Back
Angen corff llywodraethu ar gyfer ysgol gynradd newydd

23/11/2021

Mae Cyngor Caerdydd yn ceisio recriwtio corff llywodraethu ar gyfer ysgol gynradd newydd sbon i wasanaethu rhannau o ogledd-orllewin Caerdydd.

Bydd y cyfnod ymgeisio'n dechrauddydd Llun 22 Tachweddgan roi cyfle i lywodraethwyr profiadol wneud cais am nifer o swyddi ar y corff llywodraethu dros dro, sydd i'w sefydlu cyn i'r ysgol newydd agor.

Ar ôl recriwtio iddo, bydd y corff dros dro yn gwneud penderfyniadau allweddol er mwyn sefydlu'r ysgol newydd gan gynnwys penodi pennaeth a symud ymlaen i enwi'r ysgol newydd. Bydd yn helpu i osod gweledigaeth strategol yr ysgol ac yn sicrhau bod plant a phobl ifanc yn derbyn yr addysg orau bosibl. 

I gael mwy o wybodaeth ewch i:https://www.educardiff.co.uk/cy/

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Addysg, Cyflogaeth a Sgiliau, y Cynghorydd Sarah Merry: "Llywodraethwyr ysgol yw'r gweithlu gwirfoddol pwysicaf yn y maes addysg, ac maent yn chwarae rhan hanfodol yn y gwaith o wella addysg a gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i ddyfodol plant a phobl ifanc. 

"Mae sefydlu corff llywodraethu dros dro ar gyfer yr ysgol newydd yn garreg filltir bwysig yn y cynllun ac rydym yn apelio at lywodraethwyr profiadol, sydd eisoes â dealltwriaeth dda o brosesau a gweithdrefnau llywodraethu allweddol, i wneud cais.

"Rydym wedi ymrwymo i sicrhau bod pobl plentyn yn mynychu ysgol dda neu wych ac er mwyn helpu i gyflawni hyn, mae angen prosesau llywodraethu ysgolion da ar ein hysgolion gyda chymorth, sgiliau ac arbenigedd cyrff llywodraethu sy'n helpu i wella bywydau plant a phobl ifanc yn y gymuned.

Ar ôl i'r ysgol agor, cymerir camau i sefydlu corff llywodraethu parhaol i gynnwys holl randdeiliaid yr ysgol gan gynnwys rhieni, athrawon a staff.

Bydd yr ysgol newydd sydd ar ddatblygiad Plasdŵr ar dir i'r de o Heol Llantrisant yn ysgol ddwy ffrwd, wedi ei threfnu gydag un dosbarth mynediad yn cynnig addysg Gymraeg ac un dosbarth mynediad yn cynnig lleoedd Saesneg gyda defnydd sylweddol o'r Gymraeg. Bydd yr ysgol hefyd yn cynnig 96 o leoedd meithrin rhan amser, gyda hanner y lleoedd yn rhai Cymraeg a'r hanner arall yn rhai Saesneg, ond hefyd â defnydd sylweddol o'r Gymraeg.

Bydd yn gwasanaethu camau cynnar datblygiad Plasdŵr yn ogystal â rhannau o Cregiau, Sain Ffagan, Radur, Pentre-poeth a'r Tyllgoed.

Ychwanegodd y Cynghorydd Merry:  "Bydd yr ysgol newydd yn cynnig cyfleoedd newydd a chyffrous o ran y modd y caiff y Gymraeg ei dysgu i ddisgyblion mewn ysgol Saesneg, gan gynnig amrywiad arloesol ar y ddarpariaeth ysgol gynradd ddwy ffrwd draddodiadol.

"Bydd mwy o ffocws ar addysgu Cymraeg o fewn y ffrwd Saesneg gan gefnogi ein dyheadau i dyfu'r Gymraeg fel y nodir yn ein strategaeth ddwyieithog.

"Drwy gynyddu ein haddysg Gymraeg mewn ffordd strategol, rydym yn sicrhau bod ein hysgolion newydd yn sefyll ar seiliau ariannol cadarn; bod ein hysgolion cynradd presennol yn parhau'n ymarferol; a bod yr ysgolion rydym yn eu cynnig yn darparu ar gyfer amrywiaeth o ddewisiadau rhieni rydym yn eu gweld yng Nghaerdydd.

Mae'r ysgol yn cael ei hadeiladu dan gytundeb Adran 106, ac mae'n ychwanegol at yr ysgolion newydd a'r rhai sy'n cael eu hehangu gan Gyngor Caerdydd a Llywodraeth Cymru dan ei rhaglen Band B Ysgolion yr 21ain Ganrif gwerth £284m.

Bydd y cyfnod ymgeisio am le yn yr ysgol yn dechrau yn hydref 2022 ar gyfer y Feithrinfa a'r Dosbarth Derbyn gyda'r ysgol yn derbyn ei disgyblion cyntaf ym mis Medi 2023. Bydd disgyblion ym mlynyddoedd 1 a 2 hefyd yn cael cyfle i wneud cais am le yn yr ysgol i ddechrau o dymor yr Haf 2023.

Ym mis Mehefin 2020 gofynnwyd i Gabinet y Cyngor nodi bod cyfnodau cloi COVID-19 wedi effeithio ar raglen gyflawni datblygiad Plasdŵr y datblygwr. Roedd hyn yn cynnwys gohirio cyfres o waith seilwaith sylweddol gan gynnwys priffyrdd a chyfleustodau hanfodol. Ers hynny mae'r Cyngor wedi bod yn gweithio gyda'r datblygwr i gyflawni'r cynllun yn llwyddiannus.