Back
Diweddaraf Cyngor Caerdydd: 26 Hydref

Dyma'r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Caerdydd, gan gynnwys: bydd giât fysus Heol y Porth yn cael ei gosod erbyn 31 Hydref;Taro a Chwarae - Parc Bute i ddod yn fyw gyda cherddoriaeth!; nifer achosion a phrofion COVID-19 Caerdydd; cyfanswm brechu Caerdydd a Bro Morgannwg; a cyngor teithio i Gymru yn erbyn Seland Newydd ar 30 Hydref.

 

Bydd giât fysus Heol y Porth yn cael ei gosod erbyn 31 Hydref

Bydd giât fysus newydd yn cael ei gosod ar Heol y Porth erbyn 31 Hydref - i gefnogi blaenoriaethu teithio ar fysiau a dulliau trafnidiaeth cynaliadwy i wella ansawdd aer.

Bydd y newid yn golygu na ellir defnyddio'r ffordd fel llwybr trwodd i'r naill gyfeiriad na'r llall ar gyfer unrhyw draffig ar wahân i fysiau, tacsis, beicwyr a cherddwyr.

Mae'r newid hwn yn elfen allweddol o Gynllun Aer Glân y cyngor, y cytunwyd arno gyda Llywodraeth Cymru yn dilyn cyfarwyddeb gyfreithiol i sicrhau bod ansawdd yr aer yng nghanol y ddinas a'r cyffiniau yn cael ei gadw islaw'r terfynau cyfreithiol.

Mae cynllun y ffordd yng nghanol y ddinas yn newid yn sylweddol ar hyn o bryd, fel bod mwy o le'n cael ei ddyrannu ar gyfer bysiau, beicwyr a cherddwyr, wrth i'r cyngor barhau i annog y defnydd o drafnidiaeth gyhoeddus a theithio llesol i leihau'r ddibyniaeth ar geir preifat er mwyn lleihau allyriadau carbon a gwella ansawdd aer lleol. 

Wrth i Stryd y Castell ailagor i gerbydau preifat erbyn diwedd mis Hydref, mae rheolaethau'n cael eu rhoi ar waith i reoli llif traffig yn y rhan hon o ganol y ddinas.  Bydd y giât fysus newydd ar Heol y Porth yn helpu'r ystafell reoli i ymdopi â'r llif traffig hwn, ynghyd â rheolaethau ychwanegol i gyffyrdd ar strydoedd cyfagos, ar Heol y Gadeirlan, Dumfries Place a Heol y Gogledd. Gosodwyd llif traffig ychwanegol a monitorau ansawdd aer mewn ardaloedd preswyl cyfagos. 

Bydd preswylwyr sy'n byw ar Heol y Porth yn  gallu cael mynediad i'w heiddo o'r gogledd, drwy Stryd y Castell ac os bydd modurwyr yn mynd i mewn i Heol y Porth drwy gamgymeriad, bydd llwybrau dargyfeirio ar waith i sicrhau bod gan fodurwyr opsiynau i droi o gwmpas, felly nid oes rhaid iddynt yrru drwy giât y bws.

O'r gogledd, bydd gofyn i fodurwyr ddroi'n ôl drwy Blas y Neuadd, Heol Eglwys Fair, Golate ac yn ôl i Heol y Porth

O'r De, bydd gofyn i fodurwyr ddefnyddio Stryd Wood, Heol Scott, Stryd y Parc a Stryd Havelock.

 

Beth yw giât fysus? 

Gosodir giât fysus ar stryd sy'n creu llwybr byr i fysiau i bob pwrpas ac yn cyfyngu ar fodurwyr sy'n defnyddio'r llwybr neu'r ffordd benodol. Os bydd cerbyd preifat yn gyrru drwy giât fysus, mae'n drosedd traffig sy'n symud, yn debyg i yrru mewn lôn bws, neu stopio'n anghyfreithlon mewn cyffordd blwch melyn ac mae'r modurwr yn agored i Hysbysiad Tâl Cosb o £75. Bydd camerâu gorfodi yn cael eu rhoi ar waith i atal Heol y Porth rhag cael ei defnyddio fel llwybr drwodd.

 

Taro a Chwarae - Parc Bute i ddod yn fyw gyda cherddoriaeth!

Mae Parc Bute wedi cyhoeddi ei brosiect gwella newydd i wella parc canol dinas Caerdydd.

Dewiswyd 'Taro a Chwarae' fel y prosiect codi arian nesaf ar ôl i adborth defnyddwyr awgrymu y byddai ymwelwyr â'r parc yn hoffi gweld offer chwarae gwell i ategu'r cwrs cydbwyso'r coed presennol, nifer o gerfluniau chwarae a chyfleoedd chwarae naturiol.

Bydd y man dysgu a chwarae hygyrch newydd yn cynnwys:

  • offer chwarae cerddorol cwbl ryngweithiol a hygyrch (drymiau, seiloffonau ac offerynnau taro eraill)
  • byrddau dehongli a fydd yn arddangos gwybodaeth mewn ffordd gyffrous a deniadol tra'n addysgu ymwelwyr a chyfarwyddo'r defnydd o'r offer
  • pyst chwyddhau i ganiatáu i ymwelwyr ymchwilio i ffurf a harddwch eitemau a gesglir yn ystod eu teithiau natur
  • mannau hygyrch oddi ar y llwybr


Gellir gwneud cyfraniadau trwy ymweld â  gwefan Parc Bute  neu drwy sganio cod QR, sticeri a phosteri ledled y parc. Fel arall, gellir cyfrannu hefyd dros y ffôn yn ystod oriau swyddfa'r parc. Mae'r holl arian a godir yn cael ei neilltuo ar gyfer y cynllun, gweler  Telerau ac Amodau  am fwy o wybodaeth.

