Back
Nod Gŵyl Bwyd Da yr Hydref Caerdydd yw grymuso cymunedau Caerdydd i hyrwyddo bwyd lleol, cynaliadwy

20.10.2021

A picture containing textDescription automatically generated

Mae Gŵyl Bwyd Da yr Hydref Caerdydd yn anelu at ysbrydoli unigolion a busnesau i weithredu er mwyn helpu pobl i gael gafael ar fwyd da ar draws y ddinas.

Mae'r ŵyl yn canolbwyntio ar hyrwyddo bwyd cynaliadwy, iach ac annog cymunedau Caerdydd i ddod at ei gilydd i lunio eu system fwyd leol.

Yn dilyn llwyddiant Gŵyl 2020, mae Gŵyl Bwyd Da yr Hydref Bwyd Caerdydd wedi dychwelyd, gan ganolbwyntio ar adeiladu cymunedau iach. Gyda digwyddiadau wyneb yn wyneb a rhithwir yn digwydd yn ystod yr wythnos rhwng 16 - 24 Hydref, bydd yr ŵyl yn cynnal cyfres o sesiynau pwrpasol sy'n canolbwyntio ar fwyd maethlon, cynaliadwyedd a chysylltu gydag unigolion o'r un anian.

Bydd yr ŵyl hefyd yn nodi lansiad strategaeth fwyd Caerdydd ar draws y ddinas yn ei Huwch-gynhadledd Bwyd Da ar 22 Hydref. Mae'r strategaeth fwyd wedi'i datblygu gyda chefnogaeth dros 2,500 o bobl yn y ddinas, gan nodi pum Nod Bwyd Da i'w blaenoriaethu dros y blynyddoedd nesaf, a helpu i wella'r ffordd y mae unigolion a busnesau yn tyfu, prynu, coginio a bwyta ledled Caerdydd.

Mae'r artist lleol Nathan Wyburn wedi creu delwedd ar raddfa fawr gan ddefnyddio ffrwythau a llysiau a dyfwyd yn lleol, ac a fydd yn cael eu coginio gan grwpiau gydol yr ŵyl.

Yn ogystal â hyn, bydd yr Ŵyl yn croesawu cynnwys bwyd da a gweithgareddau gan bartneriaid ar draws y ddinas, yn cynnwys cwisiau bwyd, sesiwn Tyfu ar y Cyd Rithwir, sesiynau cerfio pwmpen a llawer mwy.

Bydd yr Uwch-gynhadledd Bwyd Da yn dod ag arweinwyr, busnesau, sefydliadau, grwpiau cymunedol a gweithredwyr at ei gilydd i greu dyfodol bwyd gwell.

Bydd siaradwyr yn cynnwys y Cynghorydd Huw Thomas, Arweinydd Cyngor Caerdydd, Carolyn Steel, Awdur, Jane Davidson, cyn-Weinidog Llywodraeth Cymru, Nirushan Sudarsan, arweinydd ifanc sy'n gweithio gyda Citizens Cymru Wales a Fiona Kinghorn, Cyfarwyddwr Gweithredol Iechyd y Cyhoedd ym Mwrdd Iechyd Caerdydd a'r Fro.

Dywedodd Arweinydd Cyngor Caerdydd, y Cynghorydd Huw Thomas: "Os edrychwch chi ar y gwaith sydd wedi'i wneud ar draws partneriaeth Bwyd Caerdydd i newid ein systemau bwyd a darparu bwyd iach, moesegol a chynaliadwy i bobl Caerdydd, mae'n wirioneddol ryfeddol faint sydd wedi cael ei gyflawni ers 2018, pan wnaethom lansio ein hymrwymiad i ennill y wobr Arian ac, yn y pen draw, statws Aur i'r ddinas"

"Bydd yr ŵyl yn gyfle i ddathlu'r holl waith gwych mae grwpiau cymunedol a busnesau wedi'i wneud i sicrhau bod y ddinas yn cael ei bwydo a dod â ni at ein gilydd dros y flwyddyn ddiwethaf. Bydd yr Uwch-gynhadledd yn archwilio sut y gall Caerdydd adeiladu ar y momentwm hwn a thrawsnewid y system fwyd leol."

Fiona Kinghorn, Cyfarwyddwr Gweithredol Iechyd y Cyhoedd, Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro, "Fel Bwrdd Iechyd rydym yn ymrwymedig, gyda'n partneriaid, i wella iechyd a lles ein staff a'r boblogaeth leol, gan ganolbwyntio'n benodol ar greu amgylchedd bwyd iachach.

"Rydym ni bob amser yn falch o gefnogi gwaith ein partner Bwyd Caerdydd, sydd â rôl bwysig yn helpu ein poblogaeth i gael mynediad at fwyd da a hyrwyddo system fwyd gynaliadwy yng Nghaerdydd.

"Mae Gŵyl Bwyd Da yr Hydref yn ddigwyddiad gwych sy'n annog ein cymunedau i ddod at ei gilydd a chysylltu dros bwysigrwydd gwella mynediad at faint o ddewisiadau iach, cynaliadwy yn amgylcheddol sydd ar gael."

Yn ôl Pearl Costello, trefnydd yr ŵyl a Chydlynydd Lleoedd Bwyd Cynaliadwy Bwyd Caerdydd: "Gŵyl Bwyd Da yr Hydref yw un o'n prif ddigwyddiadau ac rydym yn edrych ymlaen yn fawr at lansio ein Strategaeth Bwyd Da a fydd yn cael ei defnyddio i drawsnewid y bwyd rydym yn tyfu, prynu a bwyta ar draws Caerdydd.

"Trwy annog mwy a mwy o bobl i gymryd rhan yn yr ŵyl, mae Caerdydd yn creu ymgyrch bwyd da a fydd yn hybu faint o fwyd iach, cynaliadwy yn amgylcheddol sydd ar gael, sy'n cefnogi economi fwyd lleol sy'n ffynnu, yn grymuso pobl ac sy'n deg ac yn gysylltiedig."

I gael rhagor o wybodaeth am Ŵyl Bwyd Da yr Hydref Bwyd Caerdydd, y digwyddiadau a gynhelir a sut i gymryd rhan, ewch i https://foodcardiff.com/cy/bwyd-da-caerdydd-rhaglen-yr-wyl/.

📸 Matthew Horwood