1. Beth mae'r
cyngor yn ei wneud am yr argyfwng tai?
Wel, y peth cyntaf i'w nodi yw ein bod yn adeiladu
cartrefi cyngor newydd ein hunain ac rydym yn ei wneud mewn niferoedd mawr.
Bydd ein rhaglen adeiladu tai cyngor yn darparu tua 2,500
o gartrefi cyngor newydd dros yr 8 mlynedd nesaf. Adeiladwyd mwy na 600 ohonynt
hyd yn hyn, ac mae dros 95% o'r safleoedd yn y rhaglen adeiladu honno yn safleoedd
tir llwyd.
Mae hwn yn gam pwysig i ni – dyma'r rhaglen adeiladu tai
cyngor fwyaf yng Nghymru, ac mae ganddi gyllideb o tua £450 miliwn.
Drwy adeiladu ein hunain, ar dir yr ydym eisoes yn
berchen arno, gallwn osod ein safonau ein hunain, gan ganolbwyntio ar symud yn
gyflym tuag at safon carbon sero-net.
Mae hynny'n bwysig am ddau reswm: yn gyntaf mae'n sicrhau
ein bod yn lleihau allyriadau carbon o'n rhaglen, yn ail, mae hefyd yn helpu i
fynd i'r afael â thlodi tanwydd ac yn lleihau biliau i denantiaid y dyfodol.
Gallwn hefyd sicrhau ein bod yn adeiladu'r cartrefi cywir
yn yr ardaloedd cywir – mynd i'r afael ag angen am dai a darparu'r cartrefi mwy
arbenigol sydd eu hangen arnom, ond nid yw hynny'n cael ei ddarparu mewn
niferoedd mawr drwy lwybrau mwy traddodiadol – pethau fel cartrefi hyblyg i
bobl hŷn i helpu i gefnogi byw'n annibynnol, cartrefi mwy i deuluoedd i helpu i
fynd i'r afael â gorlenwi, mwy o dai wedi'u haddasu ar gyfer pobl anabl a
chynlluniau tai â chymorth.
Ond pan fydd adeiladwyr tai preifat yn cyflwyno ceisiadau
cynllunio ar gyfer datblygiadau newydd, rydym hefyd yn negodi am ganran o dai
fforddiadwy newydd ar bob cynllun. Gan sicrhau bod rhagor o dai fforddiadwy yn
cael eu darparu ar draws y ddinas a'n bod yn cyrraedd y targedau ar gyfer tai
fforddiadwy a nodir yn ein Cynllun Datblygu Lleol presennol. Lle na all
datblygiadau ddarparu ar gyfer y cartrefi fforddiadwy ar y safle, o fewn bloc o
fflatiau er enghraifft, byddem yn gofyn am gyfraniad ariannol gan y datblygwr
i'w roi tuag at dai fforddiadwy newydd.
Ar ben hynny, rydym hefyd yn cefnogi rhaglenni datblygu
Cymdeithasau Tai i sicrhau y gallant ddarparu cartrefi fforddiadwy newydd mewn
niferoedd mawr.
Yna mae’r tai sy’n cael eu
hadeiladu gan ddatblygwyr preifat o gwmpas Caerdydd, yn enwedig ar y safleoedd
strategol a nodir yn ein Cynllun Datblygu Lleol presennol – mae cyfraddau
adeiladu ar y safleoedd hyn yn uchel nawr, gyda chymysgedd o dai fforddiadwy,
fflatiau a chartrefi teuluol mwy. Mae'r ffigurau diweddaraf o'n hadroddiad
monitro CDLl yn dangos bod 3,650 o gartrefi wedi'u cwblhau ar y safleoedd hyn
rhwng 2018/19 a 2020/21 a bod 2,196 o gartrefi wedi'u hadeiladu o fis Ebrill
eleni. Heb y cyflenwad cynyddol hwn, gallai cost tai ddringo hyd yn oed yn
uwch.
2.
Beth mae tai fforddiadwy yn ei olygu mewn
gwirionedd? Fforddiadwy i bwy?
