Dyma'r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Caerdydd, gan gynnwys: angen corff llywodraethu ar gyfer ysgol gynradd newydd; ‘Christmas at Bute Park', gwyriad beic ffordd gyda'r nos; nifer achosion a phrofion COVID-19 Caerdydd; cyfanswm brechu Caerdydd a Bro Morgannwg; dadorchuddio cofeb ym Mynwent Cathays i ŵr o Gaerdydd a oroesodd y ‘Charge of the Light Brigade'; a mae coginio'n iach yn ôl.
Angen corff llywodraethu ar gyfer ysgol gynradd newydd
Mae Cyngor Caerdydd yn ceisio recriwtio corff llywodraethu ar gyfer ysgol gynradd newydd sbon i wasanaethu rhannau o ogledd-orllewin Caerdydd.
Bydd y cyfnod ymgeisio'n dechrau ddydd Llun 22 Tachwedd gan roi cyfle i lywodraethwyr profiadol wneud cais am nifer o swyddi ar y corff llywodraethu dros dro, sydd i'w sefydlu cyn i'r ysgol newydd agor.
Ar ôl recriwtio iddo, bydd y corff dros dro yn gwneud penderfyniadau allweddol er mwyn sefydlu'r ysgol newydd gan gynnwys penodi pennaeth a symud ymlaen i enwi'r ysgol newydd. Bydd yn helpu i osod gweledigaeth strategol yr ysgol ac yn sicrhau bod plant a phobl ifanc yn derbyn yr addysg orau bosibl.
I gael mwy o wybodaeth ewch i:https://www.educardiff.co.uk/cy/
Christmas at Bute Park - Gwyriad beic ffordd gyda'r Nos
Nodwch y bydd gwyriad llwybr beicio dros dro (mewn coch) ar waith rhwng 3pm a 7am o ddydd Iau 25 Tachwedd i ddydd Gwener 31 Rhagfyr.
Mae'r llwybr beicio presennol (mewn melyn) yn dal ar agor rhwng 7am a 3pm bob dydd yn ystod y cyfnod hwn.
Gallwch weld y Cwestiynau Cyffredin yma:
https://cymraeg.christmasatbutepark.com/faqs/
Achosion a Phrofion Caerdydd - Data'r 7 Diwrnod (12 Tachwedd - 18 Tachwedd)
Yn seiliedig ar ffigurau diweddaraf Iechyd Cyhoeddus Cymru
Mae'r data'n gywir ar:
22 Tachwedd 2021, 09:00
Achosion: 1,852
Achosion fesul 100,000 o'r boblogaeth: 504.8 (Cymru: 511.1 achosion fesul 100,000 o'r boblogaeth)
Achosion profi: 9,612
Profion fesul 100,000 o'r boblogaeth: 2,619.8
Cyfran bositif: 19.3% (Cymru: 18.3% cyfran bositif)
Diweddariad Statws Brechu Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro - 18 Tachwedd
Ddarparwyd y data gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro
Sylwer y gall fod mân ddiwygiadau i ddata wrth iddo gael ei ddilysu dros amser
Cyfanswm nifer y dosau brechu a roddwyd gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro hyd yn hyn, yn y ddwy ardal awdurdod lleol: 841,898 (Dos 1: 386,503 Dos 2: 348,187 DOS 3: 5,731 Dosau atgyfnertha: 101,436)
Data Cohort - Diweddarwyd ddiwethaf 01 Tachwedd
Dadorchuddio cofeb ym Mynwent Cathays i ŵr o Gaerdydd a oroesodd y ‘Charge of the Light Brigade'
Dadorchuddiwyd cofeb arbennig ym Mynwent Cathays heddiw i anrhydeddu John Henry Harding o drydydd catrawd ar ddeg y Dragwniaid Ysgafn, a gymerodd ran yng Nghyrch y Frigâd Ysgafn.
Roedd bodolaeth y bedd yn hysbys ers peth amser ond dim ond croes bren fechan wedi dirywio dros amser, oedd yn ei nodi.
Cysylltodd Martin Berkeley, swyddog wedi ymddeol o'r Dragwniaid Ysgafn, â Chyfeillion Mynwent Cathays, i weld a fyddai modd darparu cofeb fwy addas.
Ymrestrodd Harding, brodor o Ynys Wydrin (Glastonbury), yng Nghaerfaddon yn 1850 yn 19 mlwydd oed ac fe wasanaethodd yn y fyddin am fwy na 12 mlynedd gan gymryd rhan ym mhob un o'r pedair prif frwydr yn Ymgyrch Crimea.
Yn 1870 ymgartrefodd yng Nghaerdydd, gan ddod yn drwyddedai'r Gardeners Arms ar Heol y Plwca, a ail-enwodd yn Military Canteen, ac yn ddiweddarach ymgymrodd â sefydliad tebyg yn Wyverne Road, Cathays. Bu farw'n dlawd yn 1886 ond cafodd angladd drawiadol gyda'r osgordd yn cael ei harwain gan tua 70 o filwyr o'r Gatrawd Gymreig.
Darllenwch fwy yma:
https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/28070.html
Barod, aros... iawn! Mae Coginio'n Iach yn ôl
Mae cystadleuaeth goginio, sy'n gosod cogyddion bwyd iach gorau Caerdydd yn erbyn ei gilydd, yn ôl.
Mae tîm Cyngor Ariannol Cyngor Caerdydd, mewn partneriaeth â Bwyd Caerdydd, yn chwilio am 50 o aelwydydd sy'n barod i ymateb i'r her o gynhyrchu prydau maethlon a blasus yn seiliedig ar ryseitiau a ddatblygwyd gan Dîm Maeth a Deieteg Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro.
Bydd y fenter yn dechrau ddechrau mis Rhagfyr ac yn dilyn prosiect coginio iach llwyddiannus a gynhaliwyd yn gynharach eleni pan gafodd herwyr y dasg o greu gwerth wythnos o fwyd blasus i'r teulu drwy ddilyn y gwersi fideo ar-lein neu gardiau ryseitiau hawdd eu dilyn ac yn ysgafn ar y boced.
Unwaith eto, bydd yr hanner cant o aelwydydd sy'n cymryd rhan yn yr her ddiweddaraf, gyda chefnogaeth Cronfa Mynd i'r Afael â Thlodi Bwyd a Mynd i'r Afael ag Ansicrwydd Bwyd Llywodraeth Cymru, yn cael popeth sydd ei angen arnynt - gan gynnwys cynhwysion, offer sylfaenol a chyfarwyddiadau cam wrth gam - i gynhyrchu pum pryd iach y gall y teulu i gyd eu mwynhau.
Bwyd Caerdydd yw partneriaeth bwyd ardal y ddinas sy'n cydnabod yr effaith enfawr y mae bwyd yn ei gael ar fywyd yng Nghaerdydd - nid yn unig ar iechyd pobl, ond ar gymunedau a busnesau, a'r amgylchedd hefyd. Mae'r mudiad yn hyrwyddo bwyd sy'n dda i bobl, yn dda i'r lle rydyn ni'n byw, ac yn dda i'n planed yn ogystal â bod yn fforddiadwy ac yn flasus.
Gall aelwydydd sydd â diddordeb mewn cymryd rhan yn yr her ddarganfod mwy a gwneud cais trwy e-bostio hybcynghori@caerdydd.gov.uk neu ffonio 029 2087 1071.