Back
Dod â chartrefi gwag Caerdydd yn ôl i ddefnydd

10/12/21


Mae Cyngor Caerdydd wedi datgelu ei gynlluniau i helpu i sicrhau bod cartrefi gwag, sy'n eiddo preifat i Gaerdydd yn cael eu defnyddio eto.

Ar hyn o bryd mae 1,355 o gartrefi gwag sy'n eiddo preifat yn y ddinas ac mae'r cyngor am weld cymaint ohonynt â phosibl yn cael eu defnyddio eto, gan gynnig tai y mae mawr eu hangen.

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Dai a Chymunedau, y Cynghorydd Lynda Thorne: "Derbynnir yn gyffredinol fod cartrefi gwag hirdymor yn adnodd sy'n cael ei wastraffu. Mae hwn yn fater sydd wedi dod yn amlycach yn sgîl y pandemig a'r argyfwng tai.

"Gall eiddo gwag ddenu sgwatio, fandaliaeth, camddefnyddio cyffuriau, ymddygiad gwrthgymdeithasol, llosgi bwriadol, llygod. Gallant achosi difrod i gartrefi cyfagos ac os bydd eiddo'n parhau'n wag, mae'r dirywiad anochel yn cael effaith ar gymdogion a bod yn felltith ar gymunedau.

"Er bod Caerdydd wedi gweld gostyngiad mewn anheddau gwag hirdymor i lawr o 1,568 yn 2018/19 i 1,355 nawr, mae'n amlwg bod angen ffocws arnom a rhai polisïau newydd a all helpu i gael yr eiddo hyn yn ôl i ddefnydd, gan gartrefu pobl a theuluoedd.

"Gan weithio gyda Llywodraeth Cymru rydym wedi datblygu Polisi a Chynllun Gweithredu Cartrefi Gwag sy'n amlinellu'r cymorth y gellir ei gynnig i berchnogion i'w hannog i ddod ag eiddo - sydd wedi bod yn wag am fwy na chwe mis - unwaith eto i ddefnydd. Mae'r polisi hwn hefyd yn nodi'r dulliau gorfodi sydd ar gael lle mae cyngor a chymorth yn methu."

Yng Nghaerdydd, codir cyfradd premiwm o dreth gyngor ar berchnogion eiddo heb ddodrefn sydd wedi bod yn wag am fwy na 12 mis ar 150% o'r gyfradd a aseswyd. Mae'r arian a gynhyrchir o'r tâl hwn wedi'i neilltuo ar gyfer yr Adran Dai a'i ddefnyddio i helpu i ddefnyddio eiddo gwag unwaith eto. Ar hyn o bryd mae'r arian yn ariannu dau swyddog Gwasanaethau Rheoliadol a Rennir y mae eu ffocws bellach yn gyfan gwbl ar sicrhau bod cartrefi gwag yn cael eu defnyddio'n drachefn.

Bydd y polisi newydd yn gweld:

  • Post blynyddol i bob perchennog sy'n rhoi cyngor wedi'i deilwra wrth agor deialog ar ddyfodol eu heiddo gwag;
  • Bydd perchnogion yn cael eu cyfeirio at ddatblygwyr, cymdeithasau tai neu gynllun prydlesu'r Cyngor ei hun i helpu i sicrhau bod eiddo'n cael ei ddefnyddio unwaith yn rhagor;
  • Bydd y cyngor hefyd yn hyrwyddo Cynllun Benthyciadau Troi Tai'n Gartrefi'r cyngor;
  • Delio â chwynion gan gymydog am gyflwr eiddo, ward ac aelodau'r Senedd; a
  • Chymryd camau gorfodi i ddelio ag eiddo ansicr neu unrhyw faterion sy'n ymwneud â dadfeilio sy'n achosi niwsans i eiddo cyfagos.

Mewn rhai achosion cymhleth lle mae eiddo wedi bod yn wag am gyfnodau hir heb benderfyniad, gall y cyngor ddefnyddio pwerau Prynu Gorfodol. Gallai hyn ddod ag eiddo i bortffolio'r cyngor ei hun neu eu paratoi i'w gwerthu i ddatblygwr.

Gall y cyngor hefyd gyflwyno hysbysiad i berchennog i wneud gwaith gwella. Os byddant yn methu â gwneud hynny, gall y Cyngor gwblhau'r gwaith gyda chostau ariannol unrhyw atgyweiriadau a ddefnyddir wedyn i orfodi gwerthu'r eiddo i adennill y ddyled.

Ychwanegodd y Cynghorydd Thorne: "Rydym am feithrin cysylltiadau da â pherchnogion a'u hannog i ddychwelyd eu heiddo i ddefnydd, gan roi'r holl gyngor a chymorth sydd eu hangen arnynt i'w helpu i wneud hynny. Mae gan ddod â'r mathau hyn o eiddo yn ôl i ddefnydd, sy'n gysylltiedig â'n rhaglen adeiladu tai cyngor ein hunain, y potensial i wneud cynnydd sylweddol wrth i ni geisio darparu mwy o dai fforddiadwy ar draws y ddinas."