Back
Holi Caerdydd 2021: Lleisiwch eich barn

 

 

20/10/21

Mae trigolion Caerdydd a phawb sy'n defnyddio gwasanaethau cyhoeddus yn y ddinas yn cael eu hannog i rannu eu barn ar eu profiadau o wasanaethau.

 

Mae arolwg blynyddol Holi Caerdydd wedi lansio i gasglu barn pobl ar yr hyn sy'n gweithio'n dda yn y ddinas a meysydd y mae angen eu gwella.

 

Mae'r adborth a gesglir o'r arolwg yn helpu'r Cyngor a phartneriaid gwasanaethau cyhoeddus i ddeall yn well sut mae pobl yn profi'r ddinas a gwasanaethau ac i wybod beth sy'n bwysig i drigolion a'r gymuned leol. Mae'r ymatebion hefyd yn helpu i lywio cynlluniau i newid a gwella gwasanaethau.

 

Mae'r arolwg yn canolbwyntio ar amrywiaeth o bynciau o wasanaethau teuluol, tai, swyddi, diogelwch cymunedol, teithio ac iechyd a lles.

 

Gyda'r Cyngor yn wynebu bwlch cyllidebol o £21.3 miliwn y flwyddyn nesaf, gofynnir i drigolion hefyd am eu barn ar sut y byddent yn blaenoriaethu adnoddau sydd ar gael gan y Cyngor y flwyddyn ariannol nesaf.

 

Dywedodd y Cynghorydd Chris Weaver, yr Aelod Cabinet dros Gyllid, Moderneiddio a Pherfformiad:  "Mae Holi Caerdydd yn ddull mor werthfawr i ni ddeall blaenoriaethau trigolion a pha mor fodlon ydyn nhw ar sut mae'r gwasanaethau presennol yn gweithredu.

 

"Cymerodd bron i 5,000 o bobl ran y llynedd a hoffem weld hyd yn oed mwy o bobl yn cymryd rhan eleni. Mae'n bwysig iawn ein bod yn clywed gan ystod mor eang â phosibl o bobl - gan y bydd gan bobl o wahanol oedrannau, sy'n byw mewn gwahanol rannau o'r ddinas, farn a phrofiadau gwahanol o ran defnyddio gwasanaethau yn ogystal â gwahanol flaenoriaethau. Rydym am glywed barn pawb."

 

Gellir cwblhau Holi Caerdydd 2021 ar-lein yn www.caerdydd.gov.uk/holicaerdydd2021  neu gall trigolion lawrlwytho ac argraffu copi o'r arolwg i'w ddychwelyd drwy Radbost. Dylai unrhyw un sydd am gael copi papur o'r arolwg i'w gwblhau gysylltu â C2C ar 029 2087 2088 a chaiff arolwg ei anfon ato.

 

Bydd yr arolwg yn cau ar 28 Tachwedd 2021.  Gall unrhyw un sy'n cwblhau'r arolwg gael ei gynnwys mewn raffl i ennill un o ddeg taleb Love2Shop gwerth £40, y gellir eu gwario mewn amrywiaeth eang o siopau'r stryd fawr.