Back
Cynlluniau i ehangu ac ad-drefnu darpariaeth ar gyfer disgyblion ag Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY)



8/10/2021

Mae cynlluniau sylweddol i ehangu'r ddarpariaeth ar gyfer plant a phobl ifanc ag ADY, Anghenion Dysgu Cymhleth (ADC) ac anghenion iechyd a lles wedi'u datgelu gan Gyngor Caerdydd.

Mewn adroddiad i'r Cabinet, gwneir argymhellion i gynnal ymgynghoriad cyhoeddus ar ystod eang o gynigion i helpu i ateb y galw cynyddol am leoedd mewn ysgolion arbennig ac mewn Canolfannau Adnoddau Arbenigol (CAA) cynradd ac uwchradd mewn ysgolion ledled y ddinas.

Yn gyson â gweledigaeth Caerdydd 2030 ar gyfer addysg a dysgu sy'n gosod uchelgais lle gall pob plentyn a pherson ifanc fanteisio ar lwybrau priodol i gyfleoedd addysg a dysgu, byddai'r cynigion yn sicrhau: 

  • 136 o leoedd uwchradd ac ôl-16 ychwanegol i blant ag anghenion iechyd a lles emosiynol (AILlE)
  • 139 o leoedd ychwanegol i blant oedran uwchradd ag ADC ac Anhwylder Sbectrwm Awtistiaeth (ASA)
  • 42 o leoedd ychwanegol i blant 3-19 oed ag ADC ac ASA
  • 150 o leoedd ychwanegol i blant ag ADC ac ASA mewn ysgolion cynradd

Ar hyn o bryd mae gan Gaerdydd 17 o CAA mewn ysgolion cynradd ac uwchradd sy'n cynnig cymorth a chyfleoedd fel y gall disgyblion ag anawsterau dysgu lwyddo mewn amgylchedd ysgol prif ffrwd. Mae hefyd saith Ysgol Arbennig, pum dosbarth lles cynradd, Uned Cyfeirio Disgyblion arbenigol a dosbarth lleferydd ac iaith cynradd

Fodd bynnag, mae twf poblogaeth disgyblion a chymhlethdod cynyddol anghenion rhai dysgwyr wedi golygu bod y gofyniad am ddarpariaeth arbenigol wedi cynyddu. Mae cyfraddau goroesi gwell ar gyfer plant sy'n cael eu geni ag anableddau sylweddol sy'n arwain at anableddau difrifol a chymhleth hefyd wedi cynyddu, sy'n golygu bod nifer y disgyblion sydd angen lle mewn ysgol arbennig neu CAA wedi parhau i dyfu.

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Addysg, Cyflogaeth a Sgiliau, y Cynghorydd Sarah Merry: Mae Caerdydd 2030 yn amlinellu nod yr 'Hawl i Ddysgu' sy'n galluogi pob dysgwr i gael y cyfle a'r gefnogaeth i gyflawni, ffynnu a gwireddu ei freuddwydion a'i uchelgeisiau unigol. Er mwyn gwella deilliannau i'n dysgwyr mwyaf agored i niwed, y mae llawer ohonynt yn wynebu rhwystrau i ymgysylltu ag addysg a dysgu, mae mynd i'r afael ag anghydraddoldeb yn allweddol.

"Eisoes yng Nghaerdydd, rydym wedi cynyddu nifer y CAA; mae'r cynlluniau ehangu ac ailadeiladu ar gyfer Ysgolion Arbennig Glan-yr-afon a Woodlands yn mynd rhagddynt; ac yn hydref 2021, ymgynghorir â chynigion i gynyddu nifer y lleoedd yn Ysgol y Court a sefydlu CAA newydd yn Ysgol Gynradd Moorland.

"Gwnaed ymrwymiadau pellach i sicrhau bod yr ystod o arbenigedd, cymorth arbenigol a chyfleusterau sydd ar gael yn ysgolion Caerdydd yn cynnig lleoliadau dysgu cynhwysol sy'n bodloni anghenion disgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol, ond rydym yn cydnabod bod y galw'n cynyddu.

"Os gellir bwrw ymlaen â'r cynlluniau hyn, gallent helpu Caerdydd i gynyddu'r ystod o opsiynau i ddysgwyr wrth helpu i sicrhau bod ein dysgwyr mwyaf agored i niwed yn gallu manteisio ar arbenigedd ac amgylcheddau arbenigol, fel y gallant ffynnu yng Nghaerdydd a chyflawni eu potensial ar gyfer y dyfodol.

