21/10/2021
Ar hyn o bryd mae 119 o blant yn aros i gael eu mabwysiadu yng Nghymru, gyda 29 o'r plant hynny yn aros am naw mis neu fwy.
I fechgyn, grwpiau brodyr a chwiorydd, plant dros dair oed, a'r rhai sydd â hanes cynnar cymhleth, gall yr aros i ddod o hyd i gartref am byth bara am amser hir.
Ond mae ymgyrch newydd a lansiwyd yn ystod yr Wythnos Genedlaethol Mabwysiadu (18-23 Hydref) eisiau newid hynny i gyd trwy chwalu'r myth bod babanod a merched yn haws i'w mabwysiadu
Er mwyn agor calonnau a meddyliau darpar fabwysiadwyr i'r plant hynny sy'n aros i ddod o hyd i deulu ar hyn o bryd, bydd #DewisTeulu yn clywed gan rieni o bob cwr o Gymru am realiti mabwysiadu plentyn, waeth beth fo'u hoedran, rhyw, neu os ydyn nhw'n rhan o grŵp siblingiaid.
Gyda chariad yn eu calonnau a lle yn eu cartref, mabwysiadodd Amanda a Martin eu merch Ellen*, sydd bellach yn 12, bum mlynedd yn ôl. Pan gyfarfu'r cwpl, sy'n byw yn ne Cymru, ag Ellen am y tro cyntaf roedd hi'n dal mewn cewynnau yn saith oed, erioed wedi cael llyfr wedi'i ddarllen iddi, yn arfer rhewi wrth glywed sŵn uchel ac yn cuddio y tu ôl i'r soffa pryd bynnag y byddai hi yn teimlo ofn - ond er gwaethaf ei hanghenion cymhleth, roedd Amanda a Martin yn gwybod o'r eiliad y gwnaethant ddarllen am stori Ellen mai eu merch nhw oedd hi.
Dywedodd Amanda: "Wnaethon niddim ymuno â'r broses fabwysiadu â chwarae bach. Roeddwn i'n gwybod bod y plant hyn o bosib wedi cael eu cam-drin, eu hesgeuluso, neu efallai bod cyffuriau neu alcohol wedi bod yn gysylltiedig. Roeddwn i'n gwybod pa mor anodd fyddai hynny.
"Fe wnaethon ni ddewis mabwysiadu plentyn hŷn a darllen popeth am ein merch cyn i ni edrych ar lun.
"Doeddwn i ddim eisiau teimlo tynfa emosiynol i blentyn bach tlws, llygad-lydan, a meddwl ‘Mae hi'n edrych yn ciwt, awn ni â hi.' Roeddwn i eisiau gweld beth roedd hi wedi bod drwyddo, clywed am ei hanghenion meddygol a seicolegol - ac ar ôl darllen am Ellen, fe wnaethon ni benderfynu nad oedd unrhyw beth na allen ni ymgymryd ag ef gyda'n gilydd. Wedi hynny, dywedodd y gweithiwr cymdeithasol wrthym mai ni oedd ei chyfle olaf i gael ein mabwysiadu. Ni allaf ddirnad hynny.
"Bu cymaint o eiliadau emosiynol gyda'n merch. Rwy'n ei chofio yn dweud wrtha i ‘Ti yw fy hoff Mami' acroedd meddwl mai fi oedd ei thrydedd (fam) yn fy nhristáu. I Martin, meddai; ‘Ti yw'r Dadi da.'
"Ar y dechrau, roedd yn rhaid i mi ei chario i bobman, roedd hi angen cael ei dal. Roedd maes chwarae i lawr y ffordd o'n tŷ ac rwy'n cofio bob dydd am chwe mis roedd hi'n mynnu cael reid ar y siglen babi. Hyd yn oed flynyddoedd yn ddiweddarach, mae hi wedi gwasgu ei hun ar y siglen fach fach honno - roedd hi bron fel pe bai hi'n chwennych y plentyndod yr oedd hi wedi colli allan arno.
"Rwy'n cofio'r tro cyntaf iddi fy ngalw'n Mam. Cymerodd dri mis iddi sibrwd y geiriau. Bob bore roedd hi'n arfer curo ar wal yr ystafell wely i adael i ni wybod ei bod hi'n effro - rwy'n credu bod yn rhaid iddi wneud hynny yn ei chartref blaenorol. Un diwrnod, roedd hi'n sâl yn y gwely, a gallwn glywed y curo bach ar y wal a llais bach yn sibrwd 'Mam.' Torrodd fy nghalon i feddwl yn ei chartrefi blaenorol bod yn rhaid iddi ddelio â salwch ar ei phen ei hun, yn rhy ofnus i ddweud unrhyw un. Roedd yn arwydd bach ei bod yn dechrau ymddiried ynof.
"Nid oes gan fy ngŵr a minnau lawer o arian - ond pan wnaethom fabwysiadu ein merch gyntaf, prynais yr holl gotiau duffel drud hardd hyn i'w chadw'n gynnes yn y gaeaf ac ni fyddai'n eu gwisgo. Roedd yn rhaid i mi dderbyn ei bod wrth ei bodd gyda bling - a dyna hanfod rhianta, derbyn y plentyn sydd gennych chi. Ni fyddwn yn newid fy merch am y byd."
Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Blant a Theuluoedd, y Cynghorydd Graham Hinchey: "Mae'r penderfyniad i fabwysiadu yn ddewis sy'n gallu gwneud newid parhaol i fywyd plentyn. Efallai bod rhai plant wedi cael profiadau ac atgofion anodd ac efallai y bydd angen sylw, sicrwydd a diogelwch ychwanegol arnynt ond gall rôl teulu mabwysiadol roi iddynt y gefnogaeth, y cariad a'r amgylchedd meithringar sydd eu hangen fel y gallant fwynhau dyfodol hapus a boddhaus. Mae Caerdydd yn cefnogi'r ymgyrch newydd gan Wasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol Cymru (NAS) i agor meddyliau a chalonnau pobl i'r plant sy'n aros i gael eu mabwysiadu ar hyn o bryd."
Dywedodd Suzanne Griffiths, Cyfarwyddwr Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol Cymru: "Rydym yn gwybod o ymchwil a gynhaliwyd o fewn gwasanaethau mabwysiadu yng Nghymru bod mythau mewn perthynas ag oedran a rhyw yn parhau i fodoli; mae rhai darpar fabwysiadwyr yn credu bod plant iau yn cyflwyno llai o broblemau ac mae eraill yn teimlo ei bod hi'n haws gofalu am ferched.
"Nid yw hyn yn wir bob amser gan fod gan bob plentyn wahanol anghenion a phrofiadau ac yn aml gall y plentyn tawelach fod yn anoddach gweithio gydag ef.
"Weithiau rydyn ni'n gwybod llai am brofiadau plentyn iau, ond efallai bod gennym ni wybodaeth fanylach lle mae plentyn hŷn yn y cwestiwn. Ar gyfer y plant hŷn hyn rydym yn aml mewn gwell sefyllfa i ragweld unrhyw anghenion cymorth yn y dyfodol pe bai ei angen arnynt. "
Mae'r Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol yn gofyn i bobl rannu'r eiliadau wnaeth eu selio nhw fel teulu @nas_cymru #DewisTeulu i annog eraill i ddewis mabwysiadu.
I gael rhagor o wybodaeth am fabwysiadu, ewch iwww.adopt4vvc.org
*Mae rhai enwau wedi cael eu newid