Back
Gorchymyn Dymchwel Tafarn y Roath Court - Datganiad y Cyngor

19/11/21

Yn dilyn penawdau camarweiniol yn y cyfryngau ynglŷn â sut rhoddwyd caniatâd i ddymchwel hen dafarn y Roath Court ar Heol y Plwca, mae'r cyngor am i drigolion wybod nad oes gan y pwyllgor cynllunio bŵer i atal tirfeddianwyr preifat rhag dymchwel eu hadeiladau. Ystyrir bod hyn yn 'ddatblygiad a ganiateir' o dan ddeddfwriaeth gynllunio.

Gwnaed ymdrechion i restru'r adeilad ond penderfynodd Cadw ei fod wedi'i 'newid yn fawr' ers iddo gael ei adeiladu'n wreiddiol ac nad oedd yn cael ei ystyried o arwyddocâd hanesyddol a/neu bensaernïol cenedlaethol digonol i haeddu statws adeilad rhestredig.

Mae'r cyngor wedi llunio taflen Cwestiynau ac Atebion sy'n esbonio sut mae cynllunio'n gweithio a'r pŵer sydd gan y pwyllgor cynllunio a'r cyngor ar faterion cynllunio. Mae ar gael i'w darllen yma:
https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/26664.html