Pan soniwn am dai fforddiadwy yr hyn yr ydym yn sôn
amdano yw eiddo lle mae mecanweithiau ar waith i sicrhau eu bod yn hygyrch i'r
rhai na allant fforddio tai ar y farchnad agored (tai preifat sy’n cael eu
gwerthu neu eu rhentu, lle mae'r pris wedi'i osod ar y farchnad agored), ar y
feddiannaeth gyntaf ac ar ôl hynny.
Gallai hynny olygu cartrefi sydd ar gael i'w rhentu'n
gymdeithasol gan y cyngor neu gymdeithas dai neu gallai fod yr hyn a elwir yn
'renti canolraddol' - lle mae'r rhent yn uwch na rhent cymdeithasol ond yn is
na rhent ar y farchnad agored. Mae rhai Cymdeithasau Tai yn darparu eiddo rhent
canolraddol.
Rydym hefyd yn cynnwys cartrefi fforddiadwy i'w prynu ar
gyfer prynwyr tro cyntaf o fewn y diffiniad o dai fforddiadwy. Mae'r cartrefi
hyn ar gael i brynwyr tro cyntaf sydd wedi cofrestru ar ein cynllun
'Perchentyaeth â Chymorth' ac na fyddent fel arall yn gallu fforddio cartref
newydd ar werth y farchnad. Mae cartrefi newydd o dan y cynllun hwn ar gael ar
70-80% o werth y farchnad, gyda'r cyngor yn cadw'r gyfran ecwiti o 30% neu 20%.
Pan werthir eiddo a brynir dan y cynllun, rydym yn dod o hyd i brynwr o'n
rhestr o ymgeiswyr ac mae person arall yn cael cartref fforddiadwy.
Felly, mae cartref cyngor, sydd ar gael i'w rentu'n
gymdeithasol yn uniongyrchol gan y cyngor, yn 'fforddiadwy'. Mae'r rhenti'n
llawer is na rhenti yn y sector rhent preifat, ac mae'n ddiogel oherwydd os
bydd tenant yn symud allan, mae'n parhau i fod ar gael i bobl eraill sydd angen
cartref - mae tenant cyngor newydd yn symud i mewn.
Y cartrefi cyngor hyn, sydd ar gael i'w rhentu, sy’n
ffurfio'r rhan fwyaf o'r hyn yr ydym yn ei adeiladu ein hunain. Fel y
dywedasom, bydd ein rhaglen yn darparu tua 2,500 o gartrefi cyngor newydd ar
gyfer rhentu cymdeithasol.
3.
Ond rydych chi'n gwerthu rhai o'r cartrefi rydych chi'n
eu hadeiladu'n breifat. Sut mae hynny'n helpu i ddatrys yr argyfwng tai? Onid
ydynt yn cael eu prynu gan landlordiaid sydd yna’n eu rhentu i bobl am renti
uchel?
Ein nod ar hyn o bryd yw adeiladu 2,500 o gartrefi cyngor
newydd. Ar safleoedd datblygu’r Cyngor rydym yn darparu cynlluniau deiliadaeth
gymysg i sicrhau bod cymuned gynaliadwy yn cael ei chreu – fel ein safle Gwaith
Nwy yn Grangetown er enghraifft, bydd y safle hwn yn darparu cyfanswm o tua 500
o gartrefi newydd. Bydd o leiaf 50% yn gartrefi cyngor (ar gael ar gyfer rhent
cymdeithasol) a bydd pob eiddo yn niwtral o ran deiliadaeth felly nid oes
gwahaniaeth gweladwy rhwng cartref preifat ac un sy'n eiddo i'r cyngor.
Yna mae ein Partneriaeth Cartrefi Caerdydd arobryn – sy’n
darparu cartrefi deiliadaeth gymysg sy’n niwtral o ran deiliadaeth ar y
mwyafrif o'n safleoedd wedi bod yn llwyddiannus iawn o ran sicrhau bod cartrefi
newydd ar werth yn cael blaenoriaeth ac yn fforddiadwy i bobl o fewn y gymuned
leol a allai fod eisiau prynu cartref newydd.