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Ddiwylliant a Hamdden, y Cynghorydd Peter Bradbury:  "Rydym yn gwybod bod Parc Bute yn lle arbennig iawn i lawer o'n trigolion a'n hymwelwyr. Bydd y prosiect newydd cyffrous hwn yn caniatáu i blant - ac oedolion - ddod at ei gilydd i greu cerddoriaeth, chwarae ac ymchwilio i'w hamgylchedd naturiol.

"Ein huchelgais yw i Gaerdydd gael ei chydnabod fel Dinas sy'n Dda i Blant ac fel lle gwych i gael eich magu, felly rwy'n falch iawn y byddwn yn gallu cynnig y cyfleoedd hygyrch ac amlsynhwyraidd newydd hyn yn ein parc yng nghanol y ddinas.

"Hefyd, gall cerddoriaeth gael effaith mor gadarnhaol ar iechyd meddwl felly gallai'r cyfle i fwynhau'r offerynnau anhygoel hyn mewn lleoliad mor brydferth â Pharc Bute hefyd gefnogi lles ymwelwyr."

Bydd yr offer chwarae wedi'i leoli ar hyd llwybr sy'n ffinio â'r cwrs cydbwyso'r coed, ger Caffi'r Tŷ Haf, sy'n ardal boblogaidd o'r parc gyda theuluoedd.

Mae Cynllun Cyfrannu Prosiect Gwella Parc Bute wedi'i ddatblygu'n gwbl fewnol a'i nod yw bod yn gwbl hunangyllidol.

Y targed codi arian ar gyfer yr ymgyrch Taro a Chwarae yw £18,106.90. Mae balans agoriadol o £575.30 ar gyfer y prosiect.

Am ragor o wybodaeth, ewch i  www.parc-bute.com/rhoi

 

Achosion a Phrofion Caerdydd - Data'r 7 Diwrnod (15 Hydref - 21 Hydref)

Yn seiliedig ar ffigurau diweddaraf Iechyd Cyhoeddus Cymru

Mae'r data'n gywir ar:

25 Hydref 2021, 09:00

 

Achosion: 2,897

Achosion fesul 100,000 o'r boblogaeth: 789.6 (Cymru: 719.9 achosion fesul 100,000 o'r boblogaeth)

Achosion profi: 11,736

Profion fesul 100,000 o'r boblogaeth: 3,198.7

Cyfran bositif: 24.7% (Cymru: 23.6% cyfran bositif)

 

Diweddariad Statws Brechu Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro - 20 Hydref

Ddarparwyd y data gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro

Sylwer y gall fod mân ddiwygiadau i ddata wrth iddo gael ei ddilysu dros amser

 

Cyfanswm nifer y dosau brechu a roddwyd gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro hyd yn hyn, yn y ddwy ardal awdurdod lleol:  749,888 (Dos 1: 374,110 Dos 2:  344,060)

 

  • 80 a throsodd: 20,357 / 94.6% (Dos 1) 20,158 / 93.7% (Dos 2)
  • 75-79: 15,002 / 96.4% (Dos 1) 14,842 / 95.4% (Dos 2)
  • 70-74: 21,407 / 95.8% (Dos 1) 21,278 / 95.2% (Dos 2)
  • 65-69: 21,967 / 94.2% (Dos 1) 21,721 / 93.2% (Dos 2)
  • 60-64: 26,064 / 92.4% (Dos 1) 25,738 / 91.2% (Dos 2)
  • 55-59: 29,435 / 90.3% (Dos 1) 28,927 / 88.8% (Dos 2)
  • 50-54: 29,113 / 88.1% (Dos 1) 28,458 / 86.1% (Dos 2)
  • 40-49: 55,476 / 81.8% (Dos 1) 53,433 / 78.8% (Dos 2)
  • 30-39: 61,135 / 75.9% (Dos 1) 57,235 / 71.1% (Dos 2)
  • 18-29: 81,023 / 77.2% (Dos 1) 72,435 / 69% (Dos 2)
  • 16-17: 4,034 / 73.6% (Dos 1) 304 / 5.5% (Dos 2)

 

  • Preswylwyr cartrefi gofal: 2,151 / 98.2% (Dos 1) 2,119 / 96.8% (Dos 2)
  • Yn glinigol agored i niwed: 11,265 / 94.4% (Dos 1) 11,068 / 92.8% (Dos 2)
  • Cyflyrau Iechyd Sylfaenol: 46,180 / 90.2% (Dos 1) 44,558 / 87.1% (Dos 2)

 

Cyngor teithio i Gymru yn erbyn Seland Newydd ar 30 Hydref

Bydd Cymru'n wynebu Seland Newydd ddydd Sadwrn, 30 Hydref yn Stadiwm Principality.

Gyda'r gic gyntaf am 5.15pm - bydd ffyrdd canol y ddinas ar gau o 1.15pm tan 8.15pm i sicrhau bod pob un sydd â thocyn yn gallu mynd i mewn i'r stadiwm yn ddiogel.

Cynghorir y rhai a fydd yn mynychu'r gêm i adael bagiau mawr gartref a thalu sylw i'r rhestr o eitemau a waherddir yn  principalitystadium.wales  cyn teithio i'r ddinas.

Darllenwch fwy yma:

https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/27865.html