Back
Diweddaraf Cyngor Caerdydd: 29 Hydref

Diweddaraf Cyngor Caerdydd: 29 Hydref

Dyma'r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Caerdydd, gan gynnwys: nifer achosion a phrofion COVID-19 Caerdydd; achosion COVID-19 a adroddwyd yn ysgolion Caerdydd yn ystod y 7 diwrnod diwethaf; cyfanswm brechu Caerdydd a Bro Morgannwg; a cynigion i wella parciau sglefrfyrddio Caerdydd, ymgynghoriad cyhoeddus.

 

Achosion a Phrofion Caerdydd - Data'r 7 Diwrnod (18 Hydref - 24 Hydref)

Yn seiliedig ar ffigurau diweddaraf Iechyd Cyhoeddus Cymru

Mae'r data'n gywir ar:

28 Hydref 2021, 09:00

Achosion: 2,599

Achosion fesul 100,000 o'r boblogaeth: 708.4 (Cymru: 653.1 achosion fesul 100,000 o'r boblogaeth)

Achosion profi: 10,919

Profion fesul 100,000 o'r boblogaeth: 2,976.0

Cyfran bositif: 23.8% (Cymru: 22.7% cyfran bositif)

 

Achosion COVID-19 a adroddwyd yn ysgolion Caerdydd yn ystod y 7 diwrnod diwethaf (22/10/21 i 28/10/21)

Cyfanswm y nifer a adroddwyd = 738

  • Disgyblion a myfyrwyr = 691
  • Staff, gan gynnwys staff addysgu = 47

Yn seiliedig ar y ffigurau diweddaraf, mae ychydig o dan 57,000 o ddisgyblion a myfyrwyr wedi'u cofrestru yn ysgolion Caerdydd.

 

Diweddariad Statws Brechu Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro - 29 Hydref

Ddarparwyd y data gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro

Sylwer y gall fod mân ddiwygiadau i ddata wrth iddo gael ei ddilysu dros amser

Cyfanswm nifer y dosau brechu a roddwyd gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro hyd yn hyn, yn y ddwy ardal awdurdod lleol:  784,453  (Dos 1: 381,140 Dos 2:  345,839 DOS 3: 2,837 Dosau atgyfnertha: 54,583)

Data Cohort - Diweddarwyd ddiwethaf 26 Hydref

 

  • 80 a throsodd: 20,321 / 94.6% (Dos 1) 20,133 / 93.7% (Dos 2)
  • 75-79: 15,001 / 96.4% (Dos 1) 14,836 / 95.4% (Dos 2)
  • 70-74: 21,406 / 95.8% (Dos 1) 21,273 / 95.2% (Dos 2)
  • 65-69: 21,974 / 94.3% (Dos 1) 21,726 / 93.2% (Dos 2)
  • 60-64: 26,073 / 92.4% (Dos 1) 25,746 / 91.2% (Dos 2)
  • 55-59: 29,437 / 90.4% (Dos 1) 28,936 / 88.8% (Dos 2)
  • 50-54: 29,116 / 88.1% (Dos 1) 28,471 / 86.2% (Dos 2)
  • 40-49: 55,605 / 81.9% (Dos 1) 53,710 / 79.1% (Dos 2)
  • 30-39: 61,221 / 76% (Dos 1) 57,364 / 71.3% (Dos 2)
  • 18-29: 81,305 / 77.3% (Dos 1) 72,789 / 69.2% (Dos 2)
  • 16-17: 4,057 / 73.9% (Dos 1) 312 / 5.7% (Dos 2)
  • 12-15: 8,508 / 32.1% (Dos 1)

 

  • Preswylwyr cartrefi gofal: 2,134 / 98.2% (Dos 1) 2,106 / 96.9% (Dos 2)
  • Yn glinigol agored i niwed: 11,267 / 94.5% (Dos 1) 11,069 / 92.8% (Dos 2)
  • Cyflyrau Iechyd Sylfaenol: 45,974 / 90.2% (Dos 1) 44,401 / 87.2% (Dos 2)
  • Cyflyrau Iechyd Sylfaenol (12-15): 546 / 56.1% (Dos 1)

 

Cynigion i wella Parciau Sglefrfyrddio Caerdydd - Ymgynghoriad cyhoeddus

Mae ymgynghoriad sy'n gwahodd aelodau o'r cyhoedd i ddweud eu dweud ar barciau sglefrfyrddio presennol yng Nghaerdydd, yn dal i fod ar gael i'w gwblhau ar-lein.

Ar hyn o bryd mae Adran Barciau Cyngor Caerdydd yn cynnal asesiad o barciau sglefrfyrddio ar draws y ddinas ac wedi lansio Ymgynghoriad Parc Sglefrfyrddio i bobl gael dweud eu dweud.

Fel rhan o'r asesiad, bydd yr Adran Barciau yn adolygu sut mae'r gymuned sglefrfyrddio yn defnyddio'r parciau sglefrfyrddio a mannau cyhoeddus ar hyn o bryd.

Bydd hyn yn helpu'r tîm i wella neu ddisodli safleoedd sy'n bodoli eisoes, nodi lleoliadau newydd, a chynllunio dyluniad dros y blynyddoedd nesaf.

Mae Adran Barciau Cyngor Caerdydd wedi ymuno â'r ymgynghorwyr arobryn, VDZ+A, i baratoi Strategaeth Sglefrfyrddio Caerdydd. 

Fel rhan o'r strategaeth, mae'r tîm wedi paratoi arolwg a hoffent glywed gan y gymuned sglefrfyrddio a'r cyhoedd.

Dwedodd yr Aelod Cabinet dros Ddiwylliant a Hamdden, y Cynghorydd Peter Bradbury:  "Y bwriad yw cael mannau cynhwysol i drigolion ac ymwelwyr o bob oed i gael cymdeithasu ac ymysgwyd.

"Rydym am i Gaerdydd fod yn Ddinas sy'n Dda i Blant, lle gall plant a phobl ifanc ddweud eu dweud am benderfyniadau sy'n cael eu gwneud a fydd yn effeithio arnynt, felly rwy'n annog unrhyw un o fewn y gymuned sglefrfyrddio i lenwi'r arolwg byr er mwyn ein helpu i ddatblygu cynllun sglefrio newydd ar gyfer y ddinas.

"Bydd eich barn yn ein helpu i ddatblygu dyluniad sglefrio newydd gan gynnwys maint parciau, opsiynau mynediad, mathau o dir a lleoliadau a argymhellir ar gyfer parciau newydd."

Mae'r Arolwg Parc Sglefrfyrddio i'w weld yma:https://wh1.snapsurveys.com/s.asp?k=163187811098

Bydd yr arolwg ar agor tan ddiwedd mis Hydref 2021.