Back
Datgelu cynlluniau newydd i sicrhau dyfodol yr Hen Lyfrgell

11.11.2021

A picture containing window, indoor, furniture, severalDescription automatically generated

Mae diweddariad argamau Cyngor Caerdydd i sicrhau dyfodol yr Hen Lyfrgellwedi'i ddatgelu.

Mae adroddiad, a gyflwynir i Gabinet yr awdurdod lleol Ddydd Iau 18 Tachwedd, yn gofyn am awdurdod i drosglwyddodefnydd o'r adeilad drwy brydles hir - a fydd hefyd yn talu am y costau rhedeg a chynnal a chadw yn llawn -i Goleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru.

Gofynnir i'r Cabinet ystyried cynlluniau'r Coleg sy'n cynnwys cyflwyno cyfres o fannau cerddoriaeth a pherfformio yn yr ystafelloedd presennol adatblygu'r gwaith presennol yn yr Hen Lyfrgell o ran y Gymraeg, i hyrwyddo a diogelu'r iaith.

Mae cynlluniau llawn Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru'n cynnwys:

  • cynnal a dyfnhau yr amcanion presennol yn yr Hen Lyfrgell i hyrwyddo a diogelu'r Gymraeg.
  • dychwelyd yr Hen Lyfrgell i'w swyddogaeth addysgol wreiddiol ar gyfer myfyrwyr a chyfranogwyr y Coleg.
  • adfer yr adeilad rhestredig i arddangos ei nodweddion gwreiddiol, gan gadw cynllun gwreiddiol yr adeilad.
  • cyflwyno cyfres o fannau perfformio, arddangos ac ymarfer i'r ystafelloedd presennol.
  • darparu mynediad cyhoeddus i "ystafell fyw yn y ddinas" ar y llawr gwaelod, gyda chaffi/man gweithio creadigol.
     

Dwedodd yr Aelod Cabinet dros Ddiwylliant a Hamdden, y Cynghorydd Peter Bradbury: "Mae'r rhain yn gynlluniau newydd cyffrous iawn ar gyfer dyfodol yr Hen Lyfrgell, a fydd yn parhau i fod yn ystyriol o hanes a thraddodiad yr adeilad.

"Bydd hyn yn hwb enfawr i'r celfyddydau perfformio ac yn cyd-fynd yn berffaith â'r Amgueddfa Caerdydd bresennol - sy'n rhan annatod o'r adeilad, gan ddod âhanes y ddinas ynghyd- gyda Neuadd Dewi Sant ger llaw, gan greu canolbwynt ar gyfer creadigrwydd a diwylliant yng nghanol y ddinas. 

"Mae llawer o waith yn cael ei wneud i ddatblygu Strategaeth Gerddoriaeth Caerdydd sy'n cynnwys diogelu sîn gerddoriaeth y ddinas.Bydd y cynigion newydd hyn yn helpu i greu cwr diwylliannol allweddol gyda'r Castell, campws y coleg ym Mharc Bute a'r amgueddfa,gyda'u safle unigryw yn rhan o sîn gerddoriaeth Caerdydd."

DwedoddYr AthroHelena Gaunt, Pennaeth Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, "Mae addysg a chymuned yn rhan o seiliau'r berl bensaernïol hon. Gan gario'r hanes hwnnw i'r dyfodol, ein nod yw dod â'r gofod yn fyw gyda cherddoriaeth, drama ac amrywiaeth o berfformiadau byw yn fagned i bobl leol. Mae'n teimlo fel y cam cwbl naturiol i Gaerdydd ei chymryd fel 'Dinas Gerdd'.

"Bydd unrhyw un sy'n pasio'n campws presennol ym Mharc Bute yn gwerthfawrogi'r swyn o glywed cerddoriaeth ysbrydoledig yn llifeirio drwy'r ffenestri agored - bydd yr hud hwnnw nawr yn dod yn un o nodweddion canol y ddinas."

"Rydyn ni eisiau denu pobl i mewn, yn leoliad y gall pawb ei fwynhau. Byddwn yn agor ein drysau i gynnig profiadau trochi, gan wahodd pobl i archwilio a chreu gyda ni. Rydym am sbarduno chwilfrydedd a meithrin yr ystod fwyaf amrywiol o dalentau, gan gyfuno arloesedd â threftadaeth ddiwylliannol Cymru.

"Mae'r cydweithio hwn â Chyngor Caerdydd yn addewid cyffrous i bobl y ddinas, ac rydym yn edrych ymlaen i gael gwireddu'r addewid hwnnw."

Caiff prif ardaloedd yr adeilad eu meddiannu gan Amgueddfa Caerdydd a ariennir gan y Cyngor a phrydles fasnachol i Virgin Money. Menter Caerdydd sydd â rhan o loriau uchaf yr adeilad.

Dwedodd Prif Weithredwr Menter Caerdydd a Menter Bro Morgannwg, Heulyn Rees, "Rydym yn edrych ymlaen at weithio gyda Choleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru yn y dyfodol.

"Mae darpariaeth Gymraeg yn y celfyddydau yn bwysig iawn i Fenter Caerdydd a Menter Bro Morgannwg ac edrychwn ymlaen at ddatblygu cyfleoedd yng nghanol y ddinas."

Mae'r adeilad wedi elwa ar uwchraddio cynhwysfawr yn ystod y blynyddoedd diwethaf drwy grantiau o wahanol ffynonellau gan gynnwys Cronfa Dreftadaeth y Loteri ar gyfer Amgueddfa Caerdydd a Llywodraeth Cymru i gefnogi Canolfan y Gymraeg. Fodd bynnag, mae oedran yr adeilad yn golygu bod angen cynnal a chadw parhaus ac mae'n anodd rhagweld a rheoli'r gost o fynd i'r afael â'r ôl-groniad cynnal a chadw.

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Fuddsoddi a Datblygu, y Cynghorydd Russell Goodway: "Fel un o adeiladau treftadaeth Caerdydd gwerthfawr, mae gennym gyfrifoldeb i adlewyrchu gwerth a photensial yr Hen Lyfrgell yn llawn.

"Y tu hwnt i'r Hen Lyfrgell rydyn ni wedi ymrwymo'n llwyr i amddiffyn gorffennol y ddinas ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol, a thrwy ystyried atebion arloesol ac adeiladu ar bartneriaethau gyda'r sector preifat ac academia, gallwn sicrhau y caiff rhai o adeiladau mwyaf eiconig Caerdydd eu cynnal a'u cadw'n briodol.

Delwedd- y gofod perfformio dan do a gynigir ar gyfer yr Hen Lyfrgell (Credyd: Flanagan Lawrence)