Back
Yr Eglwys Norwyaidd: Y wybodaeth ddiweddaraf am achub adeilad treftadaeth Caerdydd ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol

18.11.2021 

A group of people outside a churchDescription automatically generated with medium confidence

Mae cynlluniau Cyngor Caerdydd i sicrhau dyfodol yr Eglwys Norwyaidd wedi cymryd cam ymlaen yn dilyn cymeradwyaeth y Cabinet heddiw. 

Cafodd adroddiad am y cynigion ei gymeradwyo gan Gabinet Cyngor Caerdydd heddiw, dydd Iau 18 Tachwedd, lle cytunwyd i drosglwyddo'r Eglwys Norwyaidd, gan gynnwys y brydles bresennol, i gorff elusennol newydd dan arweiniad Cymdeithas Norwyaidd Cymru. 

Bydd y dull yn golygu bod y corff elusennol newydd yn buddsoddi yn yr adeilad ac yn cymryd rheolaeth dros redeg yr Eglwys o ddydd i ddydd. 

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Fuddsoddi a Datblygu, y Cynghorydd Russell Goodway:  "Yr Eglwys Norwyaidd yw un o'r adeiladau mwyaf eiconig ar lannau Bae Caerdydd ac mae'n rhaid i ni ddod o hyd i ffyrdd newydd o'i gwarchod ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.

"Gobeithio y bydd hyn yn darparu dyfodol cynaliadwy i'r Eglwys, tra'n parchu ei chysylltiadau â'n cydweithwyr yn Norwy."

Mae gweledigaeth y Cyngor ar gyfer y ddinas, sef yr Uchelgais Prifddinas, yn cynnwys ymrwymiad i fynd i'r afael â gwaith cynnal a chadw sydd wedi cronni ar adeiladau mwyaf hanesyddol y ddinas achwilio ffyrdd newydd a dyfeisgar o ddiogelu eu dyfodol.

Dwedodd yr Aelod Cabinet dros Ddiwylliant a Hamdden, y Cynghorydd Peter Bradbury: "Mae Cymdeithas Norwyaidd Cymru eisoes wedi sicrhau rhywfaint o arian ac yn mynd ati i geisio cyllid pellach. Mae'r Gymdeithas yn deall gwerthoedd traddodiadol yr Eglwys Norwyaidd ac yn bwriadu buddsoddi yn yr adeilad a'i wella tra'n anrhydeddu ei nodweddion gwreiddiol a'i hanes."

Dywedodd Cadeirydd Ymddiriedolwyr yr Elusen Eglwys Norwyaidd Bae Caerdydd newydd, Dr Martin Price: "Rydym wedi bod yn gweithio'n agos mewn partneriaeth â Chyngor Caerdydd i drosglwyddo'r Eglwys yn ôl i Elusen annibynnol. Bydd hyn yn ein galluogi i gael gafael ar fwy o adnoddau ar gyfer yr Eglwys Norwyaidd sy'n rhan mor eiconig o lannau Bae Caerdydd.  

"Mae gennym gynlluniau cyffrous ar gyfer yr Eglwys, sy'n esbonio ei threftadaeth, yn adeiladu ar ei henw da fel canolfan gelfyddydau ac yn gwella ei rôl yn y gymuned, a byddwn yn croesawu pobl yn ôl i'r adeilad hyfryd hwn yn fuan iawn." 

Dywedodd Cadeirydd Cymdeithas Norwyaidd Cymru, Dr Tyra Oseng-Rees, "Rydym wrth ein bodd bod yr Eglwys Norwyaidd am ddechrau pennod newydd yn ei bywyd hir ac edrychwn ymlaen at helpu i ddathlu'r cysylltiadau hirsefydlog rhwng Cymru a Norwy."

Eglwys Lutheraidd oedd yr Eglwys Norwyaidd yn wreiddiol a gysegrwyd ym 1868 ac a roddodd le i addoli i forwyr Sgandinafaidd a'r gymuned Norwyaidd yng Nghaerdydd am dros gant o flynyddoedd.