Back
Eich Pleidlais. Eich Llais.


 

15/11/21
Mae pobl ifanc a gwladolion tramor cymwys sy'n byw yng Nghaerdydd yn cael eu hannog i gofrestru i bleidleisio, yn dilyn newidiadau i'r gyfraith sy'n golygu y gallant bleidleisio mewn etholiadau Llywodraeth Leol am y tro cyntaf.

 

Cafodd pobl ifanc 16 a 17 oed a dinasyddion tramor cymwys sy'n byw yng Nghymru bleidleisio yn etholiadau'r Senedd yn gynharach eleni ac mae'r etholfraint ddemocrataidd bellach wedi'i hymestyn i'r grwpiau hyn i'w galluogi i bleidleisio mewn etholiadau lleol fis Mai nesaf.

 

Mae'r Cyngor wedi lansio ymgyrch ddigidol i godi ymwybyddiaeth o'r newidiadau ac i annog trigolion sydd newydd eu rhyddfreinio i sicrhau eu bod yn gallu arfer eu hawl ddemocrataidd y gwanwyn nesaf, drwy sicrhau eu bod wedi cofrestru i bleidleisio.

 

Gall pobl ifanc nawr gofrestru i bleidleisio o 14 oed ymlaen.

 

Dywedodd Paul Orders, swyddog cofrestru etholiadol Caerdydd: "Mae ymestyn yr etholfraint ddemocrataidd ar gyfer yr etholiadau lleol i bobl ifanc a gwladolion tramor cymwys yn golygu y caiff mwy o drigolion Caerdydd ddweud eu dweud ar bwy sy'n cynrychioli eu hardal ar gyngor y ddinas.

 

"Mae'n bwysig bod pawb yn arfer eu hawl ddemocrataidd ac yn cofrestru i bleidleisio fel y gallant leisio eu barn ym mis Mai flwyddyn nesaf."

 

Bydd trigolion 14 i 21 oed sy'n cofrestru i bleidleisio yn y ddinas cyn 22 Tachwedd yn cael cyfle i ennill taleb siopa gwerth £100, gan y bydd pob cofrestriad newydd cymwys yn cael ei gynnwys mewn raffl.

 

Mae'r cyngor hefyd yn gweithio gyda phrifysgolion yn y ddinas i annog myfyrwyr sy'n byw yng Nghaerdydd i gofrestru i bleidleisio. Gall myfyrwyr gofrestru i bleidleisio yn eu cyfeiriad cartref a'u cyfeiriad yn ystod y tymor, cyn belled â bod y cyfeiriadau hynny mewn gwahanol ardaloedd etholiadol.

 

Ac yn yr etholiadau lleol fis Mai nesaf, gall myfyrwyr bleidleisio yn eu hardal gartref yn ogystal â'u cyfeiriad prifysgol (cyn belled â bod eu cyfeiriadau mewn ardaloedd cyngor) gan fod yr etholiadau hyn yn cael eu hystyried yn etholiadau ar wahân.

 

Yn ogystal â phleidleiswyr sydd newydd eu rhyddfreinio, mae'r Cyngor yn awyddus i atgoffa'r etholaeth ehangach o bwysigrwydd cofrestru i bleidleisio.  Mae'n gyflym a hawdd cofrestru - dim ond 5 munud sydd ei angen ar drigolion i gofrestru ar-lein, a'u rhif Yswiriant Gwladol. Ewch i www.gov.uk/cofrestru-i-bleidleisio

 

Bydd y gofrestr etholiadol ar gyfer Caerdydd yn cael ei chyhoeddi ar 1 Rhagfyr.