Back
Diweddaraf Cyngor Caerdydd: 03 Rhagfyr

Dyma'r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Caerdydd, gan gynnwys: Caerdydd a Bro Morgannwg yn ymateb i'r Argyfwng Gofal Cenedlaethol; nifer achosion a phrofion COVID-19 Caerdydd; achosion COVID-19 a adroddwyd yn ysgolion Caerdydd yn ystod y 7 diwrnod diwethaf; cyfanswm brechu Caerdydd a Bro Morgannwg; a delweddau CGI newydd sbon yn datgelu cynlluniau ar gyfer y Pentref Chwaraeon Rhyngwladol wrth i'r Cais Cynllunio gael ei gyflwyno.

 

Datganiad gan Gyngor Caerdydd, Cyngor Bro Morgannwg, Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro ac Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru

Caerdydd a Bro Morgannwg yn ymateb i'r Argyfwng Gofal Cenedlaethol

Beth sy'n digwydd a sut y gallwch chi helpu

Mae Caerdydd a Bro Morgannwg — fel gweddill y DU — yn wynebu galw digynsail am wasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol ar hyn o bryd.

Ar hyn o bryd, rydym yn gweld cynnydd o 30% yn nifer y bobl sydd angen gofal gartref, o'i gymharu â niferoedd cyn y pandemig.

Mae'r cynnydd enfawr hwn yn y galw - ochr yn ochr â phrinder gweithwyr gofal a staff gofal iechyd ledled y DU - yn arwain at oedi wrth ddarparu gofal ac yn atal cleifion rhag cael eu rhyddhau'n brydlon o ysbytai.

Nid yw cleifion sy'n ffit yn feddygol yn cael eu rhyddhau o'r ysbyty mewn modd amserol, sy'n arwain at brinder gwelyau sylweddol ar draws safleoedd ysbytai. Mae hyn yn ei dro yn arwain at amseroedd aros hir am ambiwlans yn ein Huned Achosion Brys, sy'n golygu na all criwiau ambiwlans ymateb i alwadau 999 yn y gymuned, felly mae pobl yn aros yn hirach am ambiwlansys.

Mae ein darparwyr gofal, sydd wedi parhau i ddarparu gwasanaethau hanfodol drwy gydol y pandemig, bellach yn ei chael hi'n anodd bodloni'r cynnydd yn y galw am ofal ac i ddod o hyd i'r staff i ymuno â'r sector.

Mae hyn i gyd yn golygu ein bod ni (Cyngor Caerdydd, Cyngor Bro Morgannwg, Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro ac Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru) yn gorfod edrych ar wahanol ffyrdd o leddfu'r pwysau, helpu'r GIG, a darparu gofal i'r rhai sydd â'r angen mwyaf.

Mae timau iechyd a gofal cymdeithasol yn gwneud popeth posibl i gefnogi pobl sy'n ddigon da i adael yr ysbyty ond sydd angen gofal parhaus. Rhoddir blaenoriaeth i'r rhai mwyaf agored i niwed, ac mae pecynnau iechyd a gofal amgen yn cael eu cynnig fel mesur tymor byr. Mae mwy o ofalwyr a staff iechyd hefyd yn cael eu recriwtio i gefnogi pobl mewn angen. Mae timau Gofal Cymdeithasol a phartneriaid yn y trydydd sector hefyd yn cefnogi pobl i osgoi cael eu derbyn i'r ysbyty yn y lle cyntaf fel bod gofal yn cael ei dderbyn yn nes at eu cartrefi.

Ond, ar hyn o bryd nid yw hyn i gyd yn ddigon o hyd, ac felly rydym yn galw arnoch i ymuno â ni ac i helpu i gefnogi'r rhai mwyaf agored i niwed yn ein cymunedau, ar yr adeg anodd hon.

Rydyn ni i gyd yn gwybod y byddai'n well gan gleifion beidio â threulio amser hir yn yr ysbyty a gall arosiadau hir fod yn niweidiol oherwydd gallai cleifion ddatgyflyru ac wynebu mwy o risg o gwympo a cholli annibyniaeth a hyder.  Mae treulio cyn lleied o amser yn yr ysbyty â phosibl nid yn unig yn well i gleifion ond bydd hefyd yn rhyddhau gwelyau hanfodol y GIG fel y gallwn barhau i ofalu am y rhai sydd ag anghenion gofal brys ac acíwt.

