14.10.2021
Bydd baneri'n cwhwfan uwchben parciau a mannau gwyrdd Caerdydd yn dilyn cyhoeddiad heddiw gan Cadwch Gymru'n Daclus.
Mae Waterloo Gardens wedi cael y Faner Werdd mawr ei bri am y tro cyntaf, sy'n golygu bod gan 15 o barciau a mannau gwyrdd a reolir gan Gyngor Caerdydd yr anrhydedd ryngwladol mawr ei heisiau hon erbyn hyn.
Mae Parc Bute, Morglawdd Bae Caerdydd, Gwlyptiroedd Bae Caerdydd, Mynwent Cathays, Ynys Echni, Fferm y Fforest, Gerddi'r Faenor, Parc Hailey, Parc y Mynydd Bychan, Parc Cefn Onn, Parc y Rhath, Gerddi Bryn Rhymni, Mynwent Draenen Pen-y-graig a Pharc Fictoria oll wedi llwyddo i gadw eu gwobrau presennol.
Mae'r gwobrau yn cael eu beirniadu gan arbenigwyr mannau gwyrdd arbenigol yn erbyn ystod o feini prawf llym gan gynnwys: bioamrywiaeth, cynnwys y gymuned, glanweithdra a rheoli amgylcheddol.
I ddathlu llwyddiant Baner Werdd y ddinas, sydd hefyd yn cynnwys 19 o Wobrau Cymunedol a Gwobr Baner Werdd Lawn ar gyfer Amgueddfa Hanes Naturiol Sain Ffagan, bydd Neuadd Dinas Caerdydd a hwyliau'r Morglawdd yn cael eu goleuo'n wyrdd heno.
Dwedodd yr Aelod Cabinet dros Ddiwylliant a Hamdden, y Cynghorydd Peter Bradbury: "Erbyn hyn mae gan Gaerdydd fwy o fannau baner werdd nag unrhyw le arall yng Nghymru ac mae ychwanegu Waterloo gardens eleni yn dyst i ymrwymiad a gwaith caled y tîm."
"Mae profiadau'r 18 mis diwethaf wedi achosi i lawer o bobl ail-werthuso eu blaenoriaethau a meddwl mwy am faterion amgylcheddol ac mae ein parciau a'n mannau gwyrdd wedi dod yn bwysicach nag erioed.
"Mae hwn yn gyflawniad gwych i staff ymroddedig y Cyngor a'n Grwpiau Cyfeillion sydd wedi gwneud gwaith anhygoel yn cynnal ein parciau dan yr amgylchiadau mwyaf heriol."
"Mae ein Grwpiau Cyfeillion a'n gwirfoddolwyr yn hanfodol i barciau ein dinas - mae hyn wedi dod yn fwy amlwg fyth gyda'r digwyddiadau cymunedol dros y misoedd diwethaf - a hoffwn ddiolch iddynt am y gwaith y maent wedi'i wneud i'n helpu i fodloni'r safonau uchel sydd eu hangen i ennill statws y Faner Werdd."
Dywedodd Geraint Huw Denison-Kurg, Ysgrifennydd Cyfeillion Gerddi Pen-y-lan: "Rydym wrth ein bodd bod Waterloo Gardens wedi ennill Baner Werdd yn dilyn ymdrech ar y cyd gan Adran Parciau'r Cyngor.
"Ynghyd â'n grŵp Cyfeillion newydd ei ffurfio, rydym yn gobeithio y bydd hwn yn gyfnod newydd o gadwraeth a gwella yn Waterloo Gardens, gan sicrhau y bydd pobl Caerdydd yn eu mwynhau am genedlaethau i ddod."
Cyflwynir rhaglen Gwobrau'r Faner Werdd yng Nghymru gan yr elusen amgylcheddol, Cadwch Gymru'n Daclus, gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru.
Dywedodd Lucy Prisk, Cydlynydd y Faner Werdd yn Cadwch Gymru'n Daclus: "Mae'r pandemig wedi dangos i ni pa mor bwysig yw parciau a mannau gwyrdd o ansawdd uchel i'n cymunedau. Gyda mwy o ymwelwyr nag erioed yn mwynhau ein mannau gwyrdd, hoffwn longyfarch gwaith caled staff a gwirfoddolwyr sydd wedi cynnal safonau rhagorol yn y safleoedd hyn."
Mae rhestr lawn o enillwyr y gwobrau ar wefan Cadwch Gymru'n Daclus www.keepwalestidy.cymru/cy