Dyma'r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Caerdydd, gan gynnwys: y cyngor i arwain y ffordd mewn ymgyrch i gyflawni Caerdydd carbon niwtral erbyn 2030; Caerdydd yn ymestyn record fel y lle gyda'r rhan fwyaf o fannau safon y Faner Werdd yng Nghymru; nifer achosion a phrofion COVID-19 Caerdydd; achosion COVID-19 a adroddwyd yn ysgolion Caerdydd yn ystod y 7 diwrnod diwethaf; cyfanswm brechu Caerdydd a Bro Morgannwg; a Ysgol Gynradd Greenway yn cynnal seremoni Plannu Coeden Canopi Gwyrdd y Frenhines.
Y Cyngor i arwain y ffordd mewn ymgyrch i gyflawni Caerdydd carbon niwtral erbyn 2030
Mae'r Strategaeth Un Blaned - sy'n nodi cynlluniau Cyngor Caerdydd i ddarparu awdurdod lleol carbon niwtral erbyn 2030 - wedi'i chyhoeddi a'i chymeradwyo gan Gabinet Cyngor Caerdydd.
Mae'r Cyngor wedi treulio'r flwyddyn ddiwethaf yn cyfrifo faint o nwyon tŷ gwydr (a fynegir fel allyriadau carbon deuocsid cyfatebol (CO2e)) mae'n cynhyrchu, tra'n edrych ar ffyrdd o leihau allyriadau.
Mae'r ffigurau diweddaraf yn dangos bod prifddinas Cymru yn gyfrifol am 1,626,056 tunnell o Garbon Deuocsid (CO2e) bob blwyddyn, a bod tua 184,904 tunnell yn cael eu cynhyrchu gan y Cyngor.
Dywedodd y Cynghorydd Michael Michael, yr Aelod Cabinet dros Strydoedd Glân, Ailgylchu a'r Amgylchedd: "Nid oes fawr o amheuaeth mai newid yn yr hinsawdd yw her fyd-eang ddiffiniol ein cenhedlaeth. Datganodd y Cyngor hwn Argyfwng Hinsawdd yn 2019, ac ers hynny rydym wedi bod yn gweithio'n galed i lunio strategaeth sy'n nodi sut y bydd y Cyngor yn dod yn garbon niwtral erbyn 2030.
"Dros y 5 mlynedd diwethaf mae'r weinyddiaeth hon wedi llwyddo i leihau allyriadau carbon Cyngor Caerdydd o drydan gan 70%. Fel rhan o'n strategaeth Un Blaned, mae gennym brosiectau sydd eisoes ar waith neu'n barod i fynd a fydd, pan gânt eu gweithredu'n llawn, yn lleihau ein hallyriadau gan 57% erbyn 2030. Mae gennym hefyd gyfres o gynigion, yr ydym yn awr yn datblygu achosion busnes ar eu cyfer, a fydd, yn ein barn ni, yn cyflawni Cyngor carbon niwtral erbyn 2030.
"Yn ddelfrydol, rydym am i'r ddinas gyfan fod yn garbon niwtral erbyn 2030. I wneud hynny, gwyddom fod yn rhaid inni arwain drwy esiampl. Dyma'r peth iawn i'w wneud, a gwyddom mai dyna y mae'r rhan fwyaf o bobl yng Nghaerdydd am inni ei wneud.
"Ein cynllun yw dangos yr hyn y gellir ei gyflawni a gwneud ein gorau i ddod â'n trigolion, busnesau a'r sector cyhoeddus ynghyd ar y daith hon, i greu'r ddinas werddach, lanach ac iachach yr ydym i gyd ei heisiau. Mae lleihau cyfanswm yr allyriadau carbon sy'n cael eu creu gan y ddinas yn her fawr. Mae'r Cyngor yn achub y blaen ar hynny hefyd. Rydym yn cyflwyno llu o fesurau a allai, os cânt eu gweithredu'n llawn, leihau cyfanswm allyriadau'r ddinas gan 22% erbyn 2030. Mae trafnidiaeth yn cyfrif am 41% o'r holl allyriadau carbon sy'n cael eu creu yng Nghaerdydd ar hyn o bryd. Dyma'r cynhyrchydd carbon unigol mwyaf yn y ddinas. Dyna pam mae ein Papur Gwyn Trafnidiaeth wedi'i anelu'n glir at leihau'r defnydd o geir preifat tra'n hybu trafnidiaeth gyhoeddus a defnydd o deithio llesol. Bydd hyn yn allweddol i leihau allyriadau'r ddinas."
