Back
Trefniadau casglu gwastraff gardd y gaeaf a’r Nadolig

20/10/21

I helpu trigolion i glirio dail, bydd casgliadau gwastraff gardd Caerdydd yn rhedeg tan ddiwedd mis Tachwedd - mis yn hwyrach na'r llynedd.

Bydd hyn yn sicrhau bod trigolion ledled y ddinas yn derbyn casgliad gwastraff gardd yn ystod mis Tachwedd.

Bydd casgliadau Gwastraff Gardd mis Tachwedd yn cael eu cynnal ar y dyddiadau hyn yn yr ardaloedd canlynol -Casgliadau gwastraff gardd (caerdydd.gov.uk)

Yna bydd y casgliadau gwastraff gwyrdd arferol yn ailddechrau o 15 Mawrth 2022 - ond bydd casgliadau penodol yn cael eu cynnig ar gyfer coed Nadolig go iawn ym mis Ionawr. Bydd mwy o fanylion am y gwasanaeth hwn ar gael ym mis Rhagfyr felly dilynwch ein cyfrifon cyfryngau cymdeithasol am wybodaeth neu lawrlwythwch yr ap CardiffGov i'ch ffôn o Apple Store neu Google Play. Mae 50,000 o drigolion eisoes yn defnyddio'r ap i gael mynediad at wasanaethau'r cyngor.

Ac eithrio gwyliau banc, bydd y canolfannau ailgylchu yng Nghlos Bessemer a Ffordd Lamby yn parhau ar agor dros y gaeaf, felly gellir dod â gwastraff ailgylchu a gwastraff gardd i'r cyfleusterau hyn hefyd -Casgliadau gwastraff gardd (caerdydd.gov.uk)

Dywedodd y Cynghorydd Michael Michael, yr Aelod Cabinet dros Strydoedd Glân a'r Amgylchedd: "Mae'r prinder gyrwyr HGV a'r cyfraddau COVID cynyddol yn y ddinas yn golygu bod yn rhaid i ni flaenoriaethu gwasanaethau wrth i ni baratoi i wynebu'r pwysau ychwanegol a ddaw yn sgil y gaeaf. Mae swm y gwastraff gwyrdd sy'n cael ei gasglu yn y ddinas yn gostwng bron i 50% rhwng mis Tachwedd a mis Rhagfyr a gwyddom fod hyn yn parhau drwy gydol Ionawr, Chwefror a Mawrth. O ystyried y ffigurau hyn, mae'r cyngor wedi tocio'r casgliadau gwastraff gwyrdd i wneud y mwyaf o gasgliadau gwastraff a'r staff sydd ar gael yn ystod y cyfnod anodd hwn.

"Mae'r Nadolig bob amser yn gyfnod prysur iawn i'n criwiau casglu gwastraff, sy'n casglu cardfwrdd, ailgylchu a gwastraff cyffredinol - gan fod trigolion yn cynhyrchu llawer mwy o'r mathau hyn o wastraff dros yr ŵyl. Bydd criwiau sydd fel arfer yn casglu gwastraff gardd yn cael eu symud i helpu eu cydweithwyr ar rowndiau casglu eraill i sicrhau y gellir casglu'r gwastraff statudol."