1/10/21
Bydd nifer o newidiadau i drefniadau ffiniau etholiadol yng Nghaerdydd yn digwydd dros y misoedd nesaf, yn dilyn penderfyniad a gyhoeddwyd heddiw gan Weinidog Llywodraeth Cymru dros Gyllid a Llywodraeth Leol.
Mae'r newidiadau'n ceisio sicrhau bod cymhareb nifer etholwyr llywodraeth leol i'r nifer o gynghorwyr mewn ward, cyn belled ag y bo modd, yr un fath ym mhob ward yn y ddinas.
Yn dilyn argymhellion yn gynharach eleni gan Gomisiwn Ffiniau Democratiaeth Leol i Gymru i wneud diwygiadau i'r trefniadau presennol yn y ddinas, mae'r Gweinidog Rebecca Evans AS wedi penderfynu gweithredu'r argymhellion gydag addasiadau.
Bydd y newidiadau'n gweld nifer yr aelodau etholedig yn y ddinas yn cynyddu o'r ffigur presennol o 75 i 79, tra bydd nifer y wardiau etholiadol yn gostwng o 29 i 28. Bydd ward bresennol Creigiau / Sain Ffagan yn cael ei chynnwys mewn ward newydd - Pentyrch a Sain Ffagan tra bydd ardal y Ddraenen, a oedd gynt wedi'i chynnwys yn ward Llanisien, bellach yn dod yn rhan o ward newydd Llys-faen a'r Ddraenen.
Bydd rhai wardiau yn y ddinas yn gweld cynnydd yn nifer yr aelodau sy'n gwasanaethu'r ward, tra bod eraill yn gweld gostyngiad. Mewn 19 ward ni fydd unrhyw newidiadau.
Ni chytunwyd ar yr argymhelliad i gyfuno cymunedau Llanrhymni a Phentref Laneirwg i ffurfio ward newydd a gynrychiolid gan dri chynghorydd.
Caiff y newidiadau hyn eu hadlewyrchu yng nghyhoeddiad diwygiedig y gofrestr etholwyr ar 1 Rhagfyr 2021 a byddant mewn grym ar gyfer yr Etholiadau Llywodraeth Leol a drefnwyd ar gyfer 5 Mai 2022.
I gael rhagor o wybodaeth, darllenwch ddatganiad ysgrifenedig y Gweinidog yma: https://gov.wales/written-statement-local-authority-electoral-boundary-review-update-9