Back
Mae Ceisiadau Ysgolion Cynradd ar agor nawr

15/11/21

Mae ceisiadau am leoedd mewn ysgolion cynradd i ddechrau ym mis Medi 2022 yn agor heddiw, (dydd Llun 15 Tachwedd 2021) ac mae rhieni'n cael eu hannog i ddefnyddio'r tri dewis i gael y cyfle gorau i gael lle mewn ysgol a ffefrir ganddynt. 

Mae Cyngor Caerdydd hefyd yn gofyn i deuluoedd wneud cais yn brydlon ac i gofio nad oes gan blentyn hawl awtomatig i gael lle mewn dosbarth derbyn mewn ysgol gynradd lle maent yn mynychu'r feithrinfa. Rhaid gwneud cais newydd ar gyfer lle mewn dosbarth derbyn yn yr Ysgol Gynradd.

Mae canllawiau pellach wedi'u cyhoeddi gan Dîm Derbyn i Ysgolion Cyngor Caerdydd sydd wedi llunio 7 gair o gyngor i helpu teuluoedd gan esbonio sut mae'r broses dderbyn yn gweithio, pwysigrwydd defnyddio'r holl ddewisiadau sydd ar gael a pham y dylent wneud cais yn brydlon.

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Addysg, Cyflogaeth a Sgiliau, y Cynghorydd Sarah Merry: "Yn dilyn lansio ein hymgyrch derbyn i ysgolion y llynedd, gwelsom gynnydd yn nifer y rhieni sy'n gwneud cais am leoedd ysgol yn gywir ac yn brydlon. Roedd hyn yn golygu bod mwy o deuluoedd yn gallu cael lle yn eu hysgolion o ddewis ac mae hynny'n gam cadarnhaol tuag at sicrhau bod gan bob teulu yng Nghaerdydd y wybodaeth, y gefnogaeth a'r ddealltwriaeth i osgoi bod dan anfantais wrth wneud cais am le mewn ysgol."

"Y nod yw sicrhau bod gan deuluoedd ddealltwriaeth glir o'r ffordd orau o wneud cais am le sy'n gwneud y broses ymgeisio mor syml a thryloyw â phosibl.

"Rwy'n annog teuluoedd i ddarllen y wybodaeth a ddarparwyd sydd ar gael mewn 10 iaith wahanol, yn ogystal â'r Gymraeg a'r Saesneg. Gallant hefyd ofyn am gymorth a chyngor yn unrhyw un o lyfrgelloedd a hybiau'r ddinas."

Mae'r ymgyrch yn cynnwys animeiddiad newydd ar gyfer plant a theuluoedd, sy'n helpu i esbonio'r 7 gair o gyngor. Mae'n ymdrin â phethau megis:

  • Pwysigrwydd gwneud cais yn brydlon, erbyn y dyddiad cau cyhoeddedig.
  • Manteision ystyried yr holl ysgolion yn ardal y plentyn trwy edrych ar eu gwefannau a darllen eu hadroddiadau
  • Yr angen i gynnwys rhestr lawn o ddewisiadau ysgol yn y ffurflen gais gyntaf er mwyn cynyddu'r posibilrwydd o gael lle yn ysgol eich dewis gan sicrhau bod y ffurflen gais yn cynnwys gwybodaeth hanfodol megis a oes gan y plentyn frawd neu chwaer yn yr ysgol neu unrhyw anghenion dysgu, meddygol neu gymdeithasol ychwanegol.

Ceir gwybodaeth hefyd am sut i wneud apêl os na chewch gynnig lle yn ysgol eich dewis.

I weld y 7 gair o gyngor a'r animeiddiad ewch i:
https://www.youtube.com/watch?v=4L9TC_a-RfA
 

Bydd y cyfnod ceisiadau am le mewn ysgolion cynradd yn dod i ben ddydd Llun10Ionawr, 2022.I wneud cais am le mewn ysgol, ewch i:www.caerdydd.gov.uk/derbyniysgolion <http://www.cardiff.gov.uk/schooladmissions>

Dylai teuluoedd sy'n gwneud cais am le mewn ysgol ffydd wneud ceisiadau'n uniongyrchol i'r ysgol.

Mae ymgyrch 7 awgrym ddiweddaraf y gwasanaeth Derbyn i Ysgolion yn cefnogi addewid Caerdydd i fod yn un o Ddinasoedd sy'n Dda i Blant Unicef cyntaf y DU, gan roi hawliau a lleisiau plant a phobl ifanc wrth wraidd polisïau, strategaethau a gwasanaethau Caerdydd. 

Mae'r wybodaeth hefyd ar gael ar y dudalen we mewn sawl iaith gan gynnwys Arabeg, Bengaleg, Cantoneg, Tsieceg,  Mandarin, Rwmaneg, Rwseg, Portiwgaleg, Pwyleg a Somalïeg.