Back
Gwahodd trigolion i ddweud eu dweud am greu coedwig drefol Caerdydd

11.10.2021

A picture containing text, outdoor, personDescription automatically generated

 

Gwahoddir trigolion Caerdydd i gwblhau arolwg Coed Caerdydd i rannu eu barn ar greu coedwig drefol ar draws y ddinas.

 

Mae Strategaeth Un Blaned y Cyngor yn cynnwys nod o gynyddu'r gorchudd coed o 18.9% i 25% erbyn 2030. Er mwyn gwneud hyn, mae Cyngor Caerdydd wedi sefydlu rhaglen plannu coed hirdymor ar gyfer y ddinas o'r enw Coed Caerdydd. 

 

Yn hydref 2019, dosbarthwyd arolwg dinasyddion i ddarganfod sut mae coed yn effeithio ar fywydau trigolion; a ydynt yn ymwybodol bod mwy o goed wedi cael eu plannu; a pha fath o blannu yr hoffech ei weld yn y dyfodol.

 

Dywedodd y Cynghorydd Peter Bradbury, yr Aelod Cabinet dros Ddiwylliant a Hamdden, "Mae profiadau'r 18 mis diwethaf wedi achosi i lawer o bobl ail-werthuso eu blaenoriaethau a meddwl mwy am faterion amgylcheddol.

 

"Bydd prosiect Coed Caerdydd yn helpu i wireddu uchelgeisiau Caerdydd i greu coedwig drefol ar gyfer dinas werddach a'n gwthio'n nes at ein nod o gynyddu gorchudd coed y ddinas i 25%.

 

"Mae'r wybodaeth a ddarparwyd gennych yn arolwg 2019 wedi ein helpu i sicrhau ychydig yn brin o £1m o gyllid gan Lywodraeth Cymru a Coed Cadw i lansio ein rhaglen Coed Caerdydd a byddwn yn dechrau plannu coed ar draws y ddinas dros y ddau dymor plannu nesaf, hyd at fis Mehefin 2023.

 

"Hoffem gael gwybod a yw barn eich barn ar blannu coed wedi newid ers 2019; yn enwedig ers pandemig Covid-19, cyhoeddi Strategaeth Un Blaned y ddinas a datgan yr argyfwng hinsawdd."

 

Bydd arolwg Coed Caerdydd yn cau ddydd Gwener, 29 Hydref. Mae'n cymryd tua 10 munud i'w gwblhau a gellir ei wneud ar-lein ynhttps://www.outdoorcardiff.com/cy/bioamrywiaeth/coed-caerdydd/