18/11/21
Mae Caerdydd yn barod i fwrw ymlaen â chynlluniau i greu un o'r systemau monitro ansawdd aer fwyaf datblygedig yng Nghymru.
Mae Cabinet Cyngor Caerdydd wedi cytuno ar dreial dwy flynedd Newydd io sod 50 o fonitorau ansawdd aer ledled y ddinas sy'n mesur llygredd mewn amser byw, yn dilyn ei gyfarfod i drafod canlyniadau data ansawdd aer 2020.
Mae datblygu rhwydwaith monitro ansawdd aer amser real yn gam hollbwysig ymlaen i'r ddinas. Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi ei gwneud yn glir mai ansawdd aer gwael yw'r ail bryder mwyaf o ran iechyd y cyhoedd ar ôl ysmygu.
Dywedodd y Cynghorydd Michael Michael, yr Aelod Cabinet dros Strydoedd Glân, Ailgylchu a'r Amgylchedd: "Drwy gynyddu nifer y monitorau amser real yn y ddinas, byddwn yn gallu cael darlun gwell fyth o'r sefyllfa ledled Caerdydd ac yna gallwn gynllunio mesurau lliniaru neu ymyriadau i fynd i'r afael ag unrhyw faterion a allai godi. Byddem yn defnyddio dull ar sail risg i benderfynu ar leoliad y monitorau. Bydd hyn yn ein helpu i gasglu'r data gorau posibl i'w ddefnyddio. Mae'r monitorau'n symudol felly gallwn eu symud o amgylch y ddinas i gael darlleniadau yn ôl yr angen neu os bydd gwybodaeth yn newid.
"Yna gallwn edrych ar ffyrdd y gellid cyhoeddi'r data amser real hwn ar wefan y Cyngor fel y gallai trigolion wirio ansawdd yr aer yng Nghaerdydd a gwneud dewisiadau mwy gwybodus am sut y maent yn dewis teithio o amgylch y ddinas. Nid wyf yn credu bod yr un ohonon ni wir eisiau ychwanegu at lygredd, a thrwy weld bod llawer o lygredd, efallai y bydden ni i gyd feddwl ddwywaith am fynd â'r car i'r gwaith pan allen ni gerdded, beicio neu gael bws neu drên. Gobeithio y bydd hefyd yn helpu trigolion i weld bod ymyriadau fel lonydd beicio a choridorau bysus yn lleihau llygredd gan wella'r aer a anadlwn a'n hiechyd. Gallai'r Mynegai Ansawdd Aer a gyhoeddwyd ddefnyddio system goleuadau traffig ar y wefan, er mwyn sicrhau ei fod yn glir ac yn hawdd ei ddeall."
Mae'r adroddiad a gymeradwywyd sy'n argymell y treial hefyd yn cynnwys canlyniadau data ansawdd aer ar gyfer 2020. Mae hyn yn dangos bod yr holl Ardaloedd Rheoli Ansawdd Aer (ARhAA) yng Nghanol y Ddinas sef Pont Trelái, Stephenson Court (Heol Casnewydd), a Llandaf ymhell o fewn y terfynau cyfreithiol. Fodd bynnag, casglwyd y data hwn yn ystod y pandemig pan oedd swm y traffig ar draws y ddinas wedi gostwng 28% a phan oedd wedi gostwng 38% yng nghanol y ddinas.
Mae'r crynodiad blynyddol cyfartalog o NO2 wedi'i osod ar derfyn cyfreithiol o 40 μg/m3a dangosodd y data a gasglwyd yn yr ARhAAau ar gyfer 2020 y canlynol:
Ychwanegodd y Cynghorydd Michael: "Bydd y pedwar ARhAA yn parhau ar waith, fel y gallwn barhau i fonitro ansawdd aer yn yr ardaloedd hyn. Yn amlwg mae traffig wedi dychwelyd i'r arfer nawr, mwy neu lai, felly byddwn yn awyddus iawn i weld y canlyniadau diweddaraf pan fyddant yn barod ar draws y meysydd allweddol hyn."
Mae angen i'r Cyngor gyflwyno Cynllun Gweithredu Ansawdd Aer ar y mesurau y mae'n eu cymryd i fynd i'r afael ag ansawdd aer gwael mewn ARhAAau. Er bod yr holl ARhAAau ymhell o fewn y terfynau cyfreithiol yn 2020 oherwydd y pandemig, mae cynllun gweithredu wedi'i roi ar waith i sicrhau bod ansawdd aer yn yr ardaloedd hyn yn parhau o fewn y terfynau cyfreithiol. Dyma'r diweddariadau diweddaraf ar yr ymyriadau hyn sy'n cynnwys 2021:
Caiff ansawdd aer yng Nghaerdydd ei fonitro drwy amrywiaeth o wahanol fonitorau ar draws y ddinas. Maent yn monitro amrywiaeth o lygryddion, gan gynnwys Deunydd Gronynnol (PM2.5); Nitrogen Deuocsid (NA2) Sylffwr Deuocsid (RhS2); Carbon Monocsid (CO) ac Osôn (O3). Dan y ddeddfwriaeth, dim ond lefelau'r Nitrogen Deuocsid (NA2) a'r Deunydd Gronynnol (PM2.5/PM10) yn yr atmosffer y mae'n rhaid i'r Cyngor eu mesur.