Er enghraifft ar ddatblygiad Rhodfa’r Capten a Golwg y
Môr yn Llanrhymni gwerthwyd dros 85% o'r cartrefi newydd sydd ar werth i
drigolion yr ardal leol. Gwerthwyd cartrefi 2 ystafell wely yma am £155,000 yn
gyffredinol, a chartrefi 3 ystafell wely am £180,000 - gan sicrhau eu bod yn
fforddiadwy i'r farchnad leol.
Ond yr hyn sy'n bwysig i'w nodi yw ein bod am i'r holl
gartrefi rydym yn eu hadeiladu fodloni safonau uchel iawn, o ran maint, ansawdd
a chynaliadwyedd – gan sicrhau bod ein rhaglen adeiladu gyfan yn symud tuag at
garbon sero-net.
Felly, bydd ein rhaglen yn darparu 2,500 o gartrefi
cyngor newydd ond bydd hefyd yn darparu 1,400 o gartrefi eraill ar werth. Er na
fyddai'r eiddo ychwanegol hyn yn bodloni'r meini prawf o fod yn 'fforddiadwy'
mae'r elw y maent yn ei gynhyrchu yn cael ei ail-fuddsoddi wrth adeiladu mwy o
gartrefi cyngor.
Hefyd, mae'n bwysig cofio bod diffyg cyflenwad tai yng
Nghaerdydd. Oes, mae angen mwy o dai fforddiadwy ar Gaerdydd, ond mae angen mwy
o gartrefi arni hefyd.
4.
Iawn, felly mae angen mwy o dai ar Gaerdydd. Ond a oes
rhaid iddynt fod ar safleoedd maes glas? Oni allwn adeiladu ar safleoedd tir
llwyd yn unig?
Wel, mae cwpl o bwyntiau pwysig i'w nodi wrth ateb hyn –
y cyntaf yw bod y mwyafrif llethol o gartrefi y mae'r Cyngor yn eu hadeiladu'n
uniongyrchol yn cael eu hadeiladu ar safleoedd tir llwyd - 95% o'n safleoedd.
Yr ail yw bod y Cyngor wedi cynnig ac ymgynghori ar
Gynllun Datblygu Lleol 'tir llwyd yn unig' yn ôl yn 2009. Tynnwyd y cynnig hwn
yn ôl yn 2010 ar ôl i Lywodraeth Cymru a'r Arolygydd a benodwyd i archwilio'r
cynllun godi pryderon am y diffyg ystod a dewis o dir sydd ar gael ar gyfer
tai.
Felly, mae tai'n cael eu hadeiladu ar hyn o bryd gan
ddatblygwyr preifat ar nifer o safleoedd maes glas strategol a nodwyd dan y
Cynllun Datblygu Lleol presennol. Mae rhai manteision i ddatblygiadau maes glas
- y prif un yw oherwydd bod y tir yn rhatach, y gellir adeiladu mwy o dai
fforddiadwy - mae mwy na 1,000 ohonynt wedi'u hadeiladu o dan y CDLl presennol.
Ond mae'n werth nodi hefyd, er y gallai adeiladu ar safleoedd maes glas swnio'n
waeth o ran bioamrywiaeth, mewn gwirionedd nid yw hyn o reidrwydd yn wir. Yn
aml, nid yw llawer o dir fferm, er enghraifft, yn wych ar gyfer bioamrywiaeth -
tra gall rhai safleoedd tir llwyd fod yn llawn bywyd gwyllt amrywiol.
Rydym wrthi'n disodli'r Cynllun presennol. Mae llawer i'w
wneud cyn i'r cynllun newydd gael ei gwblhau, ond mae'r weledigaeth a'r
amcanion ar gyfer y cynllun newydd yn nodi y bydd yn ceisio sicrhau bod
"datblygiadau’n cael eu hyrwyddo yn y lleoliadau mwyaf cynaliadwy a bod
tir yn cael ei ddefnyddio'n effeithlon gyda blaenoriaeth 'tir llwyd yn
gyntaf'."
5.
