Back
Delweddau CGI newydd sbon yn datgelu cynlluniau ar gyfer y Pentref Chwaraeon Rhyngwladol wrth i'r Cais Cynllunio gael ei

03/12/21 

Mae'r delweddau diweddaraf a gynhyrchwyd gan gyfrifiadur (CGI) wedi'u rhyddhau er mwyn dangos sut mae cynlluniau ar gyfer y Pentref Chwaraeon Rhyngwladol newydd ym Mae Caerdydd yn mynd rhagddynt ac mae cais wedi ei gyflwyno i'w gymeradwyo ar gyfer y Felodrom newydd. 

Mae'r Felodrom newydd sbon a'i Hyb Perfformiad cysylltiedig a Thrac Beicio Oddi ar y Ffordd yn 2 o'r cyfleusterau beicio newydd cyffrous y disgwylir gallu eu cynnig yn y Pentref Chwaraeon Rhyngwladol yn 2022/23. 

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Ddiwylliant, Hamdden a Chwaraeon, y Cynghorydd Peter Bradbury:  "Mae'r Pentref Chwaraeon Rhyngwladol yn ymwneud â dod â phobl a chwaraeon at ei gilydd, gan greu lle ffyniannus, cymdeithasol gynhwysol a hygyrch i fwynhau ystod eang o weithgareddau chwaraeon a hamdden.  Mae'n gyffrous gallu parhau i gefnogi datblygiad chwaraeon a darparu gwell cyfleoedd i athletwyr, unigolion, clybiau, grwpiau hamdden, timau a defnyddwyr newydd ar bob lefel. 

"Mae'r Cyngor yn deall bod gwaddol gwych wedi'i greu gan Drac Beicio Maendy ac y bydd yr adleoli yn dod ag amryw o emosiynau i'r wyneb.  Gyda hyn mewn golwg, mae'r Cyngor wedi ymrwymo i groesawu'r twf o ran Chwaraeon Beicio wrth iddo symud ymlaen gyda datblygiad y Pentref Chwaraeon. Y felodrom a'r trac beicio oddi ar y ffordd newydd yw'r camau cyntaf i gysylltu ac integreiddio chwaraeon o fewn man canolog a darparu cyfleuster rhagorol ar gyfer y ddinas gyfan y gall pawb ei fwynhau am flynyddoedd lawer i ddod. 

"Mae cynlluniau ar gyfer y felodrom newydd, y trac oddi ar y ffordd a'r cylched ffordd caeedig yn y Bae yn parhau i gael eu cefnogi gan sefydliadau beicio allweddol gan gynnwys Cyrff Llywodraethu Cenedlaethol, Clybiau Beicio a chlybiau a grwpiau chwaraeon eraill.  Maent wedi cymryd rhan yn ein helpu i lunio'r manylebau ar gyfer y felodrom, felly mae'n gweithio i bawb, o ddechreuwyr i rai sy'n gwneud eu camp yn broffesiynol." 

A picture containing indoor, wall, ceiling, surroundedDescription automatically generated

Dwedodd Cadeirydd Maindy Flyers CC, Deian Jones, "Er ein bod yn amlwg yn siomedig o golli felodrom Maendy gyda'i hanes, mae Maindy Flyers yn cefnogi'r cynnig beicio newydd a gynigir gan Gyngor Caerdydd yng nghanol y Pentref Chwaraeon. Mae gan y cyfuniad o gylched ffordd caeedig a felodrom newydd gyda gofod newid, storio a chymdeithasu oddi ar y trac y potensial i greu canolbwynt beicio o'r radd flaenaf y gall Caerdydd fod yn falch ohono. 

"Credwn fod yn rhaid i lwyddiant daro'r cydbwysedd cywir o ran meini prawf dylunio sy'n sicrhau'r defnydd gorau posibl gan y gymuned, o blant 5 oed yn eu sesiwn Maindy Flyers gyntaf, i'r rhai sy'n gobeithio cystadlu yn y Gemau Olympaidd rhyw ddydd. Mae ein clwb eisoes yn llawn o ran niferoedd, ac rydym am sicrhau bod symud i'r ganolfan feicio yn caniatáu i'r clwb gadw a thyfu ein darpariaeth hyfforddi a rasio. Mae cylched ffordd caeedig ddiogel, o safon cystadlu a felodrom y gall reidwyr o bob gallu ei ddefnyddio ym mhob tywydd, yn hanfodol os ydym am barhau i roi sesiynau hyfforddi o safon i'n haelodau. 

"Rydym yn cael ein calonogi gan ymrwymiad Cyngor Caerdydd i bontio'n ddi-dor i'r felodrom newydd, sy'n ofyniad hanfodol gan sicrhau nad oes unrhyw effaith ar gynnydd a datblygiad ein haelodau.  

