Back
Dathlu nodau Cyflog Byw'r Ddinas yn ystod yr Wythnos Cyflog Byw flynyddol


 

15/11/21

Ar ugeinfed pen-blwydd y mudiad Cyflog Byw ac yn ystod yr Wythnos Cyflog Byw flynyddol eleni (15-21 Tachwedd), mae Caerdydd yn dathlu un o'i blynyddoedd mwyaf llwyddiannus o gefnogi sefydliadau yn y ddinas i ddod yn gyflogwyr Cyflog Byw.

 

Mae Prifddinas Cymru wedi chwalu'r tri tharged allweddol mewn cynllun tair blynedd a osodwyd yn 2019 pan ddaeth hi'r ail ddinas yn y Deyrnas Gyfunol, a'r brifddinas gyntaf, i ennill statws 'Dinas Cyflog Byw' yn rhan o'r cynllun 'Creu Lleoedd Cyflog Byw'.

 

Flwyddyn yn gynnar, mae Caerdydd wedi bwrw ei tharged o 150 o gyflogwyr Cyflog Byw achrededig ac wedi rhagori ar y nod o gynyddu cyfanswm nifer y gweithwyr a gyflogir gan gyflogwyr Cyflog Byw achrededig yng Nghaerdydd i 48,000, fel bod mwy na 61,000 o bobl bellach yn gweithio i gyflogwr Cyflog Byw.

 

Bwriwyd y targed o gynyddu nifer y gweithwyr sy'n cael codiad cyflog i o leiaf y Cyflog Byw gwirioneddol i 6,500 y llynedd a'r ffigur ar hyn o bryd yw 7,900 o weithwyr.

 

Mae'r cyflawniadau'n cael eu dathlu i gyd-fynd â chyhoeddi'r Cyflog Byw "gwirioneddol" newydd - y gyfradd gyflog fesul awr a osodir yn annibynnol sy'n cael ei diweddaru'n flynyddol a'i chyfrifo yn ôl cost byw sylfaenol yn y Deyrnas Gyfunol. Nod y gyfradd yw sicrhau na ddylai unrhyw un orfod gweithio am lai nag y gallant fyw arno ac eleni, cyhoeddwyd mai cyfraddau Cymru yw £9.90 yr awr, cynnydd ar gyfraddau'r llynedd o £9.50.

 

 

Dwedodd Arweinydd Cyngor Caerdydd a Chadeirydd Grŵp Llywio Dinas Cyflog Byw Caerdydd, y Cynghorydd Huw Thomas:  "Mae wedi bod yn flwyddyn eithaf rhyfeddol yn gwneud Caerdydd yn Ddinas Cyflog Byw ac rwyf mor falch ein bod wedi cyflawni'r tri nod allweddol hyn yn barod, er gwaethaf anawsterau ac effaith y pandemig dros y flwyddyn ddiwethaf a mwy.

 

"Mae mwy na 43% o 345 o gyflogwyr achrededig Cymru i'w cael yng Nghaerdydd erbyn hyn ac mae wedi bod yn ymdrech tîm go iawn gan y grŵp llywio - y Cyngor a'i bartneriaid, i gyflawni hyn."

 

Dechreuodd y Cyngor dalu'r Cyflog Byw i'w holl staff yn 2012 cyn dod yn gyflogwr Cyflog Byw achrededig yn 2015. Ers hynny, mae'r awdurdod wedi bod ar flaen y gad yn y mudiad, yn hyrwyddo'r Cyflog Byw ac yn rhoi cymorth i sefydliadau mawr a bach, yn y ddinas i ddod yn gyflogwyr achrededig.

 

Mewn blwyddyn heriol i lawer o sectorau, mae cyfanswm o 32 o sefydliadau newydd wedi cael eu hachredu yn 2021 - gan gynnwys un o dirnodau enwocaf y ddinas - Canolfan Mileniwm Cymru, yn ogystal â nifer o elusennau a sefydliadau lletygarwch.

 

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Gyllid, Moderneiddio a Pherfformiad, y Cynghorydd Chris Weaver: "Mae manteision talu'r Cyflog Byw i staff yn mynd y tu hwnt i'r manteision amlwg i'r unigolyn, gan y gall wella enw da sefydliad yn ogystal â chynyddu cymhelliant staff a nifer y staff a gedwir.

 

"Mae llwyddiannau cefnogi mwy o fusnesau a sefydliadau lleol i gael eu hachredu wedi rhoi £39m yn ychwanegol ym mhecynnau cyflog pobl - mae hynny'n arian ychwanegol yn yr economi leol, gan wneud y ddinas yn lle tecach a mwy cyfartal.

 

"Rydym yn awyddus i gyflawni mwy, a byddwn yn parhau i hyrwyddo'r Cyflog Byw a chefnogi sefydliadau ledled y ddinas ar eu taith Cyflog Byw eu hunain fel bod hyd yn oed mwy o bobl yn y ddinas yn cael diwrnod teg o dâl am ddiwrnod teg o waith."

 

Mae gan y Cyngor gynllun achredu Cyflog Byw sy'n cefnogi busnesau bach lleol i ymrwymo i dalu'r Cyflog Byw i'w gweithwyr eu hunain drwy gynnig cymorth ariannol i'r rheiny sy'n dod yn gyflogwyr Cyflog Byw achrededig.  I gael gwybod mwy am y cynllun a'r Cyflog Byw gwirioneddol, ewch i:https://www.cardiff.gov.uk/CYM/Eich-Cyngor/Strategaethau-cynlluniau-a-pholisiau/Y-Cyflog-Byw/Pages/default.aspx