18/10/21
Mae strategaeth newydd, sy'n ceisio dyblu nifer y bobl sy'n defnyddio bysiau yng Nghaerdydd, lleihau tagfeydd a gwella ansawdd yr aer, allan nawr ar gyfer ymgynghoriad cyhoeddus.
Mae'r ymgynghoriad wyth wythnos yn gofyn am farn ar strategaeth naw pwynt Cyngor Caerdydd i wella gwasanaethau bws yn y ddinas i drigolion a chymudwyr, gan gynnwys:
I lenwi'r arolwg byr a rhoi eich barn, ewch i:
https://wh1.snapsurveys.com/s.asp?k=163284379253
Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Gynllunio Strategol a Thrafnidiaeth, y Cynghorydd Caro Wild: "Rydyn ni'n gwybod bod llawer o bobl yn dibynnu ar fysiau i gyrraedd y gwaith a symud o gwmpas y ddinas fel rhan o'u bywydau bob dydd. Felly, os gallwn wneud teithiau'n gyflymach, yn fwy cyfforddus, yn rhatach ac yn fwy dibynadwy, bydd hyn yn gwneud gwahaniaeth mawr ym mywydau pobl -
"Rwy'n credu y bydd argyhoeddi'r cyhoedd i fynd allan o'u ceir ac i deithio ar fws, cerdded neu ar feic i'r gwaith yn dod yn fwyfwy pwysig wrth i ni wynebu'r argyfwng hinsawdd a chydnabod bod yn rhaid i ni fynd i'r afael â thagfeydd a llygredd aer yn ein dinasoedd.
"Os ydyn ni am wneud hynny yna rydyn ni'n gwybod bod yn rhaid i'r gwasanaethau bws wella. Mae angen i bobl wybod bod bysiau'n fforddiadwy, yn lân, yn dda i'r amgylchedd, yn gyfforddus ac yn gallu eu cludo yn hawdd ac yn effeithiol i'r man lle mae angen iddynt fod. Rhaid iddo fod yn ddidrafferth a rhaid iddo fod yn wasanaeth o safon. Dyna pam rydym wedi llunio strategaeth naw pwynt gyda syniadau i drawsnewid teithio ar fysiau yn y ddinas. Mae'n strategaeth y credwn y gall ddechrau symud pobl allan o'u ceir ac ar i drafnidiaeth gyhoeddus, gan helpu i wella'r amgylchedd i bawb."
Mae'r cyngor wedi gosod ei strategaeth drafnidiaeth ar gyfer y 10 mlynedd nesaf ac mae ei Bapur Gwyn Trafnidiaeth yn cynnwys nifer o gynlluniau i wella trafnidiaeth gyhoeddus a seilwaith teithio llesol ar draws y ddinas ac i ardaloedd awdurdodau lleol cyfagos.
Ychwanegodd y Cynghorydd Wild: "Rydyn ni eisiau i o leiaf 20% o breswylwyr a chymudwyr deithio ar fws erbyn 2030. Mae hynny'n dyblu nifer heddiw. Ni fydd hyn yn digwydd heb newid mawr yn y ffordd rydym yn gweithredu ein gwasanaethau bysiau. Dyna pam rydym wedi llunio strategaeth ar sut rydym yn mynd i gyflawni hyn mewn ymgynghoriad â'r cyhoedd. Credwn, gan weithio gyda phartneriaid y gall y naw strategaeth yma arwain at y newid ymddygiad y mae ei angen.
"Fel awdurdod lleol sy'n gweithio ar ein pen ein hunain, rydym yn gwybod ein bod wedi ein cyfyngu o ran yr hyn y gallwn ni ei wneud. Rhaid rhoi clod i Lywodraeth Cymru, sydd wedi sicrhau cyllid i weithredwyr bysiau drwy'r Cynllun Argyfwng Bysiau ac wedi rhoi sicrwydd ariannol i'r diwydiant bysiau yn ystod y pandemig. Mae'n rhaid dilyn hyn yn awr gyda pholisi newydd i gymryd mwy o reolaeth yn ôl ar ein gwasanaethau bws, ac ariannu'r math hanfodol hwn o drafnidiaeth yn iawn."
Mae strategaeth naw pwynt Cyngor Caerdydd yn cynnwys:
1) Gorffen ac adeiladu'r seilwaith gofynnol:Mae hyn yn cynnwys cwblhau'r Gyfnewidfa Fysiau Ganolog ac adeiladu tair Cyfnewidfa Drafnidiaeth yn Heol Waungron yn y Tyllgoed, yng Ngorsaf y Parc yn Llaneirwg a ger Ysbyty Athrofaol Cymru yn y Mynydd Bychan. Bydd cyfleuster parcio a theithio newydd hefyd yn cael ei adeiladu oddi ar yr M4 wrth gyffordd 33 a bydd opsiynau'n cael eu harchwilio ar gyfer cyfleuster cyfnewid arall wrth Gyffordd 32 i ddisodli traffig oddi ar yr A470.