Ond nid oes yr un o'r cartrefi hynny y mae datblygwyr
preifat yn eu hadeiladu yn fforddiadwy. Sut mae cartrefi moethus newydd yn mynd
i'r afael â diffyg tai fforddiadwy?
Wel nid yw hynny'n hollol wir. Yn wir, dros y tair
blynedd diwethaf mae 1,267 o dai fforddiadwy wedi'u hadeiladu dan y Cynllun
Datblygu Lleol presennol. Mae'r cyngor yn negodi ar gyfer y cartrefi hyn drwy'r
broses gynllunio. Er enghraifft, mae gan Ddatblygiad Plas Dŵr yng ngorllewin
Caerdydd ganiatâd cynllunio ar gyfer hyd at 6,000 o gartrefi - mae'n ofynnol i
30% o'r cartrefi hyn fod yn fforddiadwy.
Ond wedi dweud hynny, mae'n wir nad yw pob cartref sy'n
cael ei adeiladu gan ddatblygwyr yn fforddiadwy i bawb. Mae datblygwyr yn
adeiladu'r hyn y maent yn credu y gallant ei werthu am yr elw mwyaf – maent yn
cael eu gyrru gan y farchnad. Os nad oedd galw am y tai hynny, ni fyddent yn eu
hadeiladu.
Fodd bynnag, fel rheol gyffredinol, mae prisiau'n codi
pan fydd y galw'n uwch na'r cyflenwad, a dyna'r sefyllfa yr ydym ynddi yng
Nghaerdydd ar hyn o bryd. Mae angen mwy o gyflenwad, o'r math cywir o gartrefi.
6.
Ond oni ddylech orfodi datblygwyr i adeiladu mwy o dai
fforddiadwy? Oni allwch chi gymryd safbwynt cryfach gyda nhw pan fyddwch chi'n
negodi cyfraniadau Adran 106?
Gyda mwy na £100,000,000 o gyfraniadau Adran 106 wedi'u
negodi ers 2016/17 rydym yn gwneud yn eithaf da yn hynny o beth yn barod, gydag
arian wedi cael ei gytuno i dalu am bethau fel ysgolion, ffyrdd, cymorthfeydd a
chaeau chwarae, yn ogystal â thai fforddiadwy.
Ar hyn o bryd mae polisi cynllunio yn ei gwneud yn
ofynnol i 30% o dai fforddiadwy gael eu darparu ar safleoedd tir glas ac 20% ar
safleoedd tir llwyd.
Dim ond yr hyn y gallant ei fforddio y gall datblygwyr
preifat ei ddarparu, ac mae cost tir a chost deunyddiau wedi codi'n sylweddol
yn ystod y blynyddoedd diwethaf.
Mewn achosion o'r fath, rydym yn ei gwneud yn ofynnol i
ddatblygwyr ddarparu tystiolaeth na fyddai eu cynllun yn gallu mynd yn ei flaen
pe baent yn gwneud y cyfraniad ariannol y gofynnwyd amdano i ddechrau.
Mae'n bwysig cofio nad ydym yn cymryd gair y datblygwyr
yn unig – mae unrhyw dystiolaeth y maent yn ei darparu yn cael ei dilysu'n
annibynnol. At hynny, os na all y datblygiad ddarparu ar gyfer seilwaith
hanfodol, byddai'r ceisiadau'n cael eu gwrthod, p'un a oeddent yn hyfyw ai
peidio.
Fe siaradon ni am hyn yn fanylach mewn dogfen holi ac
ateb a wnaethom ar gynllunio yn gynharach eleni. Darllenwch fwy am hyn yma: https://www.cardiffnewsroom.co.uk/releases/c25/26663.html
7.
Sut mae eich Partneriaeth Cartrefi Caerdydd gyda'r
datblygwr preifat Wates yn gweithio felly? Pan fyddant yn gwerthu’r tai y maent
yn eu hadeiladu fel rhan o'r bartneriaeth yn breifat, a yw hynny'n cyfrannu at
gost y datblygiad.
