Back
Tair Gwobr PawPrints RSPCA ar gyfer Cartref Cŵn Caerdydd yn cynnwys un fel unig enillydd Cymru

20.10.2021

A dog with its tongue outDescription automatically generated with medium confidence

Mae Cartref Cŵn Caerdydd wedi derbyn tair gwobr PawPrints RSPCA - Aur yn y categori Cŵn Strae ac Arian yn y categori Cytiau Cŵn yn ogystal â Gwobr Cydnabyddiaeth Arbennig i Ganolfan Iechyd ‘The Rescue Hotel' - unig enillydd y wobr hon yng Nghymru.

Rhoddwyd y gwobrau i gydnabod y ffaith bod safon gwaith y Cartref Cŵn wrth roi cŵn mewn cytiau, a'r ffordd y mae'n gofalu am gŵn strae, yn rhagori ar ofynion sylfaenol a statudol y gwasanaeth. Cefnogir y gwasanaeth gan yr elusen leol 'The Rescue Hotel' sy'n codi arian i ddarparu gwasanaethau ychwanegol fel ymddygiadwyr cymwys ar gyfer cŵn sy'n aros i'w hailgartrefu.

Er mwyn addasu i'r heriau a ddaw yn sgil Covid-19, mae'r Cartref Cŵn wedi gwneud nifer o newidiadau sydd wedi gwella lles anifeiliaid ymhellach. Mae'r newidiadau'n cynnwys cyflwyno cynllun maethu newydd llwyddiannus, a system apwyntiadau i ymwelwyr sydd wedi galluogi staff i dreulio mwy o amser gyda'r cŵn yn uniongyrchol.

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Strydoedd Glân, Ailgylchu a'r Amgylchedd, y Cynghorydd Michael Michael: "Mae hwn yn gyflawniad gwych i Gartref Cŵn Caerdydd ac Elusen The Rescue Hotel, llongyfarchiadau mawr a diolch i'r holl dimau sy'n ymwneud â gwneud i hyn ddigwydd.

"Mae'r tîm Cartref Cŵn yn wirioneddol caru ac yn gofalu am y cŵn y maent yn gofalu amdanynt, ac mae'r gwobrau hyn yn dyst i'w safonau uchel.

"Mae Cartref Cŵn Caerdydd wedi ennill o leiaf un o'r gwobrau hyn bob blwyddyn ers 2008, sy'n dangos eu hymrwymiad cyson i ofalu am bob un ci dan eu gofal.

"Gyda The Rescue Hotel yn derbyn gwobr cydnabyddiaeth arbennig hefyd - ar ôl agor ym mis Ebrill - mae'n gamp anhygoel a dylai'r timau fod yn falch iawn."

Dywedodd Billie-Jade Thomas, cynghorydd materion cyhoeddus RSPCA Cymru: "Mae RSPCA Cymru yn falch iawn o gydnabod unwaith eto ymdrechion gwych Cartref Cŵn Caerdydd drwy ei gynllun PawPrints - yn ennill gwobr aur am ei ddarpariaeth cŵn strae, arian ar gyfer cytiau, ac anrhydedd cydnabyddiaeth arbennig hefyd.

"Mae Cyngor Caerdydd wedi cael un o'r gwasanaethau cŵn strae gorau yn y wlad ers tro, gan gynnwys darparu gwasanaeth y tu allan i oriau sy'n bodloni gofynion y gymuned leol a gwaith rhagweithiol rheolaidd i annog perchenogaeth gyfrifol am anifeiliaid anwes; tra bod eu hymagwedd at les cŵn cytiau yn gyson yn bodloni canllaw'r RSPCA ar arfer da.

"Rydym hefyd yn falch iawn o roi cydnabyddiaeth arbennig i Gartref Cŵn Caerdydd a'u helusen gysylltiedig, The Rescue Hotel. Maent wedi gwneud gwaith anhygoel i agor cyfleuster milfeddygol pwrpasol yn ddiweddar ar y safle ar gyfer cŵn yn eu gofal a'r gymuned ehangach; darparu niwtering fforddiadwy, deintyddol, brechiadau a thriniaeth chwain/llyngyr."

I gael gwybod mwy ac i gefnogi Cartref Cŵn Caerdydd, ewch i  www.cardiffdogshome.co.uk/cy.