Dyma syniad o'r hyn sy'n digwydd ledled
Caerdydd.
HYBIAU A LLYFRGELLOEDD
Mae llawer o bethau arswydus yn digwydd yn ein hybiau a'n llyfrgelloedd dros wyliau hanner tymor ond does dim i'w ofni – dim ond paratoi eich hun ar gyfer llwyth o hwyl yn ein digwyddiadau am ddim gan gynnwys 'Calan Gaeaf yn yr Hyb', helfeydd trysor, cerfio pwmpenni a llawer mwy o weithgareddau gydol yr wythnos.
Bydd yr holl ffefrynnau arferol yn cael eu cynnal hefyd fel amser stori a rhigwm, Clwb Darllen, Amser Crefft a Chlwb Lego.
Edrychwch ar yr holl weithgareddau sydd ar gael
yn www.cardiffhubs.co.uk a chofiwch fod angen i chi archebu eich
lle yn y gweithgaredd rydych am ei fynychu drwy ffonio eich hyb lleol.
NEUADD LLANOFER
Creu masg, 'Clwb Clai' ar thema Harry Potter, gwisg sgerbwd drwy argraffu sgrin, sesiynau actio Arbennig Calan Gaeaf ‘Let's Act’, a llawer mwy – mae'n mynd i fod yn hanner tymor arbennig yn Neuadd Llanofer.
Gweler y manylion isod:
Dydd Llun 25 Hydref | | |
Beth? | Pryd? | Manylion |
Actio | 10am-3pm | Actio! Sesiwn Arbennig Calan
Gaeaf 8+ oed £40 am sesiwn 2 awr - archebwch drwy ffonio 029 2087 2030. |
Dydd Mawrth 26 Hydref | | |
Beth? | Pryd? | Manylion |
Actio | 10am-3pm | Actio! Sesiwn Arbennig Calan
Gaeaf 8+ oed £40 am sesiwn 2 awr - archebwch drwy ffonio 029 2087 2030. |
Dydd Mercher 27 Hydref | | |
Beth? | Pryd? | Manylion |
Paentio Calan Gaeaf
| 10-12pm | 5-8 oed £7.50 am sesiwn 2
awr - archebwch drwy ffonio 029 2087 2030 |
Hetiau Calan Gaeaf
| 10-12pm | 5-8 oed £7.50 am
sesiwn 2 awr - archebwch drwy ffonio 029 2087 2030 |
Creu Masgiau Calan Gaeaf
| 1-3pm | 5-8 oed £7.50 am
sesiwn 2 awr - archebwch drwy ffonio 029 2087 2030 |
Pwmpenni Little
Potters | 10am-12pm | 5-8 oed £7.50 am
sesiwn 2 awr - archebwch drwy ffonio 029 2087 2030 |
Clwb Clai Calan Gaeaf | 1-3pm | 8+ oed £7.50 am sesiwn 2 awr
- archebwch drwy ffonio 029 2087 2030 |
Dydd Iau 28 Hydref | | |
Beth? | Pryd? | Manylion |
Paentio | 10am-12pm | 5-8 Oed Tân Gwyllt Deniadol
£7.50 am sesiwn 2 awr - archebwch drwy ffonio 029 2087 2030 |
Clwb Clai | 10am-12pm | 8+ Oed - Crochenwaith
‘Harry Pottery’. £7.50 am sesiwn 2 awr - archebwch drwy ffonio 029 2087
2030 |
Crochenwyr Bach | 1-3pm | 8+ oed Ystlum ac Ysgub
£7.50 am sesiwn 2 awr - archebwch drwy ffonio 029 2087 2030 |
Dydd Gwener 29 Hydref | | |
Beth? | Pryd? | Manylion |
Artistiaid Bach | 10am-12pm | Hwyl Amlgyfrwng yr
Hydref! 5-8 oed £7.50 am sesiwn 2 awr
– archebwch drwy ffonio 029 2087 2030 |
Clai Mosaig | 10am-12pm | Pwmpenni Clai a Phenglogau
