30/09/21
Mae nifer y bobl sy'n ymweld â Chanol Dinas Caerdydd ym mis Awst eleni ond 5% yn llai nag yr oedd ym mis Awst 2019, y flwyddyn cyn i'r pandemig daro.
Mae'r ffigurau'n dangos bod Caerdydd yn wahanol i'r duedd ledled Cymru a dinasoedd eraill y Deyrnas Gyfunol, sydd ar gyfartaledd yn gweld gostyngiad o 17.7% a 23% yn y drefn honno yn niferoedd eu ymwelwyr. Mae'r ffigurau'n rhoi arwydd clir bod canol y ddinas yn gwella o'r pandemig, yn gynt na'r disgwyl.
Dwedodd yr Aelod Cabinet dros Fuddsoddi a Datblygu, Cyngor Caerdydd, y Cynghorydd Russell Goodway: "Yn ystod mis Awst 2021, roedd ffigurau nifer yr ymwelwyr yng nghanol y ddinas 36.8% yn uwch na'r flwyddyn flaenorol ac mewn cyfnodau penodol, roedd y ffigurau'n uwch na'r nifer a welwyd yma yn 2019, cyn i'r pandemig ddechrau.
"Does dim dwywaith bod y pandemig wedi cael effaith enfawr ar fasnach, ond yr hyn sydd angen i ni ganolbwyntio arno nawr yw sut mae canol y ddinas yn adfer. Mae canol y ddinas yn brysur ac rwy'n falch o weld y sector manwerthu a lletygarwch yn bownsio'n ôl mor gyflym, ar ôl dwy flynedd anodd iawn. Mae awyrgylch bywiog mewn bariau, tafarndai a bwytai ledled y ddinas ac mae'n dangos sut y mae'r sector wedi gallu addasu i wneud y defnydd gorau o'r gofod awyr agored sydd ar gael.
"Wrth i ddigwyddiadau mawr ddychwelyd i ganol y ddinas yn yr hydref, gan arwain at dymor y Nadolig, rydym yn disgwyl gweld nifer yr ymwelwyr yn cynyddu'n sylweddol yn ystod y misoedd nesaf. Bydd hyn yn ei dro yn cynyddu'n sylweddol faint o arian sy'n cael ei wario mewn siopau, gwestyau, bariau, tafarndai a thai bwyta, gan roi hwb pellach i'r economi leol.
"Mae'r cyngor hefyd wedi cynnal arolwg gyda rhai o fusnesau mwyaf y sector swyddfeydd yn ddiweddar ar eu strategaeth dychwelyd i'r gwaith. Mae'r arwyddion yn dangos y bydd y rhan fwyaf o fusnesau'n parhau â'u cynlluniau o gael staff yn gweithio'n rhannol gartref ac yn rhannol yn y swyddfa, gyda'r rhan fwyaf o weithwyr yn dychwelyd i'r swyddfa ddwy neu dair gwaith yr wythnos o ddechrau mis Medi. Bydd hyn hefyd yn gwneud cyfraniad sylweddol at adferiad canol y ddinas."
Mesurir nifer yr ymwelwyr yng nghanol y ddinas gan ddefnyddio saith camera sydd wedi'u lleoli mewn mannau allweddol, gan gynnwys Heol y Brodyr Llwydion, y Stryd Fawr, Arcêd y Stryd Fawr, Heol y Frenhines, Yr Ais a Heol Eglwys Fair.
Mae'r camerâu'n mesur nifer yr ymwelwyr - sef y nifer sy'n cerdded o amgylch canol y ddinas - yn hytrach na chyfrif pobl unigol, ond mae'r ffigyrau'n arwydd da i fesur a oes naill ai twf neu ddirywiad yn y defnydd a wneir o ganol y ddinas.