23/11/2021
Mae'r nifer uchaf erioed o ysgolion wedi ymuno â Gwobr Ysgolion sy'n Parchu Hawliau (GYPH/RRSA) Pwyllgor UNICEF y DU, sy'n golygu mai gan Gaerdydd y mae'r cyfranogiad uchaf o ran yr Ymgyrch Hawliau Plant yng Nghymru.
Mae'r rhaglen Ysgolion sy'n Parchu Hawliau yn cydnabod ysgol sy'n arfer hawliau'r plentyn, gan greu man dysgu diogel sy'n ysbrydoli, lle caiff plant eu parchu, eu talentau eu meithrin a lle gallant ffynnu.
Mae'r hanes diweddaraf am Ysgolion Caerdydd sy'n Parchu Hawliau yn cyd-fynd â Diwrnod Plant y Byd (20 Tachwedd), diwrnod gweithredu blynyddol UNICEF gan blant, ar gyfer plant.
Mae'r prif ystadegau'n cynnwys:
Dwedodd yr Aelod Cabinet dros Addysg, Cyflogaeth a Sgiliau, y Cynghorydd Sarah Merry: "Rwy' wrth fy modd bod mwy na hanner ein hysgolion wedi ennill eu gwobr efydd neu'n uwch, gan ddangos eu hymrwymiad i fod yn ysgol sy'n parchu hawliau lle mae hawliau plant yn rhan annatod o'u bywyd ysgol bob dydd yn ogystal ag wrth galon cymuned ehangach yr ysgol.
"Gan gefnogi ymhellach uchelgais Caerdydd i ddod yn Ddinas sy'n Dda i Blant UNICEF y DU, mae'r rhaglen GYPH yn helpu i roi'r cyfle gorau i blant fyw bywydau hapus ac iach a bod yn ddinasyddion cyfrifol a gweithgar a fydd yn mynd ymlaen i gyfrannu at y diwylliant sy'n parchu hawliau yr ydym yn ei gyrchu."
Ar Ddiwrnod Rhyngwladol y Plant ym mis Tachwedd 2018, lansiodd Caerdydd ei Strategaeth Dinas sy'n Dda i Blant, sy'n rhoi hawliau a llais plant a phobl ifanc wrth wraidd polisïau, strategaethau a gwasanaethau'r ddinas.
Nod y cynllun gweithredu aml asiantaeth oedd ceisio cynnwys plant a phobl ifanc wrth wneud penderfyniadau a mynd i'r afael â'r rhwystrau sy'n cyfyngu ar eu cyfleoedd mewn bywyd. Roedd hefyd yn gam sylweddol tuag at nod Caerdydd o gael ei chydnabod yn rhyngwladol fel un o Ddinasoedd Cyfeillgar i Blant cyntaf UNICEF y DU, rhaglen fyd-eang sy'n partneru UNICEF â llywodraeth leol i roi hawliau plant yn gyntaf.
Mae'r rhaglen yn rhoi cymorth i Awdurdodau Lleol a phartneriaid i ddarparu dull sy'n seiliedig ar hawliau plant wrth ddylunio, darparu, monitro a gwerthuso gwasanaethau a strategaethau lleol ar gyfer plant.
Yn ystod y cam gweithredu dwy flynedd, gosododd Caerdydd bum nod a chyfres o ymrwymiadau i'w cyflawni drwy'r Strategaeth Dinas sy'n Dda i Blant;
Ychwanegodd y Cynghorydd Sarah Merry: "Y llynedd cydnabu adroddiad gan Unicef UK fod Cyngor Caerdydd wedi chwarae rhan flaengar o ran sefydlu'r Rhaglen Dinasoedd sy'n Dda i Blant, a nododd fod tystiolaeth glir yn dangos bod cynnydd sylweddol wedi ei wneud tuag at sefydlu, blaenoriaethu a gweithredu ymagwedd sy'n seiliedig ar hawliau plant yn niwylliant ac ymrwymiadau'r Cyngor.
"Cydnabuon nhw hefyd ymdrechion Caerdydd wrth sefydlu ymagwedd sy'n seiliedig ar hawliau plant ym maes addysg trwy'r ddinas, gan gyflymu twf y Gwobrau Ysgolion sy'n Parchu Hawliau (GYPH) a sefydlu hawliau plant ar rwydwaith a sail wybodaeth gadarn yn ysgolion y ddinas.
Dywedodd Naomi Danquah, Cyfarwyddwr Dinasoedd a Chymunedau sy'n Dda i Blantyng Nghyfarfod Pwyllgor UNICEF y DU (UNICEF UK), :"Mae gan bob plentyn yr hawl i dyfu i fyny mewn amgylchedd y mae'n teimlo'n ddiogel i chwarae, dysgu a thyfu ynddo. Lle sy'n cynnig mynediad at wasanaethau cyhoeddus a lle mae ei lais yn cael ei glywed ac yn bwysig. Rydym yn gweithio gyda Chaerdydd i'w helpu i gyflawni'r hawliau hyn ar ran pob plentyn a gwneud Caerdydd yn ddinas 'sy'n dda i blant'."
"Er gwaethaf heriau'r 18 mis diwethaf, mae'r ffaith bod Caerdydd wedi cydnabod pwysigrwydd y gwaith o sicrhau bod plant a phobl ifanc ledled y ddinas yn gwybod ac yn dysgu am eu hawliau drwy'r wobr Ysgolion sy'n Parchu Hawliau yn ganmoladwy iawn."
"Mae hon yn garreg filltir enfawr yn nhaith y ddinas tuag at gael ei chydnabod yn Ddinas sy'n Dda i Blant UNICEF UK ac rydym yn edrych ymlaen at weld beth sy'n dod nesaf."
Mae rhaglen Dinas sy'n Dda i Blant yn gweithredu trwy ystod eang o wasanaethau a sefydliadau, gan gymryd ymagwedd sy'n ystyried hawliau plant tuag at ddatblygu cyfres o wasanaethau newydd gan gynnwys Cymorth Teulu a Gwasanaethau Cymorth, Gwasanaethau Llesiant ac Iechyd Emosiynol, darpariaeth ieuenctid ar gyfer pobl ifanc sydd wedi profi gofal a chyfleoedd chwarae ychwanegol. Mae hefyd yn hyrwyddo hyfforddiant hawliau plant ymhlith gwleidyddion lleol, yr heddlu, gweithwyr iechyd a swyddogion y Cyngor.
#DiwrnodPlantyByd #CdyddSy'nDdaiBlant #AddysgCdydd