Back
Gwasanaeth Coffa Nadolig Rhithwir yn Amlosgfa Draenen Pen-y-graig

01.12.2021

A small bird standing on snowDescription automatically generated with low confidence

Cynhelir Gwasanaeth Coffa Eciwmenaidd y Nadolig yn rhiwir drwy fideogast byw yng Nghapel y Wenallt yn Amlosgfa Draenen Pen-y-graig ar ddydd Sul, 5 Rhagfyr, am 2pm.

Mae'r gwasanaeth hwn yn cael ei gynnal ar-lein oherwydd y pandemig Covid-19 parhaus ac mae'n cynnig ffordd ddiogel i bobl unrhyw le ledled y byd fynychu athalu teyrnged i'w hanwyliaid yn ystod cyfnod y Nadolig hwn.

Cyn y gwasanaeth, bydd carolau'n cael eu canu gan gôr o Ysgol Gerdd Morgannwg a enillodd 'Ysgol y Celfyddydau a Cherddoriaeth Perfformio Orau' yng Ngwobrau Busnes Cymru yn ddiweddar ac sy'n falch o fod yn enillwyr Gwobrau Cymunedol Bro Radio.

Bydd y gwasanaeth, a gynhelir gan y Parch Lionel Fanthorpe, yn dechrau am 2pm ac yn cynnwys darlleniadau, cerddi a charolau - Deborah Morgan Lewis a'i chyfeilydd Fiona Tompkins fydd yn arwain y canu a bydd y gwasanaeth yn dod i ben am tua 3pm.

Dywedodd yr Aelod Cabinet sy'n gyfrifol am y Gwasanaethau Profedigaeth, y Cynghorydd Michael Michael: "Mae colli anwyliaid bob amser yn eithriadol o anodd, ond gall yr adeg hon o'r flwyddyn fod yn arbennig o heriol.

"Mae wedi bod yn flwyddyn anodd arall wrth i ni lywio newid a ddaw yn sgil y pandemig, felly mae'n bwysig ein bod yn gallu cynnig y gwasanaeth hwn yn rhithwir i bobl o bob ffydd ddod at ei gilydd a chofio'r rhai sydd wedi ein gadael."

Bydd casgliad i gynorthwyo Cymorth Rhoi Organau yn cael ei gynnal yn ystod y gwasanaeth. Mae Believe Organ Donor Support yn elusen a sefydlwyd gan Anna-Louise Bates er cof am ei diweddar ŵr Stuart a'i mab Fraser (Bear) Bates y gwnaeth eu rhodd o organau a meinwe achub nifer o fywydau. Cenhadaeth yr elusen yw addysgu a helpu i ledaenu'r gair ar roi organau, cefnogi'r bobl hynny sy'n gysylltiedig, a chwalu'r tabŵ ynghylch rhoi organau i gael pobl i siarad.

Y Nadolig hwn, mae'r Gwasanaethau Profedigaeth yn eich gwahodd i brynu tag ymroddiad cofeb Nadolig y gallwch ei roi ar y coed Nadolig coffa sydd wedi'u lleoli o flaen y capel hwn.  Am isafswm rhodd o £2, gallwch ysgrifennu eich arysgrif bersonol er cof am anwylyd y gellir ei roi ar y goeden.  Bydd yr holl arian a godir yn cael ei roi i Believe Organ Donor Support.

Bydd y coed yno o 6 Rhagfyr tan 6 Ionawr 2022 pan fyddant yn cael eu tynnu oddi yno yn unol â thraddodiad 'Nos Ystwyll'. 

Bydd yr holl roddion a dderbynnir yn cefnogi Believe Organ Donor Support. I gael gwybod mwy am yr elusen, ewch iwww.believe-ods.org.uk

Gellir gweld y Ffrwd Fyw o 2pm ddydd Sul, 5 Rhagfyr drwy'r ddolen hon:  https://www.funeralstreaming.co.uk/viewing-room/15556/