"Bydd lleoliad y ganolfan feicio fel rhan o'r Pentref Chwaraeon cyffredinol yn golygu y gallwn ddenu hyd yn oed mwy o bobl i'r gamp a bydd yn darparu cyfleusterau gwych i ni fel y gallwn feithrin pencampwyr y dyfodol." 

Dwedodd Jake Bailey, Cadeirydd Clwb Beicio Ajax Caerdydd: "Mae Felodrom Maendy wedi bod yn dirnod beicio pwysig yng Nghaerdydd dros y 70 mlynedd diwethaf.  Mae gan y Gymuned Feicio gyfle unigryw bellach i adeiladu seilwaith beicio newydd a fydd yn mynd â ni drwy'r 70 mlynedd nesaf.  Dyma gyfle unwaith mewn oes i greu cartref ar gyfer beicio yn Ninas Caerdydd.  

"Felodrom awyr agored o'r radd flaenaf ac ardal fewnol, cwrs oddi ar y ffordd, cylched ffordd caeedig a chanolfan feicio a fydd, gyda'i gilydd, yn dod yn ganolbwynt i feicwyr ar draws y Ddinas.  

"Ar gyfer Clwb Beicio Ajax, mae gallu darparu amrywiaeth o weithgareddau i aelodau, ynghlwm â man cymdeithasol pwrpasol lle gallwn drafod a chynllunio popeth sy'n ymwneud â beicio yn beth cyffrous. Mae'r cyfle i bobl leol, beicwyr, clybiau a'r gymuned feicio ehangach, yn enfawr.  Alla i ddim aros iddo gael ei adeiladu." 

Dwedodd James Williams, Prif Swyddog Gweithredol Athletau Cymru: "Bydd y felodrom newydd, y pentref chwaraeon cyfan ac yn arbennig y cylched ffordd caeedig yn rhoi cyfle perffaith i greu amgylchedd rhedeg diogel i alluogi rhedwyr newydd a phresennol i gyflawni eu huchelgais - boed hynny'n torri record bersonol, neu wella lles corfforol a meddyliol. 

"Mae Caerdydd yn ddinas sy'n ymfalchïo mewn amrywiaeth enfawr o lwybrau rhedeg gwych. Mae'r llwybrau hyn yn cael eu defnyddio gan filoedd lawer o bobl bob dydd. Rydym yn gobeithio y bydd y cylched ffordd caeedig yn y Bae yn darparu llwybr arall a fydd yn rhoi hwb pellach i iechyd y Genedl." 

A picture containing outdoor, sky, nature, shoreDescription automatically generated

Dwedodd Prif Swyddog Gweithredol Beicio Cymru, Anne Adams-King,:  "Rydym yn edrych ymlaen yn fawr at weld y gwaith yn mynd rhagddo ar y Pentref Chwaraeon ac felodrom Maendy yn cael ei adloeoli.

"Rydym yn edrych ymlaen at weld felodrom mwy modern yn cael ei adeiladu ac rydym yn falch y bydd y man dysgu beicio yn y felodrom presennol ym Maendy yn cael ei efelychu ac yn rhoi cyfle i feicwyr newydd ddatblygu eu sgiliau beicio craidd. Ynghyd ag ychwanegu cylched ffordd caeedig safon genedlaethol, a fydd yn helpu ymhellach i ddatblygu'r genhedlaeth nesaf o feicwyr yn yr ardal. 

"Bydd y safle yn y Pentref Chwaraeon yn cynnig cyfleoedd i garfan newydd o bobl i ddechrau beicio sy'n hynod bwysig i dyfu'r gamp ymysg pobl newydd." 

Dwedodd Beverly Lewis, Prif Swyddog Gweithredol Triathlon Cymru: "Mae Triathlon Cymru wedi'i gyffroi gan y posibilrwydd o gyfleuster chwaraeon integredig yn y Bae gyda'r safleoedd felodrom a chylchedau ffordd caeedig a fydd yn rhoi cyfle i ymgysylltu ar lawr gwlad ac amrywiaeth o ddigwyddiadau a fydd yn ysbrydoli'r genhedlaeth nesaf.  

"Bydd y potensial ar gyfer cyfleusterau ychwanegol yn yr ardal a'r cyffiniau a fydd yn ategu'r pwll presennol, llawr sglefrio a chanolfan rafftio dŵr gwyn, yn gwneud hwn yn ganolbwynt gwych ar gyfer gweithgareddau i'r rhai yng Nghaerdydd a'r cyffiniau, ond hefyd yn gyrchfan i ymwelwyr." 

Cysylltiedig 

Y wybodaeth ddiweddaraf am y cynlluniau i gyflymu'r broses o gwblhau datblygiad y Pentref Chwaraeon Rhyngwladol
 

Mae'r delweddau, gan Faulkner Browns Architects, yn dangos:

1. Delwedd CGI o’r Pentref Chwaraeon Rhyngwladol

2. Enghraifft o ddefnydd ar gyfer y brif neuadd yn y ganolfan berfformio

3. Adeilad canolfan berfformio’r felodrom