Ymgynghorwyd â'r cyhoedd, busnesau, rhanddeiliaid allweddol ac ieuenctid Caerdydd ar y Strategaeth Un Blaned ddrafft ddiwedd 2020 a dechrau 2021 a nododd y canlyniadau, ochr yn ochr â dadansoddiad data carbon y Cyngor, ddwy flaenoriaeth:
Darllenwch fwy yma:
https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/27760.html
Caerdydd yn ymestyn record fel y lle gyda'r rhan fwyaf o fannau safon y Faner Werdd yng Nghymru
Bydd baneri'n cwhwfan uwchben parciau a mannau gwyrdd Caerdydd yn dilyn cyhoeddiad heddiw gan Cadwch Gymru'n Daclus.
Mae Waterloo Gardens wedi cael y Faner Werdd mawr ei bri am y tro cyntaf, sy'n golygu bod gan 15 o barciau a mannau gwyrdd a reolir gan Gyngor Caerdydd yr anrhydedd ryngwladol mawr ei heisiau hon erbyn hyn.
Mae Parc Bute, Morglawdd Bae Caerdydd, Gwlyptiroedd Bae Caerdydd, Mynwent Cathays, Ynys Echni, Fferm y Fforest, Gerddi'r Faenor, Parc Hailey, Parc y Mynydd Bychan, Parc Cefn Onn, Parc y Rhath, Gerddi Bryn Rhymni, Mynwent Draenen Pen-y-graig a Pharc Fictoria oll wedi llwyddo i gadw eu gwobrau presennol.
Mae'r gwobrau yn cael eu beirniadu gan arbenigwyr mannau gwyrdd arbenigol yn erbyn ystod o feini prawf llym gan gynnwys: bioamrywiaeth, cynnwys y gymuned, glanweithdra a rheoli amgylcheddol.
I ddathlu llwyddiant Baner Werdd y ddinas, sydd hefyd yn cynnwys 19 o Wobrau Cymunedol a Gwobr Baner Werdd Lawn ar gyfer Amgueddfa Hanes Naturiol Sain Ffagan, bydd Neuadd Dinas Caerdydd a hwyliau'r Morglawdd yn cael eu goleuo'n wyrdd heno.
Dwedodd yr Aelod Cabinet dros Ddiwylliant a Hamdden, y Cynghorydd Peter Bradbury: "Erbyn hyn mae gan Gaerdydd fwy o fannau baner werdd nag unrhyw le arall yng Nghymru ac mae ychwanegu Waterloo gardens eleni yn dyst i ymrwymiad a gwaith caled y tîm.
"Mae profiadau'r 18 mis diwethaf wedi achosi i lawer o bobl ail-werthuso eu blaenoriaethau a meddwl mwy am faterion amgylcheddol ac mae ein parciau a'n mannau gwyrdd wedi dod yn bwysicach nag erioed.
"Mae hwn yn gyflawniad gwych i staff ymroddedig y Cyngor a'n Grwpiau Cyfeillion sydd wedi gwneud gwaith anhygoel yn cynnal ein parciau dan yr amgylchiadau mwyaf heriol.
"Mae ein Grwpiau Cyfeillion a'n gwirfoddolwyr yn hanfodol i barciau ein dinas - mae hyn wedi dod yn fwy amlwg fyth gyda'r digwyddiadau cymunedol dros y misoedd diwethaf - a hoffwn ddiolch iddynt am y gwaith y maent wedi'i wneud i'n helpu i fodloni'r safonau uchel sydd eu hangen i ennill statws y Faner Werdd."
Darllenwch fwy yma:
https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/27754.html
Achosion a Phrofion Caerdydd - Data'r 7 Diwrnod (04 Hydref - 10 Hydref)
Yn seiliedig ar ffigurau diweddaraf Iechyd Cyhoeddus Cymru
Mae'r data'n gywir ar:
14 Hydref 2021, 09:00
Achosion: 2,588
Achosion fesul 100,000 o'r boblogaeth: 705.4 (Cymru: 531.7 achosion fesul 100,000 o'r boblogaeth)
Achosion profi: 12,172
Profion fesul 100,000 o'r boblogaeth: 3,317.5
Cyfran bositif: 21.3% (Cymru: 17.6% cyfran bositif)
Achosion COVID-19 a adroddwyd yn ysgolion Caerdydd yn ystod y 7 diwrnod diwethaf (08/10/21 i 14/10/21)
Cyfanswm y nifer a adroddwyd = 1207
Yn seiliedig ar y ffigurau diweddaraf, mae ychydig o dan 57,000 o ddisgyblion a myfyrwyr wedi'u cofrestru yn ysgolion Caerdydd.
