12/10/2021
Heddiw, mae Ysgol Gynradd Greenway yn Nhredelerch wedi cynnal seremoni plannu coeden i nodi Jiwbilî Platinwm Ei Mawrhydi yn 2022.
Mae Canopi Gwyrdd y Frenhines yn fenter unigryw sy'n gwahodd pobl ledled y Deyrnas Unedig i"Blannu Coeden ar gyfer y Jiwbilî".Fel rhan o'r cynllun, mae 70 o Goed Dathliadol yn cael eu rhoi i ysgolion cynradd mewn 69 o ddinasoedd ledled y DU gyda'r nod o dynnu sylw at agweddau addysgol coed a phwysigrwydd rhoi cyfle i bobl ifanc gael mynediad i fyd natur.
Cyflwynwyd y goeden gan Mrs Morfudd Meredith, Arglwydd Raglaw Ei Mawrhydi yn Ne Morgannwg, ar ran Ei Mawrhydi y Frenhines, yn ystod seremoni yn yr ysgol.
Roedd Dirprwy Arweinydd Cyngor Caerdydd a'r Aelod Cabinet dros Addysg, Cyflogaeth a Sgiliau, y Cynghorydd Sarah Merry, yng nghwmni'rGwir Anrhydeddus Arglwydd Faer Caerdydd, y Cynghorydd Rod McKerlich a'r Arglwydd Faeres, Mrs. Sue McKerlich, Pennaeth Ysgol Gynradd Greenway, Nic Naish ac Is-gadeirydd y Llywodraethwyr Stacey Clausen.
Roedd gwesteion eraill yn cynnwysUchel Siryf De Morgannwg, Peter Dewey, a Chynghorwyr lleol a disgyblion a gymerodd ran yn y seremoni, gan gynnwys perfformiad gan gôr yr ysgol.
Dywedodd Mrs Morfudd Meredith, Arglwydd Raglaw De Morgannwg Ei Mawrhydi: "Yn gynharach y mis hwn, ymunodd Ei Mawrhydi'r Frenhines a'i Uchelder Brenhinol Tywysog Cymru â phlant ysgol lleol, i nodi dechrau'r tymor plannu swyddogol ar gyfer Canopi Gwyrdd y Frenhines, ar Ystâd Balmoral.
"Roedd hefyd yn nodi dechrau rhaglen addysg Canopi Gwyrdd y Frenhines, sy'n ceisio ysbrydoli pobl ifanc i fod yn geidwaid ein mannau gwyrdd, ein coedwigoedd a'n coetiroedd yn y dyfodol. Rwy'n falch iawn fy mod heddiw wedi cyflwyno coeden i ysgol leol yng Nghaerdydd, Ysgol Gynradd Greenway, ar ran Ei Mawrhydi ac rwyf mor falch o'r diddordeb a ddangoswyd gan y Prifathro, Nic Naish a'r disgyblion yn y prosiect hwn.
"At hynny, mae Canopi Gwyrdd y Frenhines yn annog pob ysgol i gymryd rhan mewn plannu coed ar gyfer y Jiwbilî, gyda phecynnau am ddim ar gael drwy eu partneriaid Coed Cadw a'r Gwirfoddolwyr Cadwraeth. Mae'r prosiect yn annog pawb i blannu coed fel ateb naturiol syml i newid yn yr hinsawdd, aer glanach, cynefinoedd ar gyfer bywyd gwyllt a gwella iechyd a lles."
Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Addysg, Cyflogaeth a Sgiliau, y Cynghorydd Sarah Merry: "Mae sicrhau bod plant a phobl ifanc yn cael mynediad i fannau gwyrdd ac ardaloedd awyr agored yn hollbwysig. Rwyf wrth fy modd bod Ysgol Gynradd Greenway wedi cael ei dewis i dderbyn y goeden arbennig hon, menter a fydd yn galluogi disgyblion i deimlo eu bod wedi'u hysbrydoli gan natur a'u hannog i gymryd perchnogaeth ar eu hamgylchedd lleol ond hefyd y parciau, y coedwigoedd a'r coetiroedd ledled y ddinas."
Ar 5 Mehefin 2022, bydd Ysgol Gynradd Greenway yn dathlu ei phen-blwydd yn 70, ddeuddydd yn unig ar ôl Ei Mawrhydi Y Frenhines. Bydd chwe choeden arall yn cael eu plannu ochr yn ochr â choeden ddathliadol Canopi Gwyrdd y Frenhines i nodi pob degawd y mae'r ysgol wedi bod ar agor.
Dywedodd Pennaeth Ysgol Gynradd Greenway, Nic Naish: "Mae'n anrhydedd ac yn bleser i ni gael ein dewis i dderbyn y goeden a fydd yn ein hatgoffa o'r achlysur hanesyddol hwn am genedlaethau i ddod ac a fydd yn dechrau dathliadau ein pen-blwydd yn 70 oed.
"Bydd hefyd yn helpu Ysgol Gynradd Greenway, The Oaks Federation ac ysgolion eraill i barhau i ddatblygu mannau awyr agored i gefnogi natur a chynnig amgylcheddau lle mae dysgu a lles plant yn cael eu gwella."
Gellir gweld cofnod digidol o ganopi gwyrdd y prosiectau plannu coed ledled y wlad ar Fap y CGF.https://queensgreencanopy.org/map-education-hub/qgc-map/#/