Dyma'r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Caerdydd, gan gynnwys: Gwaith Cynnal a Chadw ger Afon Taf yn Fferm y Fforest; nifer achosion a phrofion COVID-19 Caerdydd; a cyfanswm brechu Caerdydd a Bro Morgannwg.
Gwaith Cynnal a Chadw ger Afon Taf yn Fferm y Fforest
Bydd gwaith cynnal a chadw hanfodol gan Gyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yn digwydd wrth ymyl Afon Taf yn Fferm y Fforest, o ddydd Mercher 10 Tachwedd.
Bydd y gwaith yn cynnwys cael gwared â'r ddraenen wen wrth ymyl y wal llifogydd wrth ymyl Forest Farm Road i sicrhau ei bod yn parhau'n sefydlog.
Bydd CNC hefyd yn clirio'r arglawdd i'w gadw'n gymharol rydd o lystyfiant fel y gellir ei archwilio'n hawdd ar gyfer unrhyw ddifrod.
Mae'r llystyfiant hefyd yn cael ei glirio i ganiatáu i laswellt dyfu ar yr arglawdd. Mae glaswellt yn creu rhwydwaith cryf a chyson o wreiddiau ac yn gwneud y banciau'n fwy gwydn.
Bydd y llwybr cerdded sy'n rhedeg ochr yn ochr â Forest Farm Road ger y clwb rygbi a'r maes chwaraeon ar gau, ond bydd y ffordd ei hun yn parhau ar agor i geir ei defnyddio ac i bobl barhau i ddefnyddio llwybr Taf.
Bydd gwaith yn y dyfodol yn cynnwys gwaith diogelwch hanfodol i goed. Bydd yr holl goed y gellir eu cadw yn y coetir - yn fyw neu farw - yn cael eu cadw gan eu bod yn gynefin pwysig iawn i amrywiaeth eang o rywogaethau.
Disgwylir i'r gwaith gael ei gwblhau erbyn dydd Mercher 17 Tachwedd 2021.
Achosion a Phrofion Caerdydd - Data'r 7 Diwrnod (29 Hydref - 04 Tachwedd)
Yn seiliedig ar ffigurau diweddaraf Iechyd Cyhoeddus Cymru
Mae'r data'n gywir ar:
08 Tachwedd 2021, 09:00
Achosion: 2,179
Achosion fesul 100,000 o'r boblogaeth: 593.9 (Cymru: 527.7 achosion fesul 100,000 o'r boblogaeth)
Achosion profi: 9,570
Profion fesul 100,000 o'r boblogaeth: 2,608.3
Cyfran bositif: 22.8% (Cymru: 20.5% cyfran bositif)
Diweddariad Statws Brechu Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro - 09 Tachwedd
Ddarparwyd y data gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro
Sylwer y gall fod mân ddiwygiadau i ddata wrth iddo gael ei ddilysu dros amser
Cyfanswm nifer y dosau brechu a roddwyd gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro hyd yn hyn, yn y ddwy ardal awdurdod lleol: 841,332 (Dos 1: 395,438 Dos 2: 359,855 DOS 3: 5,490 Dosau atgyfnertha: 78,310)
Data Cohort - Diweddarwyd ddiwethaf 01 Tachwedd