01.12.2021
Mae rhaglen hyfforddi arloesol sy'n galluogi athrawon ac arweinwyr ysgolion i addysgu, llywio a delio â hiliaeth mewn ysgolion yn well, wedi'i lansio yng Nghaerdydd heddiw.
Mae 'Promote Equality' yn rhaglen ddatblygu a grëwyd gan Rachel Clarke,Dirprwy Bennaeth, a Betty Campbell, wyres y Pennaeth Du cyntaf yng Nghymru a hyrwyddwr cydraddoldeb ac amrywiaeth.
Nod y pecyn cymorth yw Addysgu, Grymuso a Gwella ysgolion gyda'r adnoddau, y cymorth a'r sgiliau i helpu i ehangu dealltwriaeth a herio safbwyntiau i ymwreiddio newid hirdymor yn y system addysg a'r tu hwnt.
Mae Ysgol Gynradd Mount Stuart yn arwain y ffordd i ysgolion Caerdydd trwy ddod yr ysgol gyntaf yng Nghymru i sefydlu'r rhaglen hon ar gyfer y 18 mis - 2 flynedd nesaf yn rhan o'i datblygiad parhaus.
Mae'r fenter wedi'i rhoi ar waith yn un o gyfres o gynlluniau newydd mawr gan y Tasglu Cydraddoldeb Hiliol, a grëwyd i helpu i wella bywydau a chyfleoedd cymunedau pobl dduon a lleiafrifoedd ethnig yng Nghaerdydd.
Dywedodd Arweinydd Cyngor Caerdydd, y Cynghorydd Huw Thomas: "Mae hon yn bartneriaeth gyffrous iawn a bydd yn cael effaith enfawr ar ddatblygiad system addysg y ddinas.
"Mae ein hathrawon eisoes yn gwneud gwaith gwych, ond mae ysgolion gwych yn dibynnu ar hyfforddiant a chefnogaeth wych.Bydd y rhaglen hon yn sicrhau gwell dealltwriaeth ac yn grymuso arweinwyr ein hysgolion a fydd hefyd o fudd i les myfyrwyr ac athrawon.
"Nid gweithdy untro yw hwn; mae'n rhan o gynllun gweithredu hirdymori helpu i gefnogi ein trigolion du a lleiafrifoedd ethnig yng Nghaerdydd ac mae'n dyst i waith caled y Tasglu i helpu i weithredu newid."
Dywedodd Rachel Clarke, Cydsylfaenydd 'Promote Equality', "Rwy'n teimlo'n freintiedig i wneud fy ngwaith gwrth-hiliol yn Ysgol Mount Stuart, gan gael y cyfle i barhau â gwaith cynhwysol a phwysig fy mam-gu.
"Mae lansio'r rhaglen hyfforddi yn gam pwysig ar gyfer dysgu proffesiynol yng Nghymru ac rwy'n hyderus y bydd hyn yn cael effaith gadarnhaol ar fywydau cymunedau Du, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig. Mae addysgu'r addysgwyr yn allweddol i welliant parhaus mewn canlyniadau cymdeithasol ac rwy'n falch iawn bod Cymru'n arwain y ffordd."
Dywedodd Helen Borley, Pennaeth Ysgol Gynradd Mount Stuart: ""Wrth i ni ddechrau'r daith hon tuag at greu gwlad Wrth-Hiliol, rydym yn rhoi'r gwaith pwysig hwn ar flaen ac wrth wraidd popeth a wnawn. Rydym am i'n disgyblion fod yn genhedlaeth sy'n cael eu magu ac yn byw mewn gwlad lle mae cydraddoldeb yn cael ei barchu a'i ddisgwyl i bawb."
Bydd cynigion nesaf y Tasglu Cydraddoldeb Hiliol yn cael eu hanfon at y Cabinet mewn adroddiad blynyddol ym mis Ionawr.
Promote Equality
Mae Promote Equality yn offeryn a fydd yn cefnogi ymgyrch y sefydliad ar gyfer cydraddoldeb hiliol a thegwch. Yn ogystal â gwneud y llwyfan hyfforddi hwn yn unigryw, mae natur gynhwysfawr a hunangyfeiriedig hyn yn sicrhau newid parhaus. Mae strwythur hirdymor bwriadol hyn yn sicrhau y gellir datblygu ym maes cydraddoldeb hiliol trwy dasgau tameidiog ar draws y sefydliad cyfan.
Mae'r llwyfan wedi'i ddatblygu’n gwrs hunangyfeiriedig, gyda hwylusydd o'r sefydliad yn cyflwyno’r hyfforddiant, ar ôl cwblhau modiwl cychwynnol cyn y cwrs, ynghyd â darllen y nodiadau hwylusydd manwl.
Gwefan:www.promoteequality.org
E-bost:admin@promoteequality.org