Dyma'r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Caerdydd, gan gynnwys: trefniadau i ddod ar gyfer Profion COVID-19 i blant a phobl ifanc a staff sy'n gweithio mewn ysgolion a cholegau arbennig; nifer achosion a phrofion COVID-19 Caerdydd; a cyfanswm brechu Caerdydd a Bro Morgannwg.
Trefniadau i ddod ar gyfer Profion COVID-19 i blant a phobl ifanc a staff sy'n gweithio mewn ysgolion a cholegau arbennig
Isod ceir deunyddiau yn gysylltiedig â chyhoeddiad Gweinidog y Gymraeg ac Addysg heddiw ynglŷn â newidiadau i drefniadau profi ar gyfer plant a phobl ifanc ac ar gyfer staff yn gweithio mewn ysgolion a cholegau arbennig.
Datganiad Ysgrifenedig:
Cwestiynau Cyffredin:
https://llyw.cymru/ysgolion-canllawiau-coronafeirws
Bydd y newidiadau hyn yn dod i rym yn ffurfiol o ddydd Llun 11 Hydref.
Achosion a Phrofion Caerdydd - Data'r 7 Diwrnod (24 Medi - 30 Medi)
Yn seiliedig ar ffigurau diweddaraf Iechyd Cyhoeddus Cymru
Mae'r data'n gywir ar:
04 Hydref 2021, 09:00
Achosion: 2,022
Achosion fesul 100,000 o'r boblogaeth: 551.1 (Cymru: 530.5 achosion fesul 100,000 o'r boblogaeth)
Achosion profi: 13,722
Profion fesul 100,000 o'r boblogaeth: 3,740.0
Cyfran bositif: 14.7% (Cymru: 14.6% cyfran bositif)
Diweddariad Statws Brechu Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro - 04 Hydref
Ddarparwyd y data gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro
Sylwer y gall fod mân ddiwygiadau i ddata wrth iddo gael ei ddilysu dros amser
Cyfanswm nifer y dosau brechu a roddwyd gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro hyd yn hyn, yn y ddwy ardal awdurdod lleol: 729,393 (Dos 1: 371,881 Dos 2: 357,512)