26.11.2021
Yng nghyfarfod Cyngor Llawn Caerdydd neithiwr, cafodd pleidleisiau eu bwrw a arweiniodd at ddatganiad o argyfwng natur yn y brifddinas.
Cyflwynwyd y datganiad brys mewn cynnig a gyflwynwyd gan grŵp Llafur y Cyngor, gyda dau ddiwygiad ar wahân gan grŵp y Democratiaid Rhyddfrydol a'r grŵp Ceidwadol.
Daw ar ôl penderfyniad y Cyngor i ddatgan argyfwng hinsawdd yn 2019, a'r ymrwymiad carbon niwtral cyhoeddus a wnaed ym mis Hydref eleni, a nodir yn yStrategaeth Un Blaned a gymeradwywyd gan y Cabinet.
Wrth siarad yn ystod y cyfarfod neithiwr, dywedodd yr Aelod Cabinet dros Strydoedd Glân, Ailgylchu a'r Amgylchedd, y Cynghorydd Michael Michael: "Rwy'n falch iawn bod y Cyngor wedi cytuno'r cynnig hwn. Rydym oll yn ymwybodol iawn o'r argyfwng hinsawdd, mae'r un mor bwysig ein bod ni gyd yn cydnabod natur a'r argyfwng bioamrywiaeth yr ydym i gyd yn eu hwynebu yn awr hefyd.
"Roedd llawer o'r ddadl heno yn canolbwyntio ar ddatblygiadau cyfredol, gan gynnwys ysbyty canser newydd Felindre ym Meysydd y Gogledd a'r rhaglenni adeiladu tai y mae mawr eu hangen ar gyrion y ddinas.
"Y gwir yw bod yn rhaid i ni ddysgu sut i dyfu ein dinas, mynd i'r afael â'r argyfwng tai, i ddarparu'r ysbytai, yr ysgolion a'r meddygfeydd, bydd angen i bob un ohonom greu Caerdydd ffyniannus, a hynny i gyd wrth ddod o hyd i ffordd o ofalu am natur a bioamrywiaeth ac wrth fynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd.
"Mae'r cyngor hwn wedi ymrwymo i'r daith honno fel yr amlinellir yn ein Strategaeth Un Blaned. Rydym yn gweithio i sicrhau bod Caerdydd yn ddi-garbon erbyn 2030 ac rydym yn cyflwyno polisïau a fydd yn helpu i achub natur a bioamrywiaeth o'n cwmpas.
"Wrth gwrs, nid oes gennym bwerau sy'n caniatáu i ni roi terfyn ar rai datblygiadau ar unwaith, hyd yn oed os oeddem am wneud hynny. Rydym wedi'n rhwymo'n gyfreithiol gan y cyfreithiau cynllunio presennol y mae'n rhaid i'r pwyllgor cynllunio gadw atynt.
"Fodd bynnag, rydym eisoes wedi cyflawni ac rydym yn parhau i ddatblygu canllawiau cynllunio atodol sy'n helpu i lunio ein dinas er gwell, gan arwain datblygwyr sydd am ddod i Gaerdydd ac sydd am chwarae rhan hanfodol yn nhwf ein dinas, gan ddod â swyddi a thai y mae mawr eu hangen.
"Bydd datgan Argyfwng Natur a Bio-Amrywiaeth yn helpu i lunio ein polisïau wrth i ni symud ymlaen, gan egluro gweledigaeth y ddinas yr ydym am fod - ac y gallwn fod."
Canlyniad y bleidlais ar y cynnig Llafur oedd 67 o blaid; 0 yn erbyn a 3 yn ymatal. Collodd cynnig y Democratiaid Rhyddfrydol gyda 32 o blaid; 39 yn erbyn a 0 yn ymatal, a chanlyniad cynnig y Ceidwadwyr oedd 32 o blaid, 39 yn erbyn a 0 yn ymatal.
Wrth bleidleisio i gytuno cynnig Llafur a diwygiad y Democratiaid Rhyddfrydol, gwnaeth y Cyngor y penderfyniadua canlynol:
Ynghyd â'r ymrwymiadau a wnaed yn strategaeth Caerdydd Un Blaned, fis diwethaf, cynhaliodd yr awdurdod lleol ymgynghoriad cyhoeddus ar Goed Caerdydd, prosiect sy'n ceisio plannu miloedd o goed i greu coedwig drefol ar draws y ddinas, ar ôl i bron i £1m o gyllid gael ei sicrhau gan Lywodraeth Cymru a chronfa goed argyfwng Coed Cadw (Yr Ymddiriedolaeth Coetiroedd yng Nghymru).
Cafodd cynnig Llafur neithiwr ei gynnig a'i eilio gan y Cynghorwyr Bob Derbyshire a Jane Henshaw, yn y drefn honno. Cynigiwyd diwygiad y Democratiaid Rhyddfrydol gan y Cynghorwyr Rodney Berman ac Ashley Wood, a diwygiad y Ceidwadwyr gan y Cynghorwyr John Lancaster a David Walker.
Mae copi llawn o'r cynnig, a'r ddau ddiwygiad ar gael i'w lawrlwytho yma, a gellir gweld cofnod o gyfarfod llawn y cyngor neithiwr yma.