Mewn ffordd, ydy. Un o'r pethau allweddol am y
bartneriaeth Cartrefi Caerdydd yw y gallwn ddatblygu safleoedd bach, safleoedd
na fyddent fel arfer yn hyfyw yn economaidd i ddatblygwyr ar eu pen eu hunain
gan y byddai'r elw yn rhy fach. Mae'r safleoedd hyn yn cael eu
traws-sybsideiddio gan y safleoedd mwy, mwy deniadol. Ac fel yr ydym eisoes
wedi dweud rydym yn cydnabod y dylai'r safleoedd mwy a ddarparwn fod yn rhai
deiliadaeth gymysg.
Ond mae'r elw a gynhyrchir gan y cartrefi sydd ar werth
drwy Cartrefi Caerdydd yn cael ei rannu rhwng Wates a'r Cyngor, sy'n helpu i
roi'r arian i adeiladu cartrefi cyngor newydd. Rydym hefyd wedi gosod safonau
uchel iawn ar gyfer yr holl dai a ddarperir drwy'r bartneriaeth, felly mae
hynny’n gwella ansawdd y cartrefi sydd ar werth hefyd. Mae'n rhaid iddynt i gyd fodloni safonau
effeithlonrwydd ynni llawer uwch ac rydym wedi treialu rhai dulliau adeiladu
arloesol iawn fel PassivHaus, Modular a charbon isel – sy’n lleihau effaith
carbon ein datblygiadau a lleihau biliau tanwydd i breswylwyr newydd.
Drwy gydweithio, mae ein partneriaid yn gwybod bod rhaid
darparu canran benodol o'r eiddo (sy'n amrywio o safle i safle) fel cartrefi
cyngor. Mae hynny'n dileu rhywfaint o'r risg iddynt ac yn sicrhau ein bod yn
cael y cartrefi fforddiadwy y mae mawr eu hangen yn gyflym, am werth da am
arian.
8.
Iawn, beth am renti'r sector preifat? Oni ellir eu capio?
Yr ateb byr yw, nid gan y cyngor.
Daeth capio rhent i ben yn 1988 drwy gyflwyno
Tenantiaethau Byrddaliol Sicr. Cyflwynwyd y cytundebau tenantiaeth newydd hyn i
geisio rhoi mwy o hyblygrwydd i'r farchnad rentu.
Byddai ailgyflwyno capio rhent yn gofyn am ddeddfwriaeth
Llywodraeth Cymru.
9.
Oni allwch wneud defnydd o rai o'r eiddo gwag ac
adfeiliedig o amgylch Caerdydd? Ydych chi hyd yn oed yn gwybod faint ohonyn nhw
sydd i’w cael?
Ar hyn o bryd mae 1355 o gartrefi preifat yng Nghaerdydd
sydd wedi bod yn wag ers dros 6 mis.
Ac rydym yn ceisio gwneud defnydd ohonynt eto – ers
2018/19 rydym wedi gwneud hynny gyda 252 o gartrefi, gan ddefnyddio cyfuniad o
gyngor, cymorth a chamau gorfodi.
Ar adegau pan fo'r dull hwnnw'n aflwyddiannus, ac os
bernir ei fod er budd y cyhoedd, mae nifer o opsiynau pellach ar gael i ni –
gan gynnwys cael perchnogaeth o'r eiddo gan ddefnyddio Gorchymyn Prynu
Gorfodol. Mae hyn yn rhywbeth yr ydym wedi'i wneud yn ddiweddar, ond mae'r
broses yn gymhleth ac yn gostus, a gall gymryd tua thair blynedd o'r dechrau
i'r diwedd.
Yn 2019, cyflwynwyd premiwm treth gyngor ar gyfer
cartrefi gwag i annog perchnogion eiddo i wneud defnydd o’u heiddo unwaith eto.
Mae'r premiwm hwn, sy'n golygu y codir y dreth gyngor ar 150% pan fydd eiddo
wedi bod yn wag am flwyddyn, yn cael ei ddefnyddio i ariannu'r broses o
recriwtio staff ychwanegol i weithio ar yr achosion cymhleth hyn. Gofynnir am
gyllid pellach hefyd gan Lywodraeth Cymru i danysgrifennu'r risgiau ariannol o
fwrw ymlaen â'r achosion hyn.
