08/10/21
Mae Ysgol Farchogaeth Caerdydd wedi cael hwb ariannol i ddarparu ysgol awyr agored newydd a gwell i farchogwyr.
Bydd y prosiect yn cael ei ariannu gan Gyngor Caerdydd a Chyfeillion Ysgol Farchogaeth Caerdydd - sydd wedi rhoi £27,000 i'r gwaith, a fydd yn dechrau ddydd Llun, 11 Hydref.
Mae'r ysgol awyr agored yn Ysgol Farchogaeth Caerdydd, sydd wedi'i lleoli yng Nghaeau Pontcanna, wedi bod ar gau ers 2018. Dirywiodd y cyfleusterau yn sylweddol o 2013 pan ddechreuodd yr ysgol fynd yn adfail.
Fodd bynnag, bydd opsiynau marchogaeth awyr agored yn ailddechrau cyn diwedd mis Tachwedd ar ôl cwblhau'r gwaith gwella yn yr ysgol.
Wedi'i lleoli mewn 35 erw o barcdir, bydd Ysgol Farchogaeth Caerdydd yn cael ei gwella gan y cyfleusterau awyr agored newydd a fydd yn darparu profiad marchogaeth amlbwrpas i bobl o bob gallu mewn lleoliad sy'n addas ar gyfer pob tywydd. Mae gweithgareddau gan gynnwys gwersi, clwb merlod, gwersi marchogaeth i bobl anabl a gwersi marchogaeth merlod i blant ar gael, yn ogystal âchystadlaethau dressage a chyrsiau hyfforddi neidio ceffylau.
Dwedodd yr Aelod Cabinet dros Ddiwylliant a Hamdden, y Cynghorydd Peter Bradbury: "Mae Ysgol Farchogaeth Caerdydd yn ased cymunedol gwych sy'n caniatáu i drigolion Caerdydd ac ymwelwyr gael gwersi marchogaeth ceffylau yng nghanol y ddinas.
"Mae'r lleoliad yn caniatáu i bobl gael mynediad hawdd at gyfleuster a fyddai fel arall allan o gyrraedd iddynt.
"Bydd y cyfleusterau newydd yn dod â'r lle segur hwn yn ôl i ddefnydd i gynyddu'r capasiti ar gyfer gwersi a gwella ansawdd yr ysgol i fanyleb llawer uwch.
"Bydd y gwaith adeiladu yn ailgylchu deunyddiau y gellir eu hailddefnyddio o'r ysgol awyr agored bresennol ac yn cynnwys gwelliannau i'r system ddraenio a gwella bioamrywiaeth y tiroedd cyfagos. Bydd yr ysgol newydd nid yn unig yn edrych yn wych ac yn darparu cyfleoedd marchogaeth awyr agored gydol y flwyddyn i gwsmeriaid, ond bydd y gwaith cysylltiedig yn helpu i wella ansawdd yr amgylchedd o'i gwmpas.
"Hoffwn ddiolch i'r Grŵp Cyfeillion sydd wedi cefnogi'r Ysgol Farchogaeth ers ei sefydlu yn 2013. Mae'r Cyfeillion a'r gwirfoddolwyr yn gwneud cyfraniad sylweddol i'r ysgol - gan godi arian ychwanegol a gweithio'n galed i gynnal a gwella cyfleusterau yn Ysgol Farchogaeth Caerdydd i farchogion, ymwelwyr a cheffylau."
Dywedodd llefarydd ar ran Cyfeillion Ysgol Farchogaeth Caerdydd: "Fel grŵp Cyfeillion Ysgol Farchogaeth Caerdydd, rydym wedi trefnu amrywiaeth o weithgareddau codi arian gyda'r nod yn y pen draw o gyfrannu at adnewyddu ein harena farchogaeth awyr agored. Rydym wrth ein boddau ac yn llawn cyffro bod y prosiect hwn wedi denu cefnogaeth y Cyngor, a bod y gwaith yn dechrau ddydd Llun. Ffurfiwyd y grŵp yn 2013, a'n nod yw codi ymwybyddiaeth o fodolaeth a manteision yr ysgol farchogaeth, cefnogi'r staff a gwella cyfleusterau yn yr ysgol. Mae hyn yn cynnwys helpu i ofalu am y ceffylau a'r merlod a chynorthwyo i gynnal amgylchedd yr ysgol."
Ysgol Farchogaeth Caerdydd yw'r unig ganolfan hygyrchedd yng Nghymru ac mae gan dîm yr ysgol farchogaeth uchelgais i ddenu mwy o gwsmeriaid anabl gan wneud yr ysgol yn ganolfan ragoriaeth yng nghanol Caerdydd.
Cefnogir Ysgol Farchogaeth Caerdydd gan Grŵp Cyfeillion Ysgol Farchogaeth Caerdydd ac mae'n darparu profiadau i bobl ag amrywiaeth o anghenion addysgol, corfforol a chymdeithasol. Mae hefyd yn darparu ar gyfer cwsmeriaid masnachol ac yn darparu ar gyfer lifreion preifat, gwersi uwch a chystadlaethau.
Darllenwch ragor yma: Ysgol Farchogaeth Caerdydd - Awyr Agored Caerdydd