2) Coridorau 'clyfar' newydd â blaenoriaeth i Fysiau: Mae nifer o goridorau bws 'clyfar' wedi'u nodi, gan gynnwys llwybr traws-ddinas a llwybr cylch posibl i ystod ehangach o gyrchfannau heb fod angen teithio i ganol y ddinas er mwyn mynd o un ochr y ddinas i'r llall. Byddai gwasanaethau'n amlach, gan ddefnyddio bysiau trydan mewn ardaloedd canol dinas neu mewn ardaloedd lle mae problemau ansawdd aer yn bodoli eisoes, gyda chyfleusterau o safon ar gael ar y bysiau i gwsmeriaid eu defnyddio a gwell gwybodaeth ar gael mewn safleoedd bws.
3) Pecyn canol y ddinas: Yn ogystal â chwblhau'r Gyfnewidfa Ganolog, mae cynlluniau pellach yn cynnwys creu nifer o ganolfannau trafnidiaeth ychwanegol o amgylch y ddinas, fel y gall cwsmeriaid gyfnewid rhwng teithio ar drên, bws, ar feic a cherdded. Bydd 'dolen canol y ddinas' â blaenoriaeth glir ar gyfer bysiau a safleoedd a chyfleusterau bws sydd wedi'u lleoli'n dda er mwyn i gwsmeriaid eu defnyddio
4) Integreiddio â'r Metro, tocynnau integredig a gwybodaeth glir i gwsmeriaid: Mae'r cynlluniau hyn yn cynnwys darparu un tocyn integredig y gellir ei ddefnyddio ar drenau a chyda gwahanol gwmnïau bws. Bydd hyn yn ei gwneud yn haws i bobl gyfnewid rhwng trên, bws a theithio llesol. Bydd y cyngor yn parhau i ddatblygu llwybrau beicio ar wahân ac yn cyflawni gwelliannau i droedffyrdd. Bydd gwelliannau'n cael eu gwneud i'r arwyddion a gwybodaeth ar y stryd fel y gall pobl ddeall sut y gallant symud o amgylch y ddinas drwy gyfnewid rhwng gwahanol ddulliau teithio.
5) Prisiau fforddiadwy integredig: Er mwyn sicrhau bod teithio ar fws yn apelio, rhaid i'r strwythur prisiau fod yn gywir ac efallai y bydd angen capio prisiau. Bydd adolygiad yn cael ei gynnal i sefydlu un strwythur prisiau, gan gynnwys edrych ar brisiau tocynnau £1 a gostyngiadau oddi ar yr oriau brig. Mae'n bwysig bod tocynnau'n gallu cael eu trosglwyddo fel y gellir eu defnyddio ar wasanaethau, waeth pa gwmni sy'n gweithredu'r llwybr bws.
6) Adolygiad o lywodraethiant a chyllido'r rhwydwaith bysiau:Mae hyn yn cynnwys yr opsiynau hirdymor o integreiddio rhwydweithiau bws, gan gynnwys ystyried masnachfreinio a phartneriaethau a allai godi yn y dyfodol drwy ddeddfwriaeth Llywodraeth Cymru.
7) Creu gwasanaeth gwelli gwsmeriaid: Sicrhau bod bysiau'n darparu lefel uchel o gysur a'u bod wedi'u cysylltu'n ddigidol er budd cwsmeriaid i wneud teithio ar fysiau yn brofiad mwy pleserus.
8) Fflyd allyriadau isel/di-garbon: Cynyddu nifer y bysiau di-garbon yn y fflyd fysiau yn gynt. Bydd dadansoddiad pellach hefyd yn cael ei wneud ar gostau a manteision system gyfan bysiau trydan o'u cymharu â bysiau diesel y gellir eu defnyddio ar gyfer ceisiadau am gyllid.
9) Integreiddio cludiant i'r ysgol: Mae'r cynlluniau'n cynnwys gwneud cludiant i'r ysgol yn rhatach ac yn haws ei ddefnyddio ar gyfer pob plentyn ysgol, gan fodloni'r holl ofynion statudol ar gyfer plant sydd â hawl i deithio ar fysiau am ddim. Bydd hyn hefyd yn golygu integreiddio agosach rhwng cynlluniau teithio ar fws a theithio llesol sydd wedi, neu yn cael eu datblygu ym mhob ysgol.