Back
Llwybr cyflymach, symlach i Caerdydd ar Waith


2/11/21

Mae Caerdydd ar Waith, asiantaeth recriwtio fewnol y Cyngor, wedi symleiddio'i brosesau ymgeisio i'w gwneud yn gyflymach ac yn haws i ymgeiswyr wneud cais am swyddi dros dro.

Gall ymgeiswyr sydd â diddordeb mewn cofrestru i wneud cais am unrhyw un o'r ystod eang o swyddi dros dro o fewn yr awdurdod, sydd ar gael drwy Caerdydd ar Waith, gwblhau ffurflen gais ac asesiad ar-lein - gan gyflymu'r broses a oedd gynt yn gofyn i ymgeiswyr fynychu asesiad wyneb yn wyneb.

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Gyllid, Perfformiad a Moderneiddio, y Cynghorydd Chris Weaver: "Mae'r Cyngor wedi ymrwymo i helpu pobl i gael swyddi a gyrfaoedd da, ac i gael gwared ar rwystrau y mae pobl yn eu hwynebu i fynd i mewn i swydd. Ar hyn o bryd, mae gennym ystod eang o swyddi gwag dros dro o fewn yr awdurdod ac mae cofrestru gyda Caerdydd ar Waith yn cynnig yr hyblygrwydd i ymgeiswyr roi cynnig ar wahanol rolau, dysgu sgiliau newydd ac agor drysau i gyfleoedd eraill, a allai arwain at gyflogaeth tymor hwy.

"Mae swyddi ar gael mewn rolau gweinyddol a chlerigol - ond mae hefyd amrywiaeth enfawr o gyfleoedd eraill ar hyn o bryd sy'n adlewyrchu'r ystod eang o wasanaethau y mae'r Cyngor yn eu darparu ledled y ddinas.

"Drwy ei gwneud hi'n haws cofrestru gyda Caerdydd ar Waith, a galluogi pobl i lenwi'r ffurflen gais a gwneud yr asesiad ar-lein, byddwn, gobeithio, yn annog hyd yn oed mwy o bobl i roi cynnig ar Caerdydd ar Waith."

Caiff swyddi gwag dros dro gyda'r Cyngor eu diweddaru'n rheolaidd ar wefan Caerdydd ar Waith ynhttps://caerdyddarwaith.co.uk/Mae'r wefan hefyd yn cynnig  ystod eang o gyngor a chymorth cyflogadwyedd i helpu pobl sy'n chwilio am swyddi neu am newid gyrfa i ennill y sgiliau, y profiad a'r wybodaeth a fydd yn eu helpu i bontio i gyflogaeth gynaliadwy mewn sector sy'n addas iddynt.

I gael gwybod mwy am Caerdydd ar Waith ac i gofrestru gyda nhw, ewch iwww.caerdyddarwaith/co.uk/recriwtio