10. Cartrefi o
ansawdd da sydd eu hangen ar bobl hefyd. Mae angen i chi roi'r gorau i
adeiladu'r holl lety myfyrwyr hyn – maen nhw’n wag ac yna'n cael caniatâd i
newid defnydd, fel tai o ansawdd isel.
Rydyn ni’n cytuno. Cartrefi o ansawdd da yw'r union beth
sydd ei angen ar bobl, a dyna beth mae'r cyngor yn ei adeiladu.
Un peth nad ydym wedi'i adeiladu yw unrhyw flociau llety
myfyrwyr – er nad ydym yn credu bod y blociau hyn yn beth drwg (mae'n fwy
cynaliadwy - mae pobl sy'n byw yng nghanol y ddinas yn golygu y gellir gwneud
mwy o deithiau ar droed neu ar feic, mae'n cynhyrchu mwy o fusnes i'r economi
leol, ac mae'r adeiladau eu hunain yn ddiogel, yn effeithlon ar y cyfan, ac o ansawdd da – sef yr hyn y mae'r rhan
fwyaf o fyfyrwyr am ei gael y dyddiau hyn) - cynigir y prosiectau hyn gan
ddatblygwyr preifat ar dir y maent yn berchen arno. Yna maent yn gwneud cais
i'r cyngor am ganiatâd cynllunio i adeiladu.
Rhaid gwneud penderfyniadau ar ganiatâd cynllunio yn unol
â chyfreithiau cynllunio. Ni allwn wrthod cais oherwydd nad yw pobl yn ei
hoffi. Ac fel y dywedasom yn gynharach, mae datblygwyr yn cael eu gyrru gan y
farchnad, os nad oeddent yn credu bod marchnad ar gyfer llety myfyrwyr, ni
fyddent yn ei adeiladu.
Mae hefyd yn anghywir dweud bod y blociau hyn yn cael eu
hadeiladu ac yna'n cael eu trosi'n dai cost isel. Rhoddwyd nifer o geisiadau am newid defnydd
dros dro yn ystod pandemig Covid-19 wrth i nifer y myfyrwyr yn y ddinas
leihau'n sylweddol. Daeth y caniatâd ar
gyfer y newidiadau dros dro hyn i ben ym mis Medi 2021 ac mae'r safleoedd hyn
bellach wedi dychwelyd i'w defnydd sefydledig fel llety myfyrwyr pwrpasol.
Pe bai unrhyw newidiadau defnydd parhaol yn cael eu
cynnig ar gyfer yr adeiladau hyn, byddai angen cyflwyno cais cynllunio llawn,
gan nad oes unrhyw newidiadau defnydd a ganiateir o Lety Myfyrwyr a Adeiladwyd
yn Bwrpasol o dan gyfraith cynllunio.
Os oes gennych ddiddordeb mewn dysgu mwy am sut mae
cynllunio'n gweithio, gallai'r ddogfen holi ac ateb fod yn ddefnyddiol: https://www.cardiffnewsroom.co.uk/releases/c25/26663.html
11. Wel, peth
arall nad ydych yn ei adeiladu yw unrhyw seilwaith i wasanaethu'r holl gartrefi
newydd hyn. Ble mae'r ysgolion, y meddygfeydd, y llwybrau bysus ac ati?
Mae seilwaith yn cael ei gyflwyno i wasanaethu'r
datblygiadau newydd o amgylch y ddinas. Mae'r gofynion hyn wedi'u nodi yn y
Cynllun Datblygu Lleol, ond mae wedi'i adeiladu fesul cam – hyd nes y caiff tai
eu cwblhau a'u meddiannu, nid oes angen rhai cyfleusterau. Ni fyddech, er
enghraifft, yn adeiladu ysgol gyfan ar gyfer llond llaw o blant yn unig – mae
angen bodloni trothwyon poblogaeth penodol.
Mae'r gwaith o ddarparu'r seilwaith hwn yn aml yn cael ei
gynnwys mewn cytundebau cyfreithiol rhwng y Cyngor a'r datblygwr a elwir yn
Gytundebau Adran 106. Mae'r rhain yn
gyfreithiol rwymol, ac fel y dywedasom yn gynharach – rydym wedi negodi mwy na
£100,000,000 o gyfraniadau Adran 106 ers 2016/17.
