru."
I ddarllen adroddiad strategaeth Gwyrddach, Tecach a Chryfach Caerdydd yn llawn cliciwch yma:https://cardiff.moderngov.co.uk/ieListDocuments.aspx?CId=151&MId=6660&LLL=1
Gan edrych tuag at yr adferiad tymor hwy, mae'r adroddiad yn canolbwyntio ar 6 datganiad cenhadaeth a blaenoriaeth.
Dyma nhw:
Cenhadaeth 1: Ailddychmygu canol y ddinas.
Mae canol dinasoedd yn wynebu heriau newydd mewn byd ôl-Covid a gallai'r newidiadau a welwyd yn y ffordd rydym yn gweithio, siopa a threulio'n hamser hamdden oll gael effaith fawr ar ein dinasoedd. Mae'n hanfodol ein bod yn gweithio i ddiogelu swyddi yn ein sectorau lletygarwch, manwerthu a swyddfeydd drwy ddenu pobl yn ôl i ganol y ddinas. Er y bydd datblygiadau adeiladu a gwella seilwaith y ddinas yn chwarae rhan bwysig o ran darparu swyddi a chyfleoedd gwaith, bydd angen cymryd camau i ymateb i economi'r nos, gwella'r cynnig diwylliannol, bywiogi mannau cyhoeddus a gwella trafnidiaeth gyhoeddus a dewisiadau teithio llesol i greu Caerdydd unigryw y mae pobl am ymweld â hi a bod yn rhan ohoni.
Blaenoriaethau
Cenhadaeth 2: Dinas i bawb
Mae'r pandemig wedi ehangu anghydraddoldebau ac mae wedi effeithio'n andwyol ar yr henoed, menywod a'r rhai o gefndir BAME. Mae profiadau bywyd pobl ifanc wedi bod yn gyfyngedig drwy gydol y cyfnod clo ac mae angen cymorth penodol. Bydd angen i ddinasoedd fynd i'r afael â'r ffactorau hirdymor sy'n arwain at anghydraddoldebau iechyd y mae trigolion yn eu hwynebu yn ein cymunedau mwy difreintiedig, gan gynnwys mynediad at swyddi da, tai ac addysg.
Blaenoriaethau
Cenhadaeth 3: Dinas 15 munud
Mae'r pandemig wedi tynnu sylw at bwysigrwydd ein cymunedau lleol, canolfannau cymdogaeth a mannau gwyrdd. Gyda'r mwyafrif yn gweithio gartref yn ystod y cyfnod clo gwelsom newidiadau mawr i'r ffordd rydym yn teithio, siopa a defnyddio'r mannau o'n hamgylch. Gyda gweithio gartref yn debygol o barhau ar ryw ffurf neu'i gilydd, mae cyfleoedd wedi ymddangos a all gryfhau ein canolfannau lleol yn yr hirdymor. Y syniad o 'ddinas 15 munud' yw bod y gwasanaethau y gallai fod eu hangen arnoch, o barciau i siopau, ar gael o fewn 15 munud i'ch cartref. Mae cyfle i wneud y rhwydwaith presennol o ganolfannau lleol llwyddiannus hyd yn oed yn fwy bywiog, prysur a pherthnasol i gymunedau lleol, ac i fath newydd o weithiwr ystwyth a all rannu ei ddiwrnodau gwaith rhwng y cartref a swyddfa yn y ddinas. Mae'r manteision posibl, o lai o dagfeydd i adfywio cymunedol, yn glir i'w gweld.
