Back
Dyfodol disglair i ddau o adeiladau treftadaeth gorau Caerdydd

11/10/21


Mae cynlluniau ar waith i adfywio dau o adeiladau treftadaeth gorau Bae Caerdydd, sydd wedi bod yn wag ers 20 mlynedd.

Ar ddiwedd 2020 prynodd Cyngor Caerdydd Merchant Place/Adeiladau Cory ar gornel Stryd Bute a Stryd James. Bwriad y Cyngor oedd diogelu'r adeiladau fel rhan o'i gynlluniau i adfywio ardal Glanfa'r Iwerydd a'r Bae, a dod o hyd i bartner yn y sector preifat a allai brynu'r eiddo gan y Cyngor a rhoi bywyd newydd iddynt heb unrhyw gost i'r trethdalwr.

Nawr bydd Cabinet Cyngor Caerdydd yn ystyried adroddiad ddydd Iau, 13 Hydref, sy'n argymell bod y Cyngor yn gwerthu'r adeiladau i Dukes Education, perchnogion Coleg 6ed Dosbarth Caerdydd, sydd wedi'i leoli ar Heol Casnewydd ar hyn o bryd.

Mae'r argymhelliad yn dilyn ymarfer marchnata a welodd bedwar cais am yr adeiladau yn cael eu cyflwyno a fyddai wedi galluogi'r Cyngor i adennill yr arian a wariwyd ganddo i gaffael yr eiddo. 

Dywedodd y Cynghorydd Russell Goodway, yr Aelod Cabinet dros Fuddsoddi a Datblygu: "Bydd y cynnig yn caniatáu i'r Cyngor adennill ei fuddsoddiad cychwynnol yn llawn. Bydd yn arwain at adfer yr adeiladau treftadaeth yn llawn a bydd yn darparu cynllun bywiog sy'n cyd-fynd yn dda â'r amgylchedd lleol ac yn cefnogi strategaeth y Cyngor ar gyfer yr ardal. Bydd Dukes Education yn darparu cynllun perchen-feddiannwr, gan leihau lefel y risg datblygu o'i gymharu â chynlluniau sy'n dibynnu ar sicrhau tenantiaid. Gallai natur ryngwladol y coleg hefyd roi hwb o ran denu ymwelwyr rhyngwladol i Fae Caerdydd, ond ein prif ystyriaeth oedd sicrhau cynllun cadarn sy'n adfywio'r adeiladau.

Er bod Coleg 6ed Dosbarth Caerdydd yn denu myfyrwyr o dramor yn bennaf, mae hefyd yn cynnig tua 21% o leoedd i fyfyrwyr o Gaerdydd a'r cyffiniau, y mae'r rhan fwyaf ohonynt yn cael eu darparu gan gynllun ysgoloriaeth y coleg ac yn cael eu talu'n llawn.

Ychwanegodd y Cynghorydd Goodway: "Bydd y cynnig ar gyfer Merchant's Place/Adeilad Cory yn gweld yr adeiladau hanesyddol yn cael eu huwchraddio'n llwyr i'w defnyddio fel llety addysgu gyda gweithgarwch ar y llawr gwaelod gan gynnwys siop goffi. Bydd y safle y tu ôl i'r adeiladau, oddi ar Docks Lane, yn cael ei ddatblygu i ddarparu cyfran o ofyniad llety preswyl y Coleg. Mae ail safle hefyd wedi'i sicrhau ar Stryd Pen y Lanfa i ddarparu'r llety preswyl sy'n weddill."