07/12/21
Dyma'r newyddion diweddaraf gan Gyngor Caerdydd, sy'n cwmpasu: nifer yr achosion a phrofion COVID-19 yng Nghaerdydd; y cyfanswm ar gyfer Caerdydd a Bro Morgannwg; a chwestiynau cyffredin am y Pentref Chwaraeon arfaethedig.
Achosion a Phrofion Caerdydd - Data'r 7 Diwrnod (26 Tachwedd - 2Rhagfyr)
Yn seiliedig ar ffigurau diweddaraf Iechyd Cyhoeddus Cymru
Mae'r data'n gywir ar:
6 Rhagfyr 2021, 09:00
Achosion: 1,809
Achosion fesul 100,000 o'r boblogaeth: 493.0 (Cymru: 493.3 achosion fesul 100,000 o'r boblogaeth)
Achosion profi: 10,485
Profion fesul 100,000 o'r boblogaeth: 2,857.7
Cyfran bositif: 17.3% (Cymru: 16.8% cyfran bositif)
Diweddariad Statws Brechu Bwrdd lechyd Pritysgol Caerdydd a'r Fro - 7 Rhagfyr
Ddarparwyd y data gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro
Sylwer y gall fod mân ddiwygiadau i ddata wrth iddo gael ei ddilysu dros amser
Cyfanswm nifer y dosau brechu a roddwyd gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro hyd yn hyn, yn y ddwy ardal awdurdod lleol:893,064(Dos 1:388,450Dos 2: 353,085DOS 3:6,341Dosau atgyfnertha:145,141)
Data Cohort - Diweddarwyd ddiwethaf 7 Rhagfyr
*Y rhai sydd wedi derbyn dau ddos o frechlyn COVID-19, ac eithrio'r rhai sy'n ddifrifol imiwn ataliedig yr argymhellir eu bod yn cael tri dos.
**Data gymerwyd o ffynhonnell amgen.
Pentref Chwaraeon Rhyngwladol Caerdydd - Cwestiynau Cyffredin
Yn ddiweddar, mae Cyngor Caerdydd wedi cyflwyno ei weledigaeth i gwblhau'r gyrchfan hamdden yn y Pentref Chwaraeon Rhyngwladol ym Mae Caerdydd.
Ymhlith pethau eraill, roedd y weledigaeth hon yn cynnwys cynigion ar gyfer cyfleusterau beicio newydd a gwell, gan gynnwys Felodrom awyr agored 333m, Canolfan Berfformiad bwrpasol, Cylchffordd Gaeëdig 1km, Trac BMX Awyr Agored a siop Feiciau fformat mawr ar y safle.
Mae'r ddogfen Cwestiynau Cyffredin hon wedi'i pharatoi i ymateb i ymholiadau diweddar. Bydd y ddogfen yn cael ei diweddaru wrth i fwy o gwestiynau gael eu gofyn er mwyn sicrhau cysondeb o ran ymateb a thryloywder wrth i'r prosiect fynd yn ei flaen.
Mwy yma:Pentref Chwaraeon Rhyngwladol Caerdydd - Cwestiynau Cyffredin (newyddioncaerdydd.co.uk)