Back
Sefydlwyd Un Tîm - Un Ddynoliaeth, Anrhydeddu Torwyr Cod Byd Rygbi Bae Caerdydd


30.10.2021

A group of men posing for a photoDescription automatically generated

Roeddem am rannu'r llun gwych hwn o'r enwog Billy Boston gyda chyn-chwaraewyr rhyngwladol rygbi'r gynghrair Jim Mills a Glyn Shaw â Phrif Swyddog Gweithredol Cynghrair Rygbi Cymru, Gareth Kear, yn eu crysau-T Torwyr Cod y Byd Rygbi Bae Caerdydd.

Sefydlwyd Un Tîm - Un Ddynoliaeth, Anrhydeddu Torwyr Cod Byd Rygbi Bae Caerdydd i greu cofeb barhaol i rai o arwyr chwaraeon mwyaf y wlad ac mae wedi'i dylunio i sicrhau na chaiff eu hanesion eu hanghofio, na stori'r gymuned amlddiwylliannol falch a bywiog a helpodd i'w meithrin.

Mae'r project yn codi arian i greu cerflun o dri o'r arwyr chwaraeon hynny y caiff eu dewis o blith 13 seren chwaraeon a wnaeth gyfraniad trawiadol yn chwarae yn Rygbi'r Gynghrair dros y 120 mlynedd diwethaf. Cafodd pob un o'r tri ar ddeg o enwebeion eu magu o fewn radiws o dair milltir i Fae Caerdydd. Dioddefodd llawer ohonynt ragfarn a hiliaeth cyn gadael Cymru i ddod o hyd i enwogrwydd fel sêr Rygbi'r Gynghrair yng Ngogledd Lloegr.

Dewisodd pleidlais gyhoeddus a phanel dethol Billy Boston, Gus Risman a Clive Sullivan i fod yn y cerflun.

Gallwch ddarllen mwy amdano yma:  http://www.torwyrcodybydrygbi.co.uk/cy 

Mae gennym newyddion mawr yn dod yn fuan ar ble y gallai'r gofeb fod site din Caerdydd ynghyd â diweddariad ar sut mae codi arian yn mynd.

Os hoffech gyfrannu, gallwch wneud hynny yma:  https://donate.giveasyoulive.com/fundraising/1-team-1-race