Back
Newyddion gan Gyngor Caerdydd dros y 7 diwrnod diwethaf y gallech fod wedi'i golli 04/10/21

 

01/10/21 - Rhentu Doeth Cymru yn galw landlord didrwydded i gyfrif

Mae landlord o Gymru a oedd wedi cael gwrthod trwydded gan Rhentu Doeth Cymru i gynnal gweithgareddau gosod a rheoli, wedi'i gael yn euog o reoli ei eiddo yn anghyfreithlon.

Darllenwch fwy yma:

https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/27668.html

 

01/10/21 - Bydd trigolion Caerdydd yn parhau i gael gwasanaeth casglu gwastraff gardd misol drwy gydol mis Hydref

Bydd trigolion Caerdydd yn parhau i gael gwasanaeth casglu gwastraff gardd misol drwy gydol mis Hydref. Rydym yn cynghori trigolion i edrych ar wefan y cyngor -www.caerdydd.gov.uk/gwastraffgardd-neu app Cardiff Gov, i gael gwybod pryd y bydd eu gwastraff gardd yn cael ei gasglu ym mhob ardal y ddinas.

Darllenwch fwy yma:

https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/27664.html

 

01/10/21 - Adolygu Ffiniau Etholiadol Awdurdodau Lleol

Bydd nifer o newidiadau i drefniadau ffiniau etholiadol yng Nghaerdydd yn digwydd dros y misoedd nesaf, yn dilyn penderfyniad a gyhoeddwyd heddiw gan Weinidog Llywodraeth Cymru dros Gyllid a Llywodraeth Leol.

Darllenwch fwy yma:

https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/27661.html

 

30/09/21 - Lansio rheolau newydd i orfodi perchnogion cŵn i fod yn gyfrifol

Bydd y Gorchymyn Diogelu Mannau Agored Cyhoeddus, o dan Ddeddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, Troseddu a Phlismona 2014, yn caniatáu i gyngor Caerdydd gymryd camau yn erbyn perchnogion cŵn sy'n caniatáu i'w hanifeiliaid anwes faeddu mewn ardal o dir cyhoed

Darllenwch fwy yma:

https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/27656.html

 

30/09/21 - Niferoedd ymwelwyr yng nghanol dinas Caerdydd yn bownsio'n ôl fis Awst 2021 - yn wahanol i'r duedd yng Nghymru a gweddi

Mae nifer y bobl sy'n ymweld â Chanol Dinas Caerdydd ym mis Awst eleni ond 5% yn llai nag yr oedd ym mis Awst 2019, y flwyddyn cyn i'r pandemig daro.

Darllenwch fwy yma:

https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/27650.html

 

29/09/21 - Dadorchuddio heneb i bennaeth du cyntaf Cymru, Betty Campbell, yng nghanol dinas Caerdydd

Mae heneb i anrhydeddu Betty Campbell MBE, pennaeth du cyntaf Cymru a hyrwyddwr cydraddoldeb ac amrywiaeth yn cael ei dadorchuddio yng nghanol dinas Caerdydd

Darllenwch fwy yma:

https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/27647.html