Back
Barod, aros… iawn! Mae Coginio'n Iach yn ôl


23/11/21

Mae cystadleuaeth goginio, sy'n gosod cogyddion bwyd iach gorau Caerdydd yn erbyn ei gilydd, yn ôl.

 

Mae tîm Cyngor Ariannol Cyngor Caerdydd, mewn partneriaeth â Bwyd Caerdydd, yn chwilio am 50 o aelwydydd sy'n barod i ymateb i'r her o gynhyrchu prydau maethlon a blasus yn seiliedig ar ryseitiau a ddatblygwyd gan Dîm Maeth a Deieteg Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro.

 

Bydd y fenter yn dechrau ddechrau mis Rhagfyr ac yn dilyn prosiect coginio iach llwyddiannus a gynhaliwyd yn gynharach eleni pan gafodd herwyr y dasg o greu gwerth wythnos o fwyd blasus i'r teulu drwy ddilyn y gwersi fideo ar-lein neu gardiau ryseitiau hawdd eu dilyn ac yn ysgafn ar y boced.

 

Unwaith eto, bydd yr hanner cant o aelwydydd sy'n cymryd rhan yn yr her ddiweddaraf, gyda chefnogaeth Cronfa Mynd i'r Afael â Thlodi Bwyd a Mynd i'r Afael ag Ansicrwydd Bwyd Llywodraeth Cymru, yn cael popeth sydd ei angen arnynt - gan gynnwys cynhwysion, offer sylfaenol a chyfarwyddiadau cam wrth gam - i gynhyrchu pum pryd iach y gall y teulu i gyd eu mwynhau.

 

Bwyd Caerdydd yw partneriaeth bwyd ardal y ddinas sy'n cydnabod yr effaith enfawr y mae bwyd yn ei gael ar fywyd yng Nghaerdydd - nid yn unig ar iechyd pobl, ond ar gymunedau a busnesau, a'r amgylchedd hefyd.   Mae'r mudiad yn hyrwyddo bwyd sy'n dda i bobl, yn dda i'r lle rydyn ni'n byw, ac yn dda i'n planed yn ogystal â bod yn fforddiadwy ac yn flasus.

 

 

Gall aelwydydd sydd â diddordeb mewn cymryd rhan yn yr her ddarganfod mwy a gwneud cais trwy e-bostiohybcynghori@caerdydd.gov.ukneu ffonio 029 2087 1071.

 

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Dai a Chymunedau, y Cynghorydd Lynda Thorne: "Roedd ein her coginio iach yn ystod y gwanwyn yn hynod o lwyddiannus ac rydym yn falch iawn o allu cynnig cyfle i fwy o aelwydydd ledled y ddinas gymryd rhan yn y diweddaraf yn ein cyfres o heriau.

 

"Mae'n wych gweithio mewn partneriaeth â Bwyd Caerdydd i hyrwyddo arferion coginio a bwyta iach, cost-effeithiol ymhlith trigolion.  Cyn belled ag y bo modd, byddwn yn defnyddio cynhwysion lleol ar gyfer y ryseitiau rydym am i gystadleuwyr eu gwneud.

 

"Roedd y safon yn uchel iawn yn yr her yn gynharach eleni ac rwy'n siŵr na fydd y tro hwn yn wahanol.  Ond nid yw hynny'n golygu bod rhaid i chi fod yn arbenigwr i gymryd rhan - nod yr her yw cael pobl i goginio gyda'i gilydd fel teuluoedd, cael hwyl ac annog pobl i wneud dewisiadau bwyd iach sy'n rhesymol o ran pris."

 

Ychwanegodd Pearl Costello, cydlynydd Lleoedd Bwyd Cynaliadwy Bwyd Caerdydd:  "Mae Bwyd Caerdydd yn falch iawn o fod yn rhan o fenter bwyta'n iach mor wych, gan annog aelwydydd ledled y ddinas i goginio amrywiaeth o brydau blasus, iach a chynaliadwy. 

 

"Mae Bwyd Caerdydd yn credu bod bwyd da yn creu cymunedau cryf, iach a gwydn - ac mae menter fel hon yn dangos hyn yn ymarferol.  Bydd y bobl sy'n cymryd rhan yn y gystadleuaeth hon yn dysgu sgiliau coginio newydd, sut i baratoi prydau iach, maethol a chost-effeithiol - yn ogystal â chael llawer o hwyl ar hyd y ffordd. Rwy'n edrych ‘mlaen yn fawr at weld sut mae'r 50 aelwyd yn ymateb i'r her a'r prydau maen nhw wedi'u creu."

 

 

Unwaith y bydd y 50 aelwyd wedi ymrwymo i'r her a bod eu bwyd wedi cyrraedd, bydd gan deuluoedd tan X Rhagfyr i anfon lluniau o'u campweithiau coginio ihybcynghori@caerdydd.gov.ukBydd yr enillydd yn cael ei ddewis ar sail cyflwyniad a pha mor flasus y mae'r prydau bwyd yn edrych.

 

Mae tîm Cyngor Ariannol Caerdydd yn rhoi cymorth a chyngor i drigolion sydd â phryderon ariannol.  Mae'r tîm yn arbenigwyr ar ddarparu cymorth ar gyllidebu, cynyddu incwm, budd-daliadau, grantiau a gostyngiadau, cyngor ar ddyledion a mwy. 

 

Dysgwch fwy am Dîm Cyngor Ariannol Caerdydd trwy fynd i www.cyngorariannolcaerdydd.co.uk neu ffoniwch 029 208 1071 neu e-bostiwch hybcynghori@caerdydd.gov.uk