Dyma'r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Caerdydd, gan gynnwys: gwasanaeth galw heibio brechu COVID-19; nifer achosion a phrofion COVID-19 Caerdydd; achosion COVID-19 a adroddwyd yn ysgolion Caerdydd yn ystod y 7 diwrnod diwethaf; cyfanswm brechu Caerdydd a Bro Morgannwg; a gwaith cynnal a chadw tir arfaethedig yng Coedwigoedd y Goredd Ddu.
Gwasanaeth Galw Heibio Brechu COVID-19
Mae gwasanaeth brechu galw heibio dyddiol ar gael yngNghanolfan Frechu Torfol y Bae, rhwng 8:30am a 7:30pm, o ddydd Llun i ddydd Sul.
Mae'r gwasanaeth dyddiol yn cynnig dos cyntaf ac ail ddos o'r brechlyn COVID-19, ond nid y brechiad atgyfnerthu (anfonir llythyrau yn darparu manylion apwyntiad ar gyfer hynny).
Gall aelodau o'r cyhoedd ddefnyddio'r gwasanaeth cerdded i mewn, os:
Nid ydynt wedi cael eu dos cyntaf o'r brechlyn COVID-19, maent yn 12 oed ac yn hŷn ac yn byw neu'n gweithio yng Nghaerdydd a'r Fro
Neu
Maent yn disgwyl eu hail ddos o Oxford AstraZeneca neu Pfizer ac mae wedi bod o leiaf 8 wythnos ers y dos cyntaf
Rhaid i'r rhai rhwng 12 a 15 oed fod yng nghwmni rhiant neu warcheidwad.
Mae'r gwasanaeth galw heibio bob dydd hefyd ar gael yngNghanolfan Hamdden Holm View yn y Barri, rhwng 8:30am a 7:30pm, o ddydd Llun i ddydd Sul. Mae Canolfan Hamdden Holm View dim ond yn cynnig dos cyntaf ac ail ddos Pfizer.
Mae rhagor o fanylion am raglen frechu torfol COVID-19 yng Nghaerdydd a Bro Morgannwg ar gael ar-lein yma:
https://bipcaf.gig.cymru/covid-19/covid-19-mass-vaccination-programme/
Achosion a Phrofion Caerdydd - Data'r 7 Diwrnod (25 Hydref - 31 Hydref)
Yn seiliedig ar ffigurau diweddaraf Iechyd Cyhoeddus Cymru
Mae'r data'n gywir ar:
04 Tachwedd 2021, 09:00
Achosion: 2,265
Achosion fesul 100,000 o'r boblogaeth: 617.3 (Cymru: 548.4 achosion fesul 100,000 o'r boblogaeth)
Achosion profi: 8,953
Profion fesul 100,000 o'r boblogaeth: 2,440.2
Cyfran bositif: 25.3% (Cymru: 23.2% cyfran bositif)
Achosion COVID-19 a adroddwyd yn ysgolion Caerdydd yn ystod y 7 diwrnod diwethaf (29/10/21 i 04/11/21)
Cyfanswm y nifer a adroddwyd = 406
Yn seiliedig ar y ffigurau diweddaraf, mae ychydig o dan 57,000 o ddisgyblion a myfyrwyr wedi'u cofrestru yn ysgolion Caerdydd.
Diweddariad Statws Brechu Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro - 05 Tachwedd
Ddarparwyd y data gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro
Sylwer y gall fod mân ddiwygiadau i ddata wrth iddo gael ei ddilysu dros amser
Cyfanswm nifer y dosau brechu a roddwyd gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro hyd yn hyn, yn y ddwy ardal awdurdod lleol:830,094(Dos 1: 394,849 Dos 2: 359,466 DOS 3: 4,191 Dosau atgyfnertha: 71,516)
Data Cohort - Diweddarwyd ddiwethaf 26 Hydref
Gwaith Cynnal a Chadw Tir Arfaethedig - Coedwigoedd y Goredd Ddu
Dechreuodd y gwaith o ddatblygu llwybr newydd drwy Goed y Gored Ddu yr wythnos yn dechrau Dydd Llun 25 Hydref 2021. Gwnaed hyn gan dîm rheoli coetir mewnol y Cyngor.
Mae Coed y Gored Ddu yn Safle o Bwysigrwydd Cadwraeth Natur (SoBCN) felly rydym yn gwneud y gwaith hwn i ddiogelu bioamrywiaeth ein coetiroedd ac i wneud y parc yn hygyrch.
Bydd gwaith yn y dyfodol yn cynnwys gwaith diogelwch hanfodol ar goed, plannu bylbiau brodorol a gosod naddion pren mewn ardaloedd mwdlyd i gadw'r llwybr yn hygyrch drwy gydol y flwyddyn. Bydd yr holl goed y gellir eu cadw yn y coetir - yn fyw neu farw - yn cael eu cadw gan eu bod yn gynefin pwysig iawn i amrywiaeth eang o rywogaethau.
Ymhen amser byddwn yn cau'r hen lwybr i ganiatáu i fflora'r coetir adfywio ac adfer. Gobeithiwn y byddwch yn deall pam fod y gwaith hwn yn bwysig, ac yn mwynhau'r llwybr newydd rydym wedi'i greu i chi.
Yn olaf, ry'n ni'n ffans mawr o'r "wâcs welîs" ym Mharc Bute ac yn annog pobl i roi eu welîs ‘mlaen i gerdded yn ein coetiroedd. Bydd hyn yn helpu i atal problemau tebyg ar hyd y llwybr newydd gan na fydd angen i bobl grwydro oddi ar y llwybr i osgoi ardaloedd mwdlyd.
Mwy yma: