Back
Dadorchuddio heneb i bennaeth du cyntaf Cymru, Betty Campbell, yng nghanol dinas Caerdydd

29.09.2021

Mae heneb i anrhydeddu Betty Campbell MBE, pennaeth du cyntaf Cymru a hyrwyddwr cydraddoldeb ac amrywiaeth yn cael ei dadorchuddio yng nghanol dinas Caerdydd. 

Hwn fydd y cerflun cyntaf erioed o fenyw a enwir, nad yw'n gymeriad ffug, i'w godi mewn man cyhoeddus awyr agored yng Nghymru.

Fe'i dyluniwyd a'i chreu gan y cerflunydd ffigurol enwog, Eve Shepherd, sy'n adnabyddus am ei gwaith beiddgar, hardd a grymus.

Cafodd y cerflun ei gomisiynu yn dilyn ymgyrch Hidden Heroines a drefnwyd gan Monumental Welsh Women ac a ddarlledwyd ar BBC Cymru. Daeth Betty Campbell ar y brig mewn pleidlais gyhoeddus i benderfynu pwy fyddai'r cerflun cyntaf erioed o fenyw a enwir, nad yw'n gymeriad ffug yng Nghymru.

Dwedodd Arweinydd Cyngor Caerdydd, y Cynghorydd Huw Thomas:   "Mae'n deyrnged addas i Betty - menyw mor bwysig yn hanes Cymru a Chaerdydd - i'w hanrhydeddu a'i choffáu yn y ffordd anhygoel hon yng nghanol y ddinas.

"Bydd safle blaenllaw cofeb Betty yn ysbrydoli pobl Caerdydd ac ymwelwyr a gaiff eu hatgoffa am ei stori a'r cyfraniad enfawr a wnaeth i addysg y bywyd y gymuned.

"Bydd pobl o bob oed yn dysgu am etifeddiaeth Betty. Mae hwn yn ddechrau gwych i'rffigurau blaenllaw o Gymru Ddu a fydd yn cael eu dathlu a'u coffáu'n gyhoeddus yn y flwyddyn i ddod".

Dywedodd Cadeirydd y Tasglu Cydraddoldeb Hiliol a Chynghorydd Butetown, y Cynghorydd Saeed Ebrahim:"Ces i fy magu yn Butetown a bues i'n ddigon ffodus i adnabod Betty yn bersonol oherwydd dysgodd hi lawer o fy ffrindiau a fy nheulu. Mae hon yn foment arbennig iawn i gymuned Butetown.

"Rydym wrth ein boddau yn cefnogi gosod heneb Betty mewn partneriaeth â Straeon Caerdydd a Monumental Welsh Women, yn parhau i ddathlu Cymru Ddu a Hanes Caerdydd."

"Ar ôl blynyddoedd o waith caled gan Monumental Welsh Women, mae heneb Betty yng nghanol y ddinas yn foment falch i gymuned Caerdydd."

Ganwyd Betty Campbell yn Butetown ym 1934 a'i magu yn nhlodwch Tiger Bay, cafodd ei mam hi'n anodd cael dau ben llinyn ynghyd ar ôl i'w thad gael ei ladd yn yr Ail Ryfel Byd. Roedd hi'n blentyn myfyrgar a oedd wrth ei bodd yn dysgu, enillodd ysgoloriaeth i Ysgol Uwchradd y Foneddiges Margaret i Ferched yng Nghaerdydd, ond dywedodd ei hathrawes wrth Betty Campbell na allai merch ddu dosbarth gweithiol fyth gyrraedd yr uchelfannau academaidd yr oedd hi'n dyheu am eu cyrraedd. Profodd y gwrthwyneb i'r rhai a oedd yn ei hamau, yn ffordd fwyaf ysbrydoledig. Ac mae'r heneb barhaol hon yng nghanol dinas Caerdydd yn dyst i'w hymdrechion yn wyneb adfyd.

Dylanwadodd Betty Campbell ar fywyd Cymru drwy gyfres o benodiadau cyhoeddus; bu'n gwasanaethu fel cynghorydd annibynnol dros Butetown, aelod o fwrdd BBC Wales, aelod o bwyllgor cynghori hiliol y Swyddfa Gartref ac aelod o'r Comisiwn Cydraddoldeb Hiliol. Helpodd i greu Mis Hanes Pobl Dduon ac yn 2003 dyfarnwyd MBE iddi am ei gwasanaethau i addysg a bywyd cymunedol.

Mwy yma:https://monumentalwelshwomen.com/