Blaenoriaethau
Cenhadaeth 4: Adfywio a arweinir gan ddiwylliant a chwaraeon
Mae'r pandemig wedi cynyddu pwysigrwydd y celfyddydau, diwylliant a chwaraeon i Gaerdydd, ac mae pob un ohonynt wedi chwarae rhan enfawr yn y gwaith o ddenu busnesau ac ymwelwyr i Gaerdydd yn y gorffennol yn ogystal â gwneud ein dinas yn lle gwych i fyw ynddo. Mae diwylliant, creadigrwydd a chwaraeon yn siapio dinasoedd fel lleoedd i fyw ynddynt ac ymweld â nhw. Mae sicrhau bod ein hasedau creadigol a diwylliannol yn cael yr effaith fwyaf posibl yn un o'r ffyrdd allweddol y gallwn wahaniaethu Caerdydd oddi wrth ddinasoedd eraill. Bydd profiadau lleol unigryw a dilys yn dod yn bwysicach wrth ddenu twristiaeth ddomestig a rhyngwladol yn y dyfodol ac mae diwylliant yn cael ei gydnabod fwyfwy fel ased lles allweddol i drigolion unrhyw ddinas. Wrth symud ymlaen mae angen i'r ddinas ganiatáu a darparu lle ar gyfer gweithgareddau creadigol, diwylliannol a chwaraeon.
Blaenoriaethau
Cenhadaeth 5: Dinas Dechnoleg
Mae dinasoedd llwyddiannus modern yn cael eu sbarduno gan sgiliau, gwybodaeth ac arbenigedd y bobl a'r busnesau sy'n byw ac yn gweithredu yno. Mae'r pandemig hefyd wedi dangos yr effaith y gall buddsoddi mewn technoleg ei chael i wella ein bywydau a chefnogi twf busnes. Cafodd y ffaith fod technoleg wedi galluogi cymaint o bobl i barhau i weithio gartref yn ystod y cyfnod clo fudd economaidd enfawr, gan arbed swyddi a bywoliaethau. Wrth i Gaerdydd ddod allan o'r pandemig, mae angen i ni dyfu ein heconomi wybodaeth gan greu mwy o swyddi gwell. Mae angen i ni gadw pobl dalentog a darparu sylfaen a rhwydwaith iddynt a all helpu i wireddu eu potensial. Erbyn hyn mae cyfleoedd i ddinasoedd llai, gydag ansawdd bywyd uwch, ddenu busnes i ffwrdd o'r mega-ddinasoedd sydd ag ansawdd bywyd ac amgylchedd gwaeth.
Blaenoriaethau
Cenhadaeth 6: Adferiad Un Blaned
Ers y pandemig mae mwy a mwy o ddinasoedd ledled y byd yn croesawu cymunedau di-garbon, gwyrddach, glanach a mwy deniadol i fyw ynddynt. Daeth Covid â phwysigrwydd ein parciau a'n mannau gwyrdd i'r amlwg a gwnaeth y gostyngiad mewn allyriadau traffig a thagfeydd annog llawer i roi cynnig ar feicio yn y ddinas am y tro cyntaf. Wrth i Gaerdydd ddod allan o'r argyfwng, mae angen defnyddio'r gwersi a ddysgwyd, a'r cyflymder a'r gallu i newid y ffordd yr oeddwn yn gwneud pethau yn sgil Covid, i fynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd, sef y risg fwyaf i bob un ohonom o hyd. Mae dinasoedd blaengar yn manteisio ar y cyfle i ddatgarboneiddio, datblygu cynlluniau aer glân, trawsnewid y ffordd y mae pobl yn symud o amgylch dinasoedd tra'n lleihau'r ddibyniaeth ar geir preifat. Maent hefyd yn sefydlu rhaglenni buddsoddi mewn cynlluniau economi werdd. Mae strategaeth Caerdydd Un Blaned yn nodi sut y bydd Caerdydd yn ymdrechu i fod yn Ddinas Carbon Niwtral erbyn 2030 - gan greu swyddi 'gwyrdd' newydd a chyfleoedd economaidd tra'n hybu gwell iechyd a lles, wrth i ni geisio chwarae ein rhan i fynd i'r afael â'r Argyfwng Hinsawdd.
Blaenoriaethau
Deg mantais i Gaerdydd yn ôl adroddiad Dr Williams
Pum peth sydd ei angen ar Gaerdydd yn ôl adroddiad Dr Williams