20.10.2021
Mae'r Tasglu Cydraddoldeb Hiliol wedi datgelu cynlluniau newydd mawr yn ei adroddiad diweddaraf i helpu i fynd i'r afael ag anghydraddoldeb hiliol yn y ddinas.
Mae'r adroddiad diweddaraf yn manylu ar ail gylch y cynigion ar gyfer Caerdydd:
Nod y pecyn cymorth yw Addysgu, Grymuso a Gwella ysgolion gyda'r adnoddau, y cymorth a'r sgiliau i helpu i wneud newid systematig. Mae'r Tasglu wrthi'n ceisio ymgysylltu â mwy o ysgolion ledled y ddinas.
Amcangyfrifir bod tua 1.5% o'r gweithlu addysgu yng Nghaerdydd yn dod o gefndir lleiafrifoedd ethnig, ond mae tua 8% o'r cynorthwywyr addysgu yn dod o gefndir ethnig lleiafrifol.
Gweithio mewn partneriaeth â Monumental Welsh Women i sefydlu Darlith Betty Campbell flynyddol mewn cydweithrediad â Mis Hanes Pobl Dduon a Gŵyl Lyfrau Caerdydd a chefnogi Straeon Caerdydd i ddathlu unigolion blaenllaw du o Gymru yn hanes Cymru a Chaerdydd.
Mae'r Tasglu, a gynigiwyd gan Arweinydd Cyngor Caerdydd, y Cynghorydd Huw Thomas, mewn ymateb i farwolaeth drasig George Floyd yn UDA a mudiad Mae Bywydau Du o Bwys yn y DU, wedi bod yn gweithio ar gyfres o gynigion i helpu i wella bywydau a chyfleoedd cymunedau pobl dduon a lleiafrifoedd ethnig.
Dywedodd Arweinydd Cyngor Caerdydd, y Cynghorydd Huw Thomas: "Mae'r cynigion hyn yn dangos y cynnydd cyflym a wnaed diolch i waith caled y Tasglu, i sefydlu'r hyn y gallwn ei wneud i helpu i gefnogi ein trigolion Du a Lleiafrifoedd Ethnig yng Nghaerdydd.
"Nid siop siarad yw hon lle rydym yn ailadrodd yr un hen drafodaethau, yn hytrach mae'r cynigion hyn yn ymateb i rai o wir anghenion ein cymunedau.
"Byddwn yn ceisio mynd â'r cynigion hyn yn gyflym drwy broses gymeradwyo'r Cabinet, fel y gallwn, drwy weithio gyda'n partneriaid, geisio eu gweithredu'n gyflym a pharhau i sbarduno newid cadarnhaol yn y ddinas."
Dywedodd Cadeirydd y Tasglu Cydraddoldeb Hiliol, y Cynghorydd Saeed Ebrahim: "Gwnaethom ymgynghori â'r gymuned Pobl Dduon a Lleiafrifoedd Ethnig yn ôl ym mis Awst 2020 i gasglu barn ar beth ddylai blaenoriaethau'r Tasglu fod.
"Mae cymaint i'w wneud o hyd, ond mae'r cynigion hyn yn deillio o anghenion gwirioneddol ac, ar ran y Tasglu, rwy'n edrych ymlaen at gymryd camau ystyrlon."
Bydd cynigion y Tasglu Cydraddoldeb Hiliol yn cael eu hanfon at y Cabinet mewn adroddiad blynyddol ym mis Rhagfyr.