Mae'r cynlluniau arfaethedig sy'n ymwneud ag ysgolion arbennig yn cynnwys:

  • Cynyddu nifer y lleoedd yn Ysgol Arbennig Greenhill o 64 i 160. Byddai'r ysgol yn trosglwyddo i adeiladau newydd ar draws dau safle, sef Tŷ Glas yn Llanisien a'r Ganolfan Arddio Iseldiraidd, gydag 80 o ddisgyblion ar y ddwy safle o fis Medi 2025.
  • Cynyddu nifer dynodedig Ysgol Arbennig Tŷ Gwyn o 198 i 240 o fis Medi 2022
  • Cynyddu'r nifer dynodedig ar gyfer Ysgol Arbennig The Hollies o 90 i 119 o fis Medi 2022 a chynnydd pellach i 150 o fis Medi 2023 
  • Cynyddu nifer dynodedig y lleoedd yn Ysgol Arbennig Meadowbank o 40 i 98 o fis Medi 2022

Mae'r cynigion hefyd yn cynnwys ehangu neu sefydlu 12 CAA. Ar gyfer ysgolion uwchradd maent yn cynnwys:

  • Sefydlu Canolfan Adnoddau Arbenigol â 20 lle ar gyfer iechyd a lles emosiynol yn Ysgol Uwchradd Gymunedol Gorllewin Caerdydd o fis Medi 2022
  • Sefydlu Canolfan Adnoddau Arbenigol â 20 lle ar gyfer iechyd a lles emosiynol yn Ysgol Uwchradd y Dwyrain o fis Medi 2022
  • Cynyddu nifer dynodedig y lleoedd yng Nghanolfan Adnoddau Arbenigol Awtistiaeth Ysgol Uwchradd Llanisien o 20 i 45 o fis Medi 2022
  • Cynyddu nifer dynodedig y lleoedd yng Nghanolfan Adnoddau Arbenigol Awtistiaeth Canolfan Marion o 42 i 66 o fis Medi 2022
  • Cynyddu nifer dynodedig y lleoedd yng Nghanolfan Adnoddau Arbenigol Ysgol Uwchradd yr Eglwys Newydd o 70 i 100 o fis Medi 2022
  • Sefydlu Canolfan Adnoddau Arbenigol â 30 lle yn Ysgol Uwchradd Willows o fis Medi 2025 
  • Sefydlu Canolfan Adnoddau Arbenigol Awtistiaeth â 30 lle ochr yn ochr â'r Ganolfan Adnoddau Arbenigol 30 lle presennol yn Ysgol Gyfun Gymraeg Glantaf o fis Medi 2023

Mae cynlluniau CAA cynradd yn cynnwys:

  • Cynyddu nifer dynodedig y lleoedd yng Nghanolfan Adnoddau Arbenigol Ysgol Gynradd Llanisien Fach o 20 i 30 o leoedd o fis Medi 2023
  • Cynyddu nifer dynodedig y lleoedd yng Nghanolfan Adnoddau Arbenigol Ysgol Gynradd Marlborough o 20 i 30 o fis Medi 2022
  • Cynyddu nifer dynodedig y lleoedd yng Nghanolfan Adnoddau Arbenigol Awtistiaeth Ysgol Gynradd Pentre-baen o 20 i 24 o fis Medi 2022
  • Cynyddu nifer dynodedig y lleoedd yng Nghanolfan Adnoddau Arbenigol Awtistiaeth Ysgol Gynradd Springwood o 20 i 28 o fis Medi 2022

Ychwanegodd y Cynghorydd Merry:  "Yn ogystal â sicrhau digon o leoedd, byddai'r cynigion yn helpu i fynd i'r afael â chyflwr gwael rhai adeiladau ysgol ac addasrwydd amgylcheddau dysgu.

"Dan Fand B y Rhaglen Fuddsoddi, eir i'r afael â'r problemau mwyaf difrifol o ran digonolrwydd a chyflwr yng Nghaerdydd.  Os cytunir ar y cynigion, byddai cyfleoedd yn cael eu creu i drawsnewid cyfleoedd dysgu ar gyfer nifer mwy o'r dysgwyr mwyaf agored i niwed yng Nghaerdydd mewn amgylcheddau dysgu arbenigol pwrpasol yr 21ain ganrif, wrth alluogi'r Cyngor i gyflawni ei gyfrifoldeb statudol i roi addysg briodol i blant ag ADY."

O fewn y cynlluniau arfaethedig, efallai na fydd angen ymgynghori'n ffurfiol ar y rhai sy'n ceisio cynyddu'r ddarpariaeth o fewn adeiladau sy'n bodoli eisoes. Byddai cynlluniau eraill yn destun ymgynghori a chaffael cyhoeddus pe baent yn mynd yn eu blaenau.

Bydd yr adroddiad yn mynd i'r Cabinet pan fydd yn cwrdd nesaf, sef ddydd Iau 14 Hydref 2021.