Darllenwch fwy yma:

https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/28133.html

 

Achosion a Phrofion Caerdydd - Data'r 7 Diwrnod (22 Tachwedd - 28 Tachwedd)

Yn seiliedig ar ffigurau diweddaraf Iechyd Cyhoeddus Cymru

Mae'r data'n gywir ar:

02 Rhagfyr 2021, 09:00

 

Achosion: 1,756

Achosion fesul 100,000 o'r boblogaeth: 478.6 (Cymru: 472.1 achosion fesul 100,000 o'r boblogaeth)

Achosion profi: 9,696

Profion fesul 100,000 o'r boblogaeth: 2,642.7

Cyfran bositif: 18.1% (Cymru: 17.0% cyfran bositif)

 

Achosion COVID-19 a adroddwyd yn ysgolion Caerdydd yn ystod y 7 diwrnod diwethaf (26/11/21 i 02/12/21)

Cyfanswm y nifer a adroddwyd = 383

  • Disgyblion a myfyrwyr = 317
  • Staff, gan gynnwys staff addysgu = 66

 

Diweddariad Statws Brechu Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro - 02 Rhagfyr

Ddarparwyd y data gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro

Sylwer y gall fod mân ddiwygiadau i ddata wrth iddo gael ei ddilysu dros amser

Cyfanswm nifer y dosau brechu a roddwyd gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro hyd yn hyn, yn y ddwy ardal awdurdod lleol:  878,602 (Dos 1: 387,958 Dos 2:  350,878 DOS 3: 6,240 Dosau atgyfnertha: 133,482)

 

Data Cohort - Diweddarwyd ddiwethaf 01 Rhagfyr

 

  • 80 and over: 20,167 / 94.7% (Dos 1) 20,009 / 93.9% (Dos 2 a 3*) 17,149 / 85.7% (Dosau atgyfnertha)
  • 75-79: 14,975 / 96.5% (Dos 1) 14,850 / 95.7% (Dos 2 a 3*) 12,916 / 87% (Dosau atgyfnertha)
  • 70-74: 21,402 / 95.8% (Dos 1) 21,290 / 95.3% (Dos 2 a 3*) 19,010 / 89.3% (Dosau atgyfnertha)
  • 65-69: 22,003 / 94.4% (Dos 1) 21,771 / 93.4% (Dos 2 a 3*) 18,079 / 83% (Dosau atgyfnertha)
  • 60-64: 26,134 / 92.5% (Dos 1) 25,813 / 91.4% (Dos 2 a 3*) 19,154 / 74.2% (Dosau atgyfnertha)
  • 55-59: 29,460 / 90.5% (Dos 1) 28,990 / 89% (Dos 2 a 3*) 10,691 / 36.9% (Dosau atgyfnertha)
  • 50-54: 29,168 / 88.2% (Dos 1) 28,567 / 86.4% (Dos 2 a 3*) 8,665 / 30.3% (Dosau atgyfnertha)
  • 40-49: 55,794 / 82.2% (Dos 1) 54,088 / 79.6% (Dos 2 a 3*) 10,172 / 18.8% (Dosau atgyfnertha)
  • 30-39: 61,769 / 76.5% (Dos 1) 58,267 / 72.2% (Dos 2 a 3*) 7,296 / 12.5% (Dosau atgyfnertha)
  • 18-29: 82,591 / 77.9% (Dos 1) 74,478 / 70.3% (Dos 2 a 3*) 7,026 / 9.4% (Dosau atgyfnertha)
  • 16-17: 4,144 / 75.1% (Dos 1) 988 / 17.9% (Dos 2 a 3*) 89 / 9% (Dosau atgyfnertha)
  • 12-15: 14,700 / 54.9% (Dos 1) 499 /1.9% (Dos 2 a 3*)

 