12. Beth am
newid yn yr hinsawdd? Pa mor wyrdd yw'r tai newydd hyn?
Ni allwn siarad am y cartrefi newydd sy'n cael eu
hadeiladu gan ddatblygwyr preifat – bydd rhai yn fwy ecogyfeillgar nag eraill –
ond bydd rhaid i bawb gydymffurfio â'r Rheoliadau Adeiladu diweddaraf a bennwyd
gan Lywodraeth Cymru ac yn gyffredinol byddant yn llawer mwy effeithlon na’r
cartrefi presennol yng Nghaerdydd.
Ond rydym yn gweithio ar wneud y cartrefi cyngor newydd
mor wyrdd ag y gallwn – ac rydym yn gweithio ar sicrhau eu bod mor agos at sero carbon ag y gallwn.
Yn ddiweddar, rydym wedi mabwysiadu safon dylunio
Caerdydd sy'n nodi'r gofynion sylfaenol y mae'n rhaid i'n cartrefi cyngor
newydd eu bodloni. Mae hyn yn sicrhau ein bod yn darparu cartrefi newydd sydd
ag adeiladwaith adeiladu effeithlon iawn, gan leihau colli gwres (a'r galw am wres)
o'i gymharu â thŷ a adeiladwyd i reoliadau adeiladu safonol – mae'r safon
ddylunio yn cyflawni gwelliant o 85% o leiaf yn erbyn y rheoliadau adeiladu
presennol.
Hefyd, rhaid i bob un o'n cartrefi newydd wrth symud
ymlaen ddarparu pwyntiau gwefru cerbydau trydan a manteisio i'r eithaf ar
ffynonellau adnewyddadwy ar y safle megis PV solar gyda storio batris, a
phympiau gwres o’r ddaear neu bympiau gwres ffynhonnell aer yn hytrach na
boeleri nwy.
Er enghraifft, bydd y cartrefi sy'n cael eu hadeiladu
drwy Cartrefi Caerdydd ar safle hen ysgol Uwchradd y Dwyrain yn Nhredelerch yn
cynnwys gwell ffabrig adeiladu, paneli ffotofoltäig, storio batris, silindrau
dŵr clyfar, pympiau gwres o'r ddaear, a phwyntiau gwefru cerbydau trydan - sydd
i gyd yn ychwanegu at welliant o 95% ar reoliadau adeiladu a bil ynni misol a
ddylai fod 60% yn is na chyfartaledd y DU a 35% yn is na'r cartrefi newydd
cyffredin.
Rydym hefyd yn blaenoriaethu seilwaith gwyrdd newydd a
Systemau Draenio Dinesig Cynaliadwy er mwyn rheoli dŵr ffo stormydd i gyfyngu
ar yr effaith y bydd ein cynlluniau'n ei chael ar y seilwaith draenio
presennol, lleihau potensial llifogydd lleol a darparu mannau gwyrdd deniadol o
ansawdd i drigolion.
13. A beth am
bobl anabl? Pa ganran o'r cartrefi hyn fydd yn addas ar gyfer defnyddwyr cadair
olwyn?
Mae pob un o'n cartrefi cyngor newydd wedi'u hadeiladu i
safonau cartrefi gydol oes a gellir eu haddasu'n hawdd i ddarparu ar gyfer
defnyddiwr cadair olwyn neu rywun sy'n cael trafferth â symudedd.
O drosglwyddo, mae ein cartrefi'n cynnwys cawod hygyrch
ar y llawr gwaelod, mynediad gwastad i ddrysau'r tu blaen a'r cefn ac yn
cynnwys panel y gellir ei gnocio allan yn nenfwd y lolfa i osod lifft.
Rydym hefyd yn adeiladu nifer fawr o eiddo arbenigol
hyblyg ac addasadwy yn benodol ar gyfer llety â chymorth, pobl hŷn neu
Wasanaethau Plant.