Back
Lansio ymgynghoriadau ar gynlluniau i dyfu’r Gymraeg ar Ddiwrnod Shwmae/Su’mae


15/10/21

Heddiw, rydym yn lansio dau ymgynghoriad drafft sy'n ceisio cefnogi gweledigaeth Caerdydd ar gyfer tyfu a meithrin defnydd o'r Gymraeg yn y ddinas.

 

Ar Ddiwrnod Shwmae/Su'mae (Hydref 15) - y diwrnod blynyddol sy'n dathlu a hyrwyddo'r Gymraeg, mae'r Cyngor yn gofyn i bobl am eu barn ar ei  Strategaeth 5 Mlynedd - Caerdydd Ddwyieithog 2022-2027 a'i Gynllun Strategol Drafft Cymraeg mewn Addysg 2022-2032.

 

Mae'r ddau gynllun yn rhan annatod o weledigaeth y ddinas o ddod yn brifddinas wirioneddol ddwyieithog i Gymru, gyda Strategaeth Caerdydd Ddwyieithog yn gosod ystod o feysydd gwaith mewn amryw o agweddau ar fywyd y ddinas gyda'r nod o gyflawni'r uchelgais hon, gan gynnwys cynyddu addysg cyfrwng Cymraeg, wedi ei lywio gan y Cynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg.

 

Mae'r ddwy strategaeth yn cefnogi'r nod o ddyblu nifer y siaradwyr Cymraeg yng Nghaerdydd erbyn 2050, yn unol â Tharged Llywodraeth Cymru o filiwn o siaradwyr Cymraeg ledled y genedl erbyn yr adeg honno.

 

Dywedodd y Cynghorydd Huw Thomas, Arweinydd Cyngor Caerdydd: "Dros y 25 mlynedd diwethaf, mae nifer y siaradwyr Cymraeg yng Nghaerdydd wedi mwy na dyblu a'r ddwy strategaeth hyn fydd y sbardun i fynd hyd yn oed ymhellach gyda'r cynnydd hwnnw, dros y pum mlynedd nesaf i gychwyn, ac wedyn y tu hwnt i hynny, i 2050. 

 

"Rydyn ni eisiau i Gaerdydd fod yn lle y gall dinasyddion fyw, gweithio a chwarae ynddo yn gyfartal yn Gymraeg a Saesneg, yn ogystal â manteisio ar wasanaethau a chymorth yn y ddwy iaith;  dinas lle caiff dwyieithrwydd ei hyrwyddo fel rhywbeth hollol naturiol, a lle caiff y Gymraeg ei diogelu a'i meithrin i genedlaethau'r dyfodol ei defnyddio a'i mwynhau.

 

"All y Cyngor ddim cyflawni hyn ar ei ben ei hun, ac rydyn ni'n ddiolchgar i'n prif bartneriaid a'r ystod eang o randdeiliaid sydd gennym ni, sydd i gyd yn gweithio gyda'i gilydd i gyrraedd y nod cyffredin hwn o brifddinas wirioneddol ddwyieithog.

 

"Mae'n arbennig o amserol ein bod yn lansio'r ddau ymgynghoriad hyn ar Ddiwrnod Shwmae ac rwyf eisiau annog pobl i rannu eu barn ar y ddau fap ffordd pwysig hyn a fydd yn helpu i feithrin twf y Gymraeg yn ein prifddinas."

 

Mae strategaeth Caerdydd Ddwyieithog wedi'i strwythuro i adlewyrchu'r meysydd strategol a amlinellir yn strategaeth Cymraeg 2050 Llywodraeth Cymru. Y rhain yw cynyddu nifer y siaradwyr Cymraeg, gan gynyddu'r defnydd o'r Gymraeg a chreu amodau ffafriol - seilwaith a chyd-destun. Mae strategaeth Caerdydd yn nodi'r newid sydd ei angen i wireddu gweledigaeth Caerdydd Ddwyieithog.

 

Mae ymgynghoriad ar Gynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg ar gyfer 2022-2032, a gaiff ei gyhoeddi ym mis Ionawr 2022, wedi'i gysoni â'r un ar Strategaeth Caerdydd Ddwyieithog i hwyluso'r gwaith o gynnwys amcanion a chanlyniadau cydfuddiannol yn y ddau gynllun strategol. Dim ond drwy'r cynnydd mewn addysg Gymraeg a gynigir yn y Cynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg y gellir cyflawni'r ymrwymiadau a wnaed yn Strategaeth Caerdydd Ddwyieithog i gynyddu nifer y siaradwyr Cymraeg yng Nghaerdydd.

 

Dysgwch fwy am Gynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg (WESP) ar gyfer 2022-2032 yma  https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/27712.html a dweud eich dweud ar ddwy strategaeth a lansiwyd heddiw yma:  https://www.caerdydd.gov.uk/CYM/Eich-Cyngor/dweud-eich-dweud/ymgynghoriadau-byw/ymgyngoriadau-strategaethau-cymraeg/Pages/default.aspx