  • Yn ddifrifol imiwno-ataliedig: 6,783 / 99.4% (Dos 1) 5,732 / 84% (Dos 2 a 3*) 25 / 0.4% (Dosau atgyfnertha)
  • Preswylwyr cartrefi gofal: 2,095 / 98.4% (Dos 1) 2,076 / 97.5% (Dos 2 a 3*) 1,776 / 85.5% (Dosau atgyfnertha)
  • Gweithwyr cartrefi gofal: 3,717 / 98.9% (Dos 1) 3,649 / 97.1% (Dos 2 a 3*) 2,591 / 71% (Dosau atgyfnertha)
  • Gweithwyr Gofal Iechyd: 27,152 / 98.1% (Dos 1) 26,858 / 97% (Dos 2 a 3*) 21,220 / 79% (Dosau atgyfnertha)
  • Gweithwyr Gofal Cymdeithasol**: 6,999 / 70.5% (Dosau atgyfnertha)
  • Yn glinigol agored i niwed: 11,229 / 94.5% (Dos 1) 11,054 / 93.1% (Dos 2 a 3*) 5,698 / 51.5% (Dosau atgyfnertha)
  • Cyflyrau Iechyd Sylfaenol: 46,010 / 90.5% (Dos 1) 44,549 / 87.6% (Dos 2 a 3*e) 18,538 / 41.6% (Dosau atgyfnertha)
  • Cyflyrau Iechyd Sylfaenol(12-15): 606 / 61.2% (Dos 1) 341 / 34.4% (Dos 2 a 3*)

 

*Y rhai sydd wedi derbyn dau ddos o frechlyn COVID-19, ac eithrio'r rhai sy'n ddifrifol imiwn ataliedig yr argymhellir eu bod yn cael tri dos.

**­Data gymerwyd o ffynhonnell amgen.

 

Delweddau CGI newydd sbon yn datgelu cynlluniau ar gyfer y Pentref Chwaraeon Rhyngwladol wrth i'r Cais Cynllunio gael ei gyflwyno

Mae'r delweddau diweddaraf a gynhyrchwyd gan gyfrifiadur (CGI) wedi'u rhyddhau er mwyn dangos sut mae cynlluniau ar gyfer y Pentref Chwaraeon Rhyngwladol newydd ym Mae Caerdydd yn mynd rhagddynt ac mae cais wedi ei gyflwyno i'w gymeradwyo ar gyfer y Felodrom newydd.

Mae'r Felodrom newydd sbon a'i Hyb Perfformiad cysylltiedig a Thrac Beicio Oddi ar y Ffordd yn 2 o'r cyfleusterau beicio newydd cyffrous y disgwylir gallu eu cynnig yn y Pentref Chwaraeon Rhyngwladol yn 2022/23.

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Ddiwylliant, Hamdden a Chwaraeon, y Cynghorydd Peter Bradbury:  "Mae'r Pentref Chwaraeon Rhyngwladol yn ymwneud â dod â phobl a chwaraeon at ei gilydd, gan greu lle ffyniannus, cymdeithasol gynhwysol a hygyrch i fwynhau ystod eang o weithgareddau chwaraeon a hamdden.  Mae'n gyffrous gallu parhau i gefnogi datblygiad chwaraeon a darparu gwell cyfleoedd i athletwyr, unigolion, clybiau, grwpiau hamdden, timau a defnyddwyr newydd ar bob lefel.

"Mae'r Cyngor yn deall bod gwaddol gwych wedi'i greu gan Drac Beicio Maendy ac y bydd yr adleoli yn dod ag amryw o emosiynau i'r wyneb.  Gyda hyn mewn golwg, mae'r Cyngor wedi ymrwymo i groesawu'r twf o ran Chwaraeon Beicio wrth iddo symud ymlaen gyda datblygiad y Pentref Chwaraeon. Y felodrom a'r trac beicio oddi ar y ffordd newydd yw'r camau cyntaf i gysylltu ac integreiddio chwaraeon o fewn man canolog a darparu cyfleuster rhagorol ar gyfer y ddinas gyfan y gall pawb ei fwynhau am flynyddoedd lawer i ddod.

"Mae cynlluniau ar gyfer y felodrom newydd, y trac oddi ar y ffordd a'r cylched ffordd caeedig yn y Bae yn parhau i gael eu cefnogi gan sefydliadau beicio allweddol gan gynnwys Cyrff Llywodraethu Cenedlaethol, Clybiau Beicio a chlybiau a grwpiau chwaraeon eraill.  Maent wedi cymryd rhan yn ein helpu i lunio'r manylebau ar gyfer y felodrom, felly mae'n gweithio i bawb, o ddechreuwyr i rai sy'n gwneud eu camp yn broffesiynol."

Darllenwch fwy yma:

https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/28135.html