Back
Tîm Tai yn Gyntaf Caerdydd yn cyrraedd y brig!


6/10/21

Mae tîm Tai yn Gyntaf Cyngor Caerdydd wedi cipio gwobr genedlaethol am ei gyfraniad rhagorol i'r sector tai yng Nghymru.

Mae'r tîm, sy'n darparu llety a gwasanaethau cymorth dwys i helpu unigolion sydd wedi bod yn cysgu ar y stryd i ailadeiladu eu bywydau i ffwrdd o'r strydoedd, wedi cael ei enwi'n Dîm Tai'r Flwyddyn yng Ngwobrau Tai Cymru y Sefydliad Tai Siartredig.

Mewn seremoni rithwir, cyflwynwyd y wobr i'r aelod o'r tîm Aimee Fontenot, a fu'n rheoli'r gwasanaeth Tai yn Gyntaf dros y flwyddyn ddiwethaf.


Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Dai a Chymunedau, y Cynghorydd Lynda Thorne: "Mae'n wych gweld ein tîm Tai yn Gyntaf yn cael ei gydnabod ar y llwyfan cenedlaethol hwn.  Nid gor-ddweud yw dweud bod y tîm cyfan yn ymdrechu galon ac enaid i gefnogi'r cleientiaid o ran darpariaeth Tai yn Gyntaf felly mae'r wobr hon mor haeddiannol.


"Mae Tai yn Gyntaf yn chwarae rhan bwysig yn y gwaith a wnawn yn y ddinas i gefnogi pobl sy'n agored i niwed ar eu siwrne i ffwrdd o ddigartrefedd ac rydym wedi cynyddu'r gwasanaeth dros y blynyddoedd diwethaf yn dilyn ei lwyddiannau sylweddol. Rwy' mor falch bod y tîm wedi ennill y wobr hon, am y cyfraniad y maent yn ei wneud er mwyn helpu i fynd i'r afael â digartrefedd yng Nghaerdydd."

 

Mae Tai yn Gyntaf yn ddull tai a chymorth sydd, fel yr awgryma'r enw, yn rhoi cartref sefydlog i bobl sydd wedi profi digartrefedd, ac sydd ag anghenion cymhleth, i allu ailadeiladu eu bywydau. Mae'r gwasanaeth yn darparu cymorth cyfannol, dwys, sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn ac sy'n benagored.

Ar hyn o bryd mae'r Cyngor yn cefnogi 30 o bobl yn ei ddarpariaeth Tai yn Gyntaf gyda 12 o unigolion yn cael mynediad i'w Brosiect Cysgu Allan a 18 yn y Prosiect Ymadawyr Carchardai.  

Roedd y gwobrau'n agored i bob sefydliad sy'n gweithio ym maes tai o ran unrhyw fath o ddeiliadaeth yng Nghymru. Edrychodd y beirniaid am dystiolaeth o brosiect penodol neu dasg anodd yr aed i'r afael â hi'n dda ar y cyd neu sut y gwnaeth enwebeion wella perfformiad eu sefydliad neu wella canlyniadau i denantiaid a chymunedau.