Back
Creu Caerdydd fwy diogel: Diweddariad ynghylch diogelwch cymunedol y ddinas


 25/11/21

Mae dull targedig o leihau ymddygiad gwrthgymdeithasol a phroblemau troseddu - rhan o nifer o ymyriadau diogelwch cymunedol sy'n digwydd ledled y ddinas - yn talu ar ei ganfed.

 

Mae Grŵp Datrys Problemau amlasiantaethol, sy'n cynnwys mwy na 30 o sefydliadau gan gynnwys y Cyngor, yr Heddlu, Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru a Chyngor Trydydd Sector Caerdydd, yn llwyddo i lywio ymateb cydgysylltiedig i broblemau amrywiol mewn nifer o fannau sy'n dioddef o'r ymddygiad hwn drwy fynd i'r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol, fandaliaeth ac ymddygiad troseddol.

 

Mae'r prosiect peilot, sydd wedi canolbwyntio ar ardaloedd yn Llanrhymni a Sblot, wedi gweld gostyngiad sylweddol yn yr adroddiadau am ddigwyddiadau ar ôl cyflwyno mesurau dargyfeiriol a diogelwch cymunedol, yn ogystal â gwell ymgysylltiad â'r gymuned.

 

Yn ei datganiad i'r Cyngor Llawn ar ddydd Iau, 25 Tachwedd, rhoddodd yr Aelod Cabinet dros Dai a Chymunedau, y Cynghorydd Lynda Thorne, y wybodaeth ddiweddaraf i aelodau am y cynllun fel rhan o adroddiad ar ddiogelwch cymunedol y ddinas gyfan.

 

Dywedodd y Cynghorydd Thorne:  "Mae'r potensial ar gyfer y peilot hwn yn gyffrous wrth i ni geisio adeiladu ein dull amlasiantaethol o fynd i'r afael â materion cymunedol a gwneud gwahaniaeth gwirioneddol.

 

"Rydym hefyd yn ymateb i'r mannau mwyaf anodd a pharhaus o ran ymddygiad gwrthgymdeithasol yn y ddinas mewn partneriaeth â Heddlu De Cymru. Mae pobl ifanc sy'n ymwneud ag ymddygiad gwrthgymdeithasol wedi cael eu hailgyfeirio i addysg a hyfforddiant ac mae hyn wedi rhoi datrysiad i drigolion cyfagos. Mae hyn yn cynnwys grŵp penodol sy'n ymateb i ymddygiad gwrthgymdeithasol yn ymwneud â beiciau oddi ar y ffordd a pharhad Ymgyrch Red Mana gan Heddlu De Cymru, lle mae beiciau'n cael eu hatafaelu oddi wrth droseddwyr. Bydd swyddog cyngor newydd fydd yn gweithio'n benodol yn yr ardal hefyd yn darparu adnoddau ychwanegol yn Cathays a Phlasnewydd, sydd â'r cyfraddau troseddu uchaf, ac yn canolbwyntio o'r newydd ar fynd i'r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol cymhleth ac ailadroddus yn y rhannau hyn o Gaerdydd."

 

Hefyd, rhoddodd y Cynghorydd Thorne adroddiad cynnydd ar weithredu mesurau wedi eu hariannu drwy Gronfa Strydoedd Diogelach y Swyddfa Gartref, yn dilyn dyfarniad o£432,000 i Bartneriaeth Diogelwch Cymunedol Caerdydd yr haf hwn. Mae'r gwaith o osodteledu cylch cyfyng newydd ac seilwaith lleihau troseddau arall yn Butetown a Grangetown eisoes ar y gweill a disgwylir iddo gael ei gwblhau dros y misoedd nesaf.

 

Diweddarwyd y Cyngor hefyd ar:

 

  • Ymdrechion i gefnogi busnesau bach i fynd i'r afael â dwyn o siopau,
  • Rhaglen i atal, canfod a lleihau troseddau busnes gan y Bartneriaeth Lleihau Troseddau Busnes
  • Ymateb y ddinas i bryderon cenedlaethol cynyddol ynghylch yfed a sbeicio, gan gynnwys cynlluniau i dreialu pecynnau profi diodydd ar gyfer safleoedd trwyddedig
  • Model SAFE (Diogelu Pobl Ifanc rhag Camfanteisio) newydd ar gyfer amddiffyn pobl ifanc sy'n agored i niwed rhag camfanteisio troseddol
  • Mae Caerdydd yn adnewyddu ei hachrediad Rhuban Gwyn am yr wythfed flwyddyn - y mudiad byd-eang mwyaf o ddynion a bechgyn sy'n gweithio i roi terfyn ar drais yn erbyn menywod a merched
  • Ymgysylltu targedig â myfyrwyr o ran sut y gallant gadw'n ddiogel ac
  • Ymgyrch Taclo'r Tacle i annog mwy o adrodd mewn cymunedau a allai wynebu rhwystrau i ymgysylltu, megis ofn dial.

 

Ychwanegodd y Cynghorydd Thorne: "Mae gan breswylwyr rôl allweddol i'w chwarae o ran mynd i'r afael â throseddu ac ymddygiad gwrthgymdeithasol drwy ddarparu adroddiadau a gwybodaeth i'r awdurdodau. Gall codi llais fod yn anodd, ond mae Taclo'r Tacle yn elusen annibynnol sy'n hwyluso adrodd diogel a dienw mewn dros 140 o ieithoedd. Gallai gwybodaeth gan drigolion a'r gymuned fod yn hanfodol i helpu i wneud cymunedau'n fwy diogel felly rwy'n annog unrhyw breswylwyr i gysylltu â taclo'r Tacle os oes ganddynt wybodaeth.

 

"Mae hyn i gyd yn rhan o'r gwaith sylweddol a wnaed gan Bartneriaeth Diogelwch Cymunedol Caerdydd yn y ddinas dros y misoedd diwethaf - a'n hymrwymiad i greu cymunedau diogel ledled y ddinas.

"Rwyf wedi fy nghyffroi'n fawr gan ymdrechion sylweddol y Bartneriaeth Diogelwch Cymunedol. Wrth i ni symud i mewn i'r Flwyddyn Newydd, rydym yn awyddus i adfyfyrio ar ein taith a'r heriau rydym wedi'u hwynebu i helpu i gryfhau gwaith yn y dyfodol i gadw ein dinas a'n cymunedau'n ddiogel."

 

Gellir rhoi gwybodaeth am droseddau yn gyfan gwbl ddienw i Taclo'r Tacle ar 365 o ddiwrnodau'r flwyddyn, 24/7, drwy ffonio ein Rhadffôn 0800 555 111, neu ar-lein yma