Diweddariad Statws Brechu Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro - 15 Hydref
Ddarparwyd y data gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro
Sylwer y gall fod mân ddiwygiadau i ddata wrth iddo gael ei ddilysu dros amser
Cyfanswm nifer y dosau brechu a roddwyd gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro hyd yn hyn, yn y ddwy ardal awdurdod lleol: 749,888 (Dos 1: 374,110 Dos 2: 344,060)
Ysgol Gynradd Greenway yn cynnal seremoni Plannu Coeden Canopi Gwyrdd y Frenhines
Heddiw, mae Ysgol Gynradd Greenway yn Nhredelerch wedi cynnal seremoni plannu coeden i nodi Jiwbilî Platinwm Ei Mawrhydi yn 2022.
Mae Canopi Gwyrdd y Frenhines yn fenter unigryw sy'n gwahodd pobl ledled y Deyrnas Unedig i "Blannu Coeden ar gyfer y Jiwbilî". Fel rhan o'r cynllun, mae 70 o Goed Dathliadol yn cael eu rhoi i ysgolion cynradd mewn 69 o ddinasoedd ledled y DU gyda'r nod o dynnu sylw at agweddau addysgol coed a phwysigrwydd rhoi cyfle i bobl ifanc gael mynediad i fyd natur.
Cyflwynwyd y goeden gan Mrs Morfudd Meredith, Arglwydd Raglaw Ei Mawrhydi yn Ne Morgannwg, ar ran Ei Mawrhydi y Frenhines, yn ystod seremoni yn yr ysgol.
Roedd Dirprwy Arweinydd Cyngor Caerdydd a'r Aelod Cabinet dros Addysg, Cyflogaeth a Sgiliau, y Cynghorydd Sarah Merry, yng nghwmni'r Gwir Anrhydeddus Arglwydd Faer Caerdydd, y Cynghorydd Rod McKerlich a'r Arglwydd Faeres, Mrs. Sue McKerlich, Pennaeth Ysgol Gynradd Greenway, Nic Naish ac Is-gadeirydd y Llywodraethwyr Stacey Clausen.
Roedd gwesteion eraill yn cynnwys Uchel Siryf De Morgannwg, Peter Dewey, a Chynghorwyr lleol a disgyblion a gymerodd ran yn y seremoni, gan gynnwys perfformiad gan gôr yr ysgol.
Dywedodd Mrs Morfudd Meredith, Arglwydd Raglaw De Morgannwg Ei Mawrhydi: "Yn gynharach y mis hwn, ymunodd Ei Mawrhydi'r Frenhines a'i Uchelder Brenhinol Tywysog Cymru â phlant ysgol lleol, i nodi dechrau'r tymor plannu swyddogol ar gyfer Canopi Gwyrdd y Frenhines, ar Ystâd Balmoral.
"Roedd hefyd yn nodi dechrau rhaglen addysg Canopi Gwyrdd y Frenhines, sy'n ceisio ysbrydoli pobl ifanc i fod yn geidwaid ein mannau gwyrdd, ein coedwigoedd a'n coetiroedd yn y dyfodol. Rwy'n falch iawn fy mod heddiw wedi cyflwyno coeden i ysgol leol yng Nghaerdydd, Ysgol Gynradd Greenway, ar ran Ei Mawrhydi ac rwyf mor falch o'r diddordeb a ddangoswyd gan y Prifathro, Nic Naish a'r disgyblion yn y prosiect hwn.
"At hynny, mae Canopi Gwyrdd y Frenhines yn annog pob ysgol i gymryd rhan mewn plannu coed ar gyfer y Jiwbilî, gyda phecynnau am ddim ar gael drwy eu partneriaid Coed Cadw a'r Gwirfoddolwyr Cadwraeth. Mae'r prosiect yn annog pawb i blannu coed fel ateb naturiol syml i newid yn yr hinsawdd, aer glanach, cynefinoedd ar gyfer bywyd gwyllt a gwella iechyd a lles."
Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Addysg, Cyflogaeth a Sgiliau, y Cynghorydd Sarah Merry: "Mae sicrhau bod plant a phobl ifanc yn cael mynediad i fannau gwyrdd ac ardaloedd awyr agored yn hollbwysig. Rwyf wrth fy modd bod Ysgol Gynradd Greenway wedi cael ei dewis i dderbyn y goeden arbennig hon, menter a fydd yn galluogi disgyblion i deimlo eu bod wedi'u hysbrydoli gan natur a'u hannog i gymryd perchnogaeth ar eu hamgylchedd lleol ond hefyd y parciau, y coedwigoedd a'r coetiroedd ledled y ddinas."
Darllenwch fwy yma: