Back
Newyddion gan Gyngor Caerdydd dros y 7 diwrnod diwethaf y gallech fod wedi'i golli 25/10/21

 

21/10/21 - Ierdydd Ysgol Llawn Bwyd yn cael eu cyflwyno i ddeg o Ysgolion Cynradd Caerdydd

Bydd Cyngor Caerdydd mewn partneriaeth â'r elusen amgylcheddol, Trees for Cities (TfC) yn darparu deg Iard Ysgol Llawn Bwyd newydd ar draws y ddinas yn ystod 2021/22.

Darllenwch fwy yma:

https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/27835.html

 

21/10/21 - Mae ymgyrch newydd a lansiwyd gan y Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol Cymru yn gobeithio annog mwy o bobl i fabwysiadu'

Ar hyn o bryd mae 119 o blant yn aros i gael eu mabwysiadu yng Nghymru, gyda 29 o'r plant hynny yn aros am naw mis neu fwy.

Darllenwch fwy yma:

https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/27833.html

 

20/10/21 - Tair Gwobr PawPrints RSPCA ar gyfer Cartref Cŵn Caerdydd yn cynnwys un fel unig enillydd Cymru

Mae Cartref Cŵn Caerdydd wedi derbyn tair gwobr PawPrints RSPCA - Aur yn y categori Cŵn Strae ac Arian yn y categori Cytiau Cŵn yn ogystal â Gwobr Cydnabyddiaeth Arbennig i Ganolfan Iechyd ‘The Rescue Hotel' - unig enillydd y wobr hon yng Nghymru.

Darllenwch fwy yma:

https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/27829.html

 

20/10/21 - Trefniadau casglu gwastraff gardd y gaeaf a'r Nadolig

I helpu trigolion i glirio dail, bydd casgliadau gwastraff gardd Caerdydd yn rhedeg tan ddiwedd mis Tachwedd - mis yn hwyrach na'r llynedd.we

Darllenwch fwy yma:

https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/27822.html

 

20/10/21 - Nod Gŵyl Bwyd Da yr Hydref Caerdydd yw grymuso cymunedau Caerdydd i hyrwyddo bwyd lleol, cynaliadwy

Mae Gŵyl Bwyd Da yr Hydref Caerdydd yn anelu at ysbrydoli unigolion a busnesau i weithredu er mwyn helpu pobl i gael gafael ar fwyd da ar draws y ddinas.

Darllenwch fwy yma:

https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/27817.html

 

20/10/21 - Holi Caerdydd 2021: Lleisiwch eich barn

Mae trigolion Caerdydd a phawb sy'n defnyddio gwasanaethau cyhoeddus yn y ddinas yn cael eu hannog i rannu eu barn ar eu profiadau o wasanaethau.

Darllenwch fwy yma:

https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/27815.html

 

19/10/21 - Mynwent Newydd i Ogledd Caerdydd i agor yn swyddogol

Bydd mynwent newydd Gogledd Caerdydd, ar Heol Draenen Pen-y-graig yn agor yn swyddogol ddydd Mercher, 20 Hydref, gan gynnig lle claddu y mae mawr ei angen yng ngogledd y ddinas am y 15 mlynedd a mwy nesaf.

Darllenwch fwy yma:

https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/27808.html

 

19/10/21 - Tasglu Cydraddoldeb Hiliol yn datgelu'r cynllun gweithredu diweddaraf ar gyfer Caerdydd

Mae'r Tasglu Cydraddoldeb Hiliol wedi datgelu cynlluniau newydd mawr yn ei adroddiad diweddaraf i helpu i fynd i'r afael ag anghydraddoldeb hiliol yn y ddinas. Mae'r adroddiad diweddaraf yn manylu ar ail gylch y cynigion ar gyfer Caerdydd

Darllenwch fwy yma:

https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/27804.html

 

19/10/21 - Hwyl Hanner Tymor i'r Teulu

Os ydych chi'n chwilio i ddiddanu'r plant yr hanner tymor hwn, yna efallai y bydd yr ateb gan un o'n lleoliadau neu gyfleusterau ni...

Darllenwch fwy yma:

https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/27798.html

 

18/10/21 - Mae ymgynghoriad wyth wythnos ar Strategaeth Fysiau newydd Caerdydd yn dechrau heddiw, dydd Llun Hydref 18

Mae strategaeth newydd, sy'n ceisio dyblu nifer y bobl sy'n defnyddio bysiau yng Nghaerdydd, lleihau tagfeydd a gwella ansawdd yr aer, allan nawr ar gyfer ymgynghoriad cyhoeddus.

Darllenwch fwy yma:

https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/27792.html