mosaig disglair 8+ oed £7.50 am sesiwn 2 awr drwy - archebwch drwy ffonio 029
2087 2030 |
Clwb Clai | 10am-12pm | Powlen Crochenwaith Calan
Gaeaf. 8+ oed £7.50 am sesiwn 2 awr -
archebwch drwy ffonio 029 2087 2030 |
Crochenwyr Bach | 1-3pm | Tŷ / Castell Ysbrydion
Clai 5-8 oed. £7.50 am sesiwn 2 awr -
archebwch drwy ffonio 029 2087 2030 |
Gwisgoedd sgerbwd | 1-3pm | Gwisgoedd penglog a sgerbwd
ymoleuol drwy argraffu sgrin 8+ oed
£7.50 am sesiwn 2 awr drwy ffonio 029 2087 2030 |
PARCIAU A MANNAU CHWARAE
Mae parciau Caerdydd bob amser yn edrych yn wych yn lliwiau'r hydref – a bydd anturiaethwyr bach wrth eu bodd yn darganfod y bywyd gwyllt ar garreg eu drws gydag un o'n llwybrau archwilio bywyd gwyllt y gellir ei lawrlwytho: https://www.outdoorcardiff.com/cy/llwybrau/dod-o-hyd-i-lwybr/llwybrau-bywyd-gwyllt/
Ac os oes angen newid cyflymder arnynt, maen
nhw'n siŵr o garu'r ardaloedd chwarae sydd newydd eu hadnewyddu ym Mharc
Caedelyn, Glenmount, Adamscroft, Pentwyn, a Chaeau Llandaf.
Anturiaethau
Llwybr Gwyllt,Parc y Mynydd Bychan, Dydd Sadwrn Hydref 30, 3-5pm, Mwyyma.
Eisiau gwneud
Caerdydd yn harddach lle ynghyd â helpu’r Gwenyn? Ymunwch â ni i helpu i roi
cartref i natur ym Mharc Bute. Ymunwch â chymuned Pharmabees Caerdydd a Pharc
Bute i Fiobledu Parc Bute a helpu i wella ac ail-wampio‘r ddôl blodau gwyllt. Dydd
Mercher 27 Hydref, 10:30 am ac am 1:30 pm - Sesiynau Biobledu. 11:30 am ac am
2:30 pm – Sesiynau Ymarferol. Cyfarfod y tu allan i Gaffi’r Ardd Ddirgel
/(Secret Garden Café)/ i’r Ganolfan Ymwelwyr (Visitor Centre). gallwch anfon
e-bost at Anna ar: afriendofbees@gmail.com
CASTELL
CAERDYDD
Yn ogystal â’r Castell ei hun, mae yna gweithgareddau plant hanner tymor gwych yn digwydd sy’n sicr o ddarparu hwyl i’r teulu cyfan. Gan ei bod hefyd yn wythnos Calan Gaeaf, pa ffordd well i godi’ch ysbryd na thrwy fynychu un o’n digwyddiadau dychrynllyd o dda yng Nghastell Caerdydd! Mwy yma.
BAE CAERDYDD
Mae taith i Fae Caerdydd bob amser yn antur, ond beth am lawrlwytho'r Ap Wallace & Gromit: Trwsio’r Ddinas i'ch ffôn clyfar a'i wneud yn antur Realiti Estynedig?
Mae'r teicŵn busnes Bernard Grubb wedi comisiynu'r ddeuawd enwog i dwtio'r ddinas mewn pryd ar gyfer ei ŵyl. Mae llwyth o bethau i’w gwneud a phob math o ddyfeisiau i’w canfod – gan gynnwys y robot glanhau anferthol, 'Big LAD'.
Ond mae help wrth law gan BERYL, Deallusrwydd Artiffisial ffyslyd ond cyfeillgar – efallai y gall hi helpu i ddod o hyd i Gromit, sydd wedi crwydro i rywle...
Darganfyddwch fwy yma: https://www.thebigfixup.